Ysgubor Newydd

Machynlleth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £539 yr wythnos
  • £77 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Parcio ar y stryd

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

O fewn pellter cerdded i bob cyfleuster gan gynnwys bwytai gwych, caffis a siopau unigryw, mae’r bwthyn hwn sy’n llawn cymeriad yn cynnig llety croesawgar i chi ym Machynlleth, sef tref farchnad fechan yn Nyffryn Dyfi hyfryd. Mae’r ardal yn rhan o Fïosffer Dyfi sydd wedi’i ddynodi gan UNESCO, ac mae hefyd yn borth deheuol i Barc Cenedlaethol Eryri. Mae Ysgubor Newydd yn enghraifft brin o adeilad canoloesol trefol, ac mae’n lle gwych i fynd i fwynhau prifddinas hynafol Cymru. Mae’n ganolog i ogledd, canolbarth a de Cymru gyda chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwych o bob cyfeiriad.

Llawr Gwaelod

Mae’r llety hwn ym Machynlleth yn llawn cymeriad, ac mae’n eich croesawu gyda chyntedd mawr sy’n arwain i’r ystafell fyw ar y llawr cyntaf, a’r ddwy lofft a’r ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod.

Ystafell wely 1 – Gwely dwbl gyda chypyrddau a lampau wrth ochr y gwely. Rheilen ddillad a chist ddillad.

Ystafell wely 2 – Ystafell wely â dau wely sengl maint llawn. Mae cypyrddau wrth ochr y gwely â lampau arnynt, a chwpwrdd dillad mawr â droriau. Simdde fawr nodweddiadol (addurn yn unig).

Ystafell ymolchi – Bath gyda chawod drosto, tŷ bach, basn ymolchi a rheilen cynhesu tyweli.

Llawr Cyntaf

Ystafell cynllun agored fawr sy’n defnyddio llawr cyntaf y bwthyn i gyd.

Cegin – Peiriant golchi llestri, peiriant golchi / sychu dillad, microdon a thegell, oergell, hob nwy a ffwrn drydan.

Man bwyta – Bwrdd bwyta gyda lle i hyd at 6 o westeion.

Lolfa – 2 soffa gyfforddus o flaen tân trydan gydag effaith fflam a lampau darllen. Teledu a chwaraewr BluRay / DVD.

Y Tu Allan

Mae’r bwthyn i lawr stryd dawel (lôn sengl), ac mae o fewn pellter cerdded i bopeth sydd gan Machynlleth i’w gynnig. Mae hyn yn cynnwys tir y Plas sy’n cynnwys gerddi addurniadol, mannau picnic, man chwarae plant a llwybrau cerdded hyfryd.  

Ceir caffi / deli rownd y gornel o’r bwthyn hefyd ac mae digon o gaffis eraill, ystafelloedd te, bwytai a thafarndai croesawgar o gwmpas y dref.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae’r pecyn sy’n eich croesawu yn cynnwys te a choffi, llaeth a siwgr, cacen a naill ai botel o win coch/gwyn neu 'fruit juice'.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr.
  • Darperir 1 sychwr gwallt.
  • Wi-fi ar gael.
  • Mae cot babi, cadair uchel a giatiau ar ben ac ar waelod y grisiau ar gael ar gais. Dewch â’ch dillad gwely eich hun ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
  • Croesewir 1 anifail anwes am ddim.
  • Parcio am ddim drws nesaf i’r bwthyn (6yh – 8yb), neu yn y maes parcio y tu ôl i Moma Machynlleth ar bob adeg arall (200 llath o’r bwthyn) – am ddim hefyd.
  • Mae’r eitemau eraill sydd ar gael i chi yn cynnwys:.
    • Cegin: papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi peiriant golchi llestri, cadachau llestri a/neu sgwrwyr newydd, ffoil a glynlen/cling ffilm
    • Ystafell ymolchi:sebon llaw a 2 rolyn o bapur ym mhob tŷ bach.
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol:cannydd, glanhawr cawod, hylif gwrthfacteria ac ati.

Lleoliad

Mae’r llety hunan-ddarpar hwn ym Machynlleth wedi’i leoli i lawr stryd ochr dawel, o fewn pellter cerdded i amrywiaeth lawn o gyfleusterau’r dref. Mae Machynlleth yn dref farchnad hardd yng Nghanolbarth Cymru sy’n falch o’i hanes fel Prifddinas Hynafol Cymru: mae Hen Senedd-dŷ Owain Glyndŵr yn parhau i sefyll ac mae bellach yn arddangosfa sy’n cyfleu hanes a dewrder Tywysog olaf Cymru.

Mae Machynlleth hefyd yn gartref i Amgueddfa Celfyddydau Modern Cymru a’r farchnad stryd hynaf ym Mhrydain (bob dydd Mercher). Mae digonedd o gaffis bach hyfryd a siopau unigryw ar stepen eich drws, yn ogystal â dwy archfarchnad a nifer o fwytai da. Mae rhai o’r bwytai a argymhellir gennym yn cynnwys Bistro Number Twenty One a’r Wynnstay ym Machynlleth, y Llew Du yn Nerwen-las (2 filltir) a Glanyrafon ym Mhennal (4 milltir). Gallwch ddod o hyd i gyfleusterau eraill ym Machynlleth hefyd, gan gynnwys banciau, modurdai a nifer o fwytai prydau parod a thafarndai croesawgar fel y Llew Gwyn.

Ymhlith y prif atyniadau o’ch llety ym Machynlleth mae’r traethau tywod yn Aberdyfi (10 milltir) ac Ynyslas (12 milltir) ar ddau ben cyferbyniol yr aber, cwrs golff Aberdyfi, y Sba ym Mhlas Talgarth ym Mhennal, a Rheilffordd Stêm Tal-y-llyn. Mae’r ardal wedi ennill statws UNESCO fel ‘Biosffêr Dyfi’ a dyma fynedfa ddeheuol Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r diwrnodau allan eraill sy’n boblogaidd iawn yn cynnwys Canolfan y Dechnoleg Amgen, Labrinth y Brenin Arthur a Chwareli Corris. I’r de, mae tref brifysgol glan y môr Aberystwyth, sy’n gartref i’r ganolfan gelfyddydol fwyaf yng Nghymru, rheilffordd stêm, sinema, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a detholiad da o gyfleusterau a siopau. Drwy fod mewn lleoliad mor ganolog, mae gwyliau ym Machynlleth yn golygu bod Cymru gyfan o fewn pellter teithio hwylus, ac felly mae nifer y diwrnodau allan posibl bron yn ddiddiwedd.

Cerdded

  • Grisiau Rhufeinig yn arwain at Fryn Glas a Llyn Glanmerin – llwybr cylchol sy’n dechrau o’r Plas ym Machynlleth. 01. Milltir.
  • Llwybr Glyndŵr – llwybr hir yng Nghanolbarth Cymru a gafodd y statws Llwybr Cenedlaethol yn y flwyddyn 2000. Ymunwch â’r llwybr yn y dref, dros y ffordd i’r Senedd-dŷ – 0.2 milltir.
  • Mae Llwybr Dyffryn Dyfi yn dilyn afon Dyfi o’r aber yn Aberdyfi i’w ffyhonnell ar gopa Aran Fawddwy ac yn ôl i lawr ar hyd ochr ddeheuol yr afon, drwy Fachynlleth ac i lawr i Borth. Ymunwch â’r llwybr ar stepen eich drws yn Machynlleth. 0.3 milltir.
  • Cadair Idris – 3 prif lwybr yn dechrau o Abergynolwyn (12 milltir), Dolgellau (16 milltir) a Minffordd (18 milltir).

Beicio

  • Mae Lôn Las Cymru (y llwybr beicio sy’n cysylltu’r gogledd a’r de) yn mynd heibio i’ch llety hunan-ddarpar ym Machynlleth. 0 milltir.
  • Beicio Mynydd Dyfi – Mae pob llwybr yn dechrau o Fachynlleth. 0 milltir.
  • Llwybr Mawddach – Addas i bobl o bob oedran. Perffaith ar gyfer beicio, cerdded a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Dolgellau (16 milltir) i Abermo.
  • Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – Addas i bobl o bob oedran. 24 milltir.

Pysgota

  • Mae afon Dyfi yn cynnig pysgota gwych ac mae’n enwog am frithyll brown, eog a brithyll môr. 0.3 milltir.

Golff

Traethau

  • Aberdyfi – Traeth tywod hir ar ochr ogleddol aber afon Dyfi. Pentref glan y môr hyfryd gyda digonedd o gaffis, siopau a bwytai. 10 milltir.
  • Ynyslas – Traeth hyfryd ar ochr ddeheuol aber afon Dyfi, gyda thwyni tywod yn gefndir iddo. Caffi a lle parcio ar y traeth. 12 milltir.

Chwaraeon Dŵr