- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- £750 yr wythnos
- £107 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Dringo
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau king/super-king
- 3 o welyau dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mwynhewch olygfeydd panoramig anhygoel o Ddyffryn Hafren o'r llety steilus hwn, neu o'r twb poeth. Gyda nodweddion gwreiddiol, ystafelloedd gwely en-suite, a gerddi hardd, mae Trefnant Hall ond dwy filltir o'r dafarn bentref a siop yn Aberriw a 4 milltir o'r Trallwm. Lleoliad heddychlon yng nghanol Canolbarth Cymru gyda digon o bethau i'w gweld a'u gwneud.
Wedi ei leoli ar fferm deuluol, mae Trefnant Hall wedi ei rannu yn ddwy uned ar wahân, gyda'r llety hunan ddarpar yn ffrynt yr adeilad a gyda golygfeydd panoramig o bob ystafell. Mae yna hefyd uned gwyliau ar wahân ar gyfer 3 o westeion gyda'i dwb poeth ei hun, os hoffech wahodd mwy o deulu a ffrindiau.
Llawr Gwaelod
Cyntedd ysblennydd yn eich croesawu i Trefnant gydag ardal eistedd a grisiau mawreddog o'r unfed ganrif ar bymtheg yn arwain fyny i'r llawr cyntaf.
Ardal fyw agored gyda nenfwd uchel a dwy ffenestr fawr, yn eich galluogi i ymlacio mewn steil tra'n mwynhau'r golygfeydd gwledig.
Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys ynys, oergell/rhewgell, peiriannau golchi llestri a golchi dillad, popty dwbl a meicrodon.
Ardal fwyta - bwrdd bwyta derw gyda golygfeydd a lle eistedd i 8.
Lolfa - soffas lledr, teledu 40" freeview a chwaraewr DVD (bydd stôf goed ar gael o Hydref 2019).*
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gwely dwbl gyda chypyrddau dillad, teledu ac ardal eistedd. En-suite gyda cawod cerdded mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Ystafell wely 2 - gwely dwbl a lle tân haearn gwreiddiol. Cypyrddau dillad, cadair a theledu. En-suite gyda baddon a chawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Ystafell wely 3 - gwely dwbl gyda lle tân haearn, cypyrddau dillad, cadair a theledu. Ystafell gawod en-suite, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Mae'r drws ffrynt yn arwain yn syth allan i'r ardd gyda twb poeth preifat a lle i eistedd ar y patio i fwynhau'r golygfeydd. Ardal fwyta ar wahân yn edrych allan dros Ddyffryn Hafren.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys sgons/cacennau cri, gwîn, siocledi, te, coffi, llaeth a siwgwr
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Pan gyflwynir y stôf goed yn Hydref 2019 bydd y fasgedaid gyntaf o goed yn gynwysedig. Gellir prynu mwy o goed am £5 y fasged
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig. Tywelion ar wahân ar gael i'r twb poeth
- 1 sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael ar gais. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Caniateir hyd at 2 gi ar y llawr gwaelod yn unig - £25 y ci
- Dim ysmygu tu mewn
- Digon o le parcio
- Darperir y canlynol: Cegin - pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, siampw, sebon cawod a 2 rolyn papur i bob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol