- £483 yr wythnos
- £69 y noson
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot trafeilio
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Wedi ei amgylchynu gan fryniau a thir amaethyddol agored, mae'r bwthyn hwn gyda twb poeth yng Nghanolbarth Cymru yn cynnig y fangre ddelfrydol ar gyfer teuluoedd, cyplau neu ffrindiau sy'n chwilio am leoliad gwledig heddychlon. Tawel, diarffordd, heb signal wi-fi na ffôn symudol, dyma'r encil perffaith ar gyfer ymlacio a dadflino. Mae'r ardal yn ddelfrydol ar gyfer cerdded, beicio, pysgota a gweithgareddau awyr agored eraill.
Llawr Gwaelod
Cegin, ardal fwyta a lolfa agored.
Cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys oergell gyda rhewgell oddi mewn, peiriant golchi dillad, tostiwr, tegell, meicrodon, popty a hob trydan. Ardal fwyta gyda bwrdd a chadeiriau i 4. Mae yna rewgell maint llawn ar gael at ddefnydd y gwesteion mewn sied gyfagos.
Lolfa gyda stôf losgi coed (darperir un basgedaid o goed), cadeiriau lledr cyfforddus, teledu a chwaraewr DVD.
Ystafell ymolchi - uned gawod, toiled a basn.
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gyda chwpwrdd dillad.
Ystafell wely 2 - ystafell gyda dau wely sengl a storfa.
Tu Allan
Gardd gaeedig. Patio wedi'i orchuddio gyda twb poeth a barbaciw. Lawnt i ochr a chefn y llety, a tharmac yn y ffrynt. Sied (gyda rhewgell).
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwelyau, tywelion a sychwr gwallt ar gael
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dim cot na chadair uchel. Gellir dod â rhai eich hunan
- Dim ysmygu
- Dim anifeiliaid anwes
- Digon o le parcio preifat
- Signal ffôn symudol yn gyfyngedig. Weithiau mae'n bosib cael signal ar rai rhwydweithiau drwy gerdded i ben y ffordd
- Gall Tesco (ac archfarchnadoedd eraill) ddanfon nwyddau i'r llety
- Un basgedaid o goed yn gynwysedig ar gyfer y stôf goed - gellir prynu mwy yn lleol
- Darperir y canlynol ar gyfer eich arhosiad yn y llety - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 1 rholyn papur ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Mae nant fach o flaen y llety felly dylid goruchwylio plant bach ar bob adeg