Llety Llanwrtyd

Llanwrtyd Wells, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star
  • Bwthyn 5* yn cysgu 10 mewn llecyn clyd yng nghanol mynyddoedd y Canolbarth. Man delfrydol i deulu neu ffrindiau a gyda llwyth o weithgareddau gerllaw.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,333 yr wythnos
  • £190 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Pwll nofio
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 4 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae’r bwthyn mawr 5 seren hwn mewn llecyn bach clyd ynghanol mynyddoedd Canolbarth Cymru ac wedi ei adnewyddu’n hynod o chwaethus. Mae'n fan delfrydol i deulu neu ffrindiau i ddod at ei gilydd a cheir llwyth o weithgareddau i’w mwynhau yn yr ardal gan gynnwys cerdded, beicio, pysgota, canwio neu ymlacio. Mae Llanwrtyd hefyd yn gartref i nifer o ddigwyddiadau unigryw, yn cynnwys Snorclo Cors, Marathon Dyn yn erbyn Ceffyl a'r Real Ale Ramble.

Llawr Gwaelod Isaf

Mynediad cefn i’r llety.

Ystafell Wely 1 – gwlau twin.

Llawr Gwaelod

Ystafell Eistedd – ystafell fawr ac agored gyda stof losgi coed (aml danwydd) a llefydd eistedd cyfforddus. Ffenestri mawr yn agor tua’r ardd.

Lolfa – Prif lolfa gyda lle i 10 eistedd, teledu a chwaraewr DVD gyda golygfeydd ar hyd y Dyffryn a Chadwyn Fynydd Epynt.

Cegin – Cegin gyda phopeth sydd ei angen arnoch, gyda phopty estynedig, peiriant golchi llestri, microdon, tostiwr, oergell a rhewgell. Ymuno gyda’r ardal fwyta gyda lle i 10 eistedd.

Cyntedd mawr ac ystafell iwtiliti / golchi gyda pheiriant golchi dillad, peiriant sychu dillad ac ystafell gotiau.

Ystafell gawod gyda chawod steilus ar lefel y llawr, toiled a basn.

Llawr Cyntaf

Ystafell ymolchi deuluol fawr gyda bath a chawod fawr ar wahân, toiled, basn a rheilen gynhesu tywelion.

Ystafell Wely 2 - y brif ystafell, gyda gwely maint brenin ac en-suite, a golygfeydd godidog ar hyd y tirlun.

Ystafell Wely 3 – gwely maint brenin gydag en-suite

Ystafell Wely 4 – gwely maint brenin

Ystafell Wely 5 – ystafell ddwbl.

Gardd

Ardal o wair amgaeedig gyda dodrefn gardd, barbeciw ynghyd â golygfeydd gwych ar hyd y dyffryn.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Darperir dillad gwely a thyweli llaw a bath
  • Cot a chadair uchel ar gael, ynghyd â photi a chyllell a fforc blastig. Cyfleusterau gwarchod plant ar gael os bydd cais. (Dewch â dillad gwely i’r cot)
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
  • Nodwch fod rhai lloriau â mwy nag un lefel.
  • Llwyth cyntaf o goed tân am ddim (mwy o goed tân ar gael i’w prynu)
  • Coeden Nadolig ac addurniadau yn gynwysedig ar gyfer bwcins dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth, bara a chacennau. Mae modd darparu mwy ar gais.
  • Mae modd casglu o’r orsaf drenau leol hefyd os bydd cais.
  • Peidiwch a defnyddio'r twb poeth cyn 7 y bore neu ar ol 10.30 y nos

Lleoliad

Mae Llety Llanwrtyd wedi ei leoli oddeutu milltir a hanner o dref fechan Llanwrtyd sydd â sawl tafarn, bwytai a siopau bychan. Rhwng Bannau Brycheiniog a Chwm Elan mae’r bwthyn mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol a bywyd gwyllt gogoneddus. Wedi ei osod o fewn cwm hyfryd sydd wedi ei ddosbarthu fel safle o ddiddordeb gwyddonol penodol arbennig oherwydd ei ystod amrywiol o adar prin, anifeiliaid a phlanhigion. Mae’r bwthyn ar y cyfan ar wahân er ei fod wedi ei gysylltu ag adeilad arall drwy gyfres o hen adeiladau fferm.

Gyda’i leoliad yng nghalon Cymru, mae Llety Llanwrtyd yn berffaith ar gyfer darganfod y Bannau Brycheiniog, Mynyddoedd y Cambrian a bryniau, dyffrynnoedd a choedwigoedd gwych Canolbarth Cymru, yn ogystal â threfi cyfagos Llanfair ym Muallt, Llanymddyfri a Phenfro. Yn y cyfnod Fictorianaidd, roedd Llanwrtyd yn dre sba ffasiynol ac mae llawer o’i westai yn dyddio’n ôl i’r cyfnod hwnnw.

Mae’r ardal o amgylch Llanwrtyd yn llawn harddwch naturiol a golygfeydd gwefreiddiol, sy’n ei wneud yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer cerdded, beicio mynydd, gwylio adar a theithio. Wrth i chi yrru drwy Ganolbarth Cymru, mae’n debygol y gwelwch Farcud Coch, un o adar mwyaf prin Prydain. Mae yna ddigonedd o ddewis ar gyfer cerdded gerllaw yng Nghoedwig Irfon ac o amgylch Cronfa Ddwr Llyn Brianne, llyn artiffisial y’i crëwyd yn y 70au pan roddwyd argae ar Afon Tywi. Ar adegau o brinder glaw, mae’n bosibl weithiau i chi weld toeau’r tai yr oedd yn rhaid eu gorlifo er mwyn creu'r argae.

Mae yna lawer yn cael ei gynnal yn Llanwrtyd gydol y flwyddyn, felly os ydych chi’n chwilio am rywbeth rhywfaint yn wahanol, yna dyma’r lle i ddod iddo. Mae’r dref yng Nghanolbarth Cymru yn gartref i Farathonau Dyn yn erbyn Ceffyl, Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd a’r Real Ale Ramble.

Cerdded

Mae’r llwybr 15 milltir o amgylch Llyn Brianne yn rhoi rhywfaint o’r golygfeydd gwefreiddiol gorau sydd ar gael yng Nghymru tra bod Leaping Stiles yn darparu awgrymiadau gwych ar gyfer llwybrau cerdded yn yr ardal.

Mae yna hefyd lawer o lwybrau cerdded lleol a llwybrau mynydd o’r bwthyn, 0.2 milltir.

Beicio Mynydd

Llwybrau beicio mynydd Coed Trallwm, 3 llwybr ar gyfer pob gallu, 6 milltir.

Marchogaeth a Merlota

Stablau bychan cyfeillgar Marchogaeth a Merlota Ffos Farm, sydd yn cynnig marchogaeth ceffylau, a merlota. Ar gyfer pob gallu, o ddechreuwyr i’r rhai mwyaf profiadol yn eich plith, 3 milltir.

Chwaraeon Dwr

Mae Afon Irfon Uchaf yn cynnig dyfroedd gwyllt ar gyfer y canwydd profiadol, 3 milltir.

Pysgota

Mae yna sawl milltir o bysgota ar Afon Irfon, i’r gogledd o Lanwrtyd. Gellir pysgota yn ogystal yn Fferm Llanerchinddfa gyda’i chwarter acer o lyn pysgota ac mae yna safle pysgota ar aber yr afon Gwy yn ogystal.

Golff

Cwrs Golff Llanymddyfri - wedi ei leoli drws nesaf i’r Pafiliwn Chwaraeon o fewn y Coleg. Clwb Golff Llanfair ym Muallt, 12 milltir.

Y ffordd orau i weld y Barcud Coch yw ymweld â’r orsaf fwydo ar Fferm Gingrin, 20 milltir.