- £3,043 yr wythnos
- £435 y noson
- 22 Guests
- 11 Bedrooms
- 9 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 6 o welyau king/super-king
- 2 o welyau dwbl
- 7 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Popty Range/Aga
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 9 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Dau lety mawr yn Llanwrtyd, ychydig fetrau o'i gilydd, yn medru cysgu cyfanswm o 22, ac yn cynnwys twb poeth. Digon o le tu mewn a thu allan sydd yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer aduniad neu ddathliad. Mae'r ddau lety wedi eu adnewyddu'n steilus ac fe geir llwybrau cerdded gwych, beicio mynydd a physgota yn yr ardal leol. Mae'r dref ei hun yn enwog am nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys y râs Dyn v. Ceffyl, Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd, a'r 'Real Ale Wobble'!
Gyda gofod mawr agored yn Llety Llanwrtyd a digon o le i fwyta yn Ffermdy Llanwrtyd, mae'r ddau lety yn berffaith ar gyfer aduniad teuluol neu ffrindiau.
Uned 1 - Llety Llanwrtyd
Llawr Gwaelod Isaf
Mynediad cefn i’r llety.
Ystafell Wely 1 – gwlau twin.
Llawr Gwaelod
Ystafell Eistedd – ystafell fawr ac agored gyda stof losgi coed (aml danwydd) a llefydd eistedd cyfforddus. Ffenestri mawr yn agor tua’r ardd.
Lolfa – Prif lolfa gyda lle i 10 eistedd, teledu a chwaraewr DVD gyda golygfeydd ar hyd y Dyffryn a Chadwyn Fynydd Epynt.
Cegin – Cegin gyda phopeth sydd ei angen arnoch, gyda phopty estynedig, peiriant golchi llestri, microdon, tostiwr, oergell a rhewgell. Ymuno gyda’r ardal fwyta gyda lle i 10 eistedd.
Cyntedd mawr ac ystafell iwtiliti / golchi gyda pheiriant golchi dillad, peiriant sychu dillad ac ystafell gotiau.
Ystafell gawod gyda chawod steilus ar lefel y llawr, toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell ymolchi deuluol fawr gyda bath a chawod fawr ar wahân, toiled, basn a rheilen gynhesu tywelion.
Ystafell Wely 2 - y brif ystafell, gyda gwely maint brenin ac en-suite, a golygfeydd godidog ar hyd y tirlun.
Ystafell Wely 3 – gwely maint brenin gydag en-suite
Ystafell Wely 4 – gwely maint brenin
Ystafell Wely 5 – ystafell ddwbl.
Gardd
Ardal o wair amgaeedig gyda dodrefn gardd, barbeciw ynghyd â golygfeydd gwych ar hyd y dyffryn.
Uned 2 - Ffermdy Llanwrtyd
Llawr Gwaelod
Cegin helaeth gyda llawr cerrig, offer yn cynnwys oergell/rhewgell, popty 6 hob Rangemaster, peiriant golchi llestri, meicrodon, tostiwr, bwrdd a cadeiriau.
Ystafell fwyta eang gyda lle i 11 eistedd. Lle tân traddodiadol gyda stof losgi coed. Mae 1678 wedi ei gerfio ar y trawst uwchben y lle tân sydd yn tynnu'n sylw at oedran y llety.
Lolfa gyda teledu a DVD.
Ystafell iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad
Ystafell gydag uned gawod, toiled a basn.
Cyntedd yn arwain at risiau gwreiddiol sydd wedi eu hadnewyddu
Llawr Cyntaf
Ystafell Wely 1 - gwely dwbwl, gydag ystafell gawod ensuite
Ystafell wely 2 - gwely maint king, gydag ystafell gawod ensuite
Ystafell wely 3 - dau wely sengl
Ystafell wely 4 - gwely sengl
Ystafell ymolchi gyda baddon, toiled a basn
Ystafell gydag uned gawod, toiled a basn
Ail Lawr
Ystafell wely 5 - ystafell eang gyda gwely maint king, yn arwain at ardal all gael ei ddefnyddio fel ystafell ddarllen, ail lolfa/ystafell chwarae, gydag ystafell ymolchi ensuite yn cynnwys uned gawod a basn.
Ystafell wely 6 - gwely maint king, mynediad i'r ystafell hon i fyny grisiau arwahan.
Gardd
Lawnt o flaen y llety gyda bwrdd a chadeiriau i gael eistedd allan a mwynhau edrych ar olygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd o'ch cwmpas.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a'r holl dywelion yn gynwysedig
- Cot a chadair uchel ar gael, ynghyd â photi a chytleri plastig. Gellir gwneud cais am warchodwr plant. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot
- Un gwely sengl arall ar gael drwy gais
- Gwres o dan y llawr drwy'r llety
- DIM anifeiliaid anwes nac ysmygu
- Wifi yn gynwysedig
- Noder fod y lloriau ar fwy nag un lefel
- Cyflenwad cyntaf o goed tân yn gynwysedig (gellir prynu rhagor o goed)
- Y twb poeth ddim i'w ddefnyddio ar ôl 10.30yh na chyn 7.00yb oherwydd gall hyn greu niwsans i'r cymdogion
- Coeden Nadolig ac addurniadau yn gynwysedig ar gyfer archebion y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth, bara a chacennau. Gellir gwneud cais am fwy os dymunir
- Gellir gwneud cais am gael eich pigo fyny o'r orsaf drên agosaf os dymunir (rhaid trefnu ymlaen llaw)