Y Rhosyn

Knighton, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 3 Star
  • Awaiting Grading
  • Mae bwthyn gwyliau Y Rhosyn yn mwynhau golygfeydd gwledig godidog, ac yn lleoliad perffaith i fwynhau a gorffwyso neu i ddarganfod y Clawdd Offa ac ardal y Gororau.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £458 yr wythnos
  • £65 y noson
  • 3 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae bwthyn gwyliau Y Rhosyn yn mwynhau golygfeydd gwledig godidog. Wedi ei leoli mewn nefoedd i fywyd gwyllt, ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gyda gwarchodfa natur gerllaw, mae’n ddelfrydol ar gyfer gwyliau yn cerdded Canolbarth Cymru ac yn lleoliad perffaith i fwynhau a gorffwyso yng nghefn gwlad neu i ddarganfod y Clawdd Offa ac ardal y Gororau.

Wedi llwyddo i gael y safon uchaf mewn cynaladwyedd mae’r bwthyn yn enillwr y Green Tourism Gold Award ac mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith gyda’r ardal a’r digonedd o fywyd gwyllt sydd o’i gwmpas. Gwelwyd yn ddiweddar o’r bwthyn, deulu o ddyfrgwn ac yn anhygoel y cenawon yn crwydro o amgylch glan yr afon a moch daear.

Llawr Gwaelod

Ystafell Haul - Golygfeydd panoramig gwych ar hyd Dyffryn Tefeidiad. Mae yna ddrysau patio anferth yn arwain allan ar y balconi gan ei wneud yn llecyn perffaith i orffwyso a gwylio’r bywyd gwyllt neu fwynhau’r olygfa. Ceir gwres o dan y llawr yn yr ystafell, yn ogystal â chwaraewr VHS ag amrywiaeth o raglenni bywyd gwyllt a phlant i’w gwylio.

Lolfa - Mae’r lolfa hon yn berffaith ar gyfer gorffwyso o flaen y tân ac mae yna deledu, DVD a chasgliad eang o lyfrau a gwybodaeth leol y mae croeso i ymwelwyr eu mwynhau. Mae yna soffa sydd yn eistedd dau a dwy gadair gyda chefn uchel, stôf llosgi coed a darperir rhywfaint o logiau.

Cegin - Cwbl gyfarparedig gyda phopty trydan, microdon, golchwr llestri, oergell, rhewgell, popty araf, a thostiwr. Mae yna lawer o offer coginio a llyfrau cogion yn ogystal ar gael.

Llawr cyntaf

Ystafell wely ddwbl - ystafell las ddel, gyda chwilt clytwaith cartref hen ffasiwn dros y gwely dwbl. Dau gabinet ar bob ochr i’r gwely gyda droriau a lampau ochr gwely uchel. Cwpwrdd dillad dwbl, cadair a chist ddroriau gyda drych wal mawr uwchben. Wedi ei garpedu drwyddo gyda rygiau ychwanegol cysurus os ydych yn droednoeth. Edrych dros gae’r defaid a Beacon Hill.

Ystafell wely twin - lliw pinc ysgafn gyda dau wely sengl 3’, lampiau ochr gwely a byrddau ochr gwely a chadair. Cist ddroriau gyda drych hir uwchben a lamp fwrdd. Wedi ei garpedu drwyddo gyda rygiau ychwanegol cysurus os ydych yn droednoeth. Edrych dros gae’r defaid a Beacon Hill.

Ystafell ymolchi - ystafell ymolchi wen, gyda chawod drydan uwchben. Pwynt eillio a drych eillio, drych hir a chabinet. Golygfeydd dros y bryniau ac i lawr at yr afon.

Gardd

Mae’r ardd yn cynnwys dodrefn patio, ac mae’n hafan i fywyd gwyllt, wedi ei dylunio’n fwriadol i hybu pryfetach, mamaliaid ac adar. Mae yna risiau o’r balconi i’r ardal uwch i lawr i’r ardd a’r ddôl islaw ac mae’r ardd hefyd yn ffinio gyda’r afon lle y mae croeso i ymwelwyr fynd i drochi eu traed ar ddiwrnod poeth.

Mae ymwelwyr gwyllt i’r ardd yn cynnwys dyfrgwn a moch daear, tra ymhlith yr adar y’i gwelir yn eu tymor mae’r boncath, y barcud, delor y cnau, y dringwr bach, y telor penddu, yr hwyaden ddanheddog, y gwybedog brith, siglen lwyd, bronwen y dwr yn ogystal ag adar adnabyddus eraill yr ardd.


Gwybodaeth ychwanegol

Teledu yn cynnwys sat am ddim a BT chwaraeon.

Dillad gwely a thywelion llaw yn gynwysedig.

Tywelion bath ar gael am £5 y person (yn daladwy wrth gyrraedd ond nodwch wrth archebu os gwelwch yn dda).

Caniateir 2 gi maint cymhedrol, £15 yr un. Bowleni, tywel ci, bagiau baw cŵn ac un gwely ci ar gael.

Gwres canolog drwyddo draw.

Darperir sychwr gwallt.

Darperir cot teithio , ond dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Darperir cadair uchel a giât ddiogel i blant.

Dim ysmygu.

Man parcio y tu allan i’r bwthyn a mwy o le parcio ar ochr y ffordd gerllaw.

Gellir sicrhau cynnyrch groser lleol cyn i chi gyrraedd ar gais.

Gellir cael nwyddau wedi eu cludo o archfarchnadoedd Tesco a Sainsbury.
Nodwch mai dim ond drwy rhai rhwydweithiau y ceir signal ffôn. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio gyda’ch darparwr os ydy signal yn angenrheidiol. Mae yna hefyd ffôn ar gael yn y bwthyn.

Mae’r eitemau canlynol yn cael eu darparu ar gyfer eich arhosiad yn y bwthyn;

Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri, llieiniau llestri, sgwriwr, ffoil a cling film.

Ystafell ymolchi: sebon dwylo a dau doiled rôl.

Cynnyrch glanhau cyffredinol: bleach, golchwr cawod, chwsitrellydd gwrthfacteria a.y.b.

Lleoliad

Mae bwthyn gwyliau Y Rhosyn wedi ei leoli ar ben rhes fechan o dri thy yn nhawelwch Dyffryn Tefeidiad ac mae’n ddelfrydol ar gyfer cerdded yng Nghanolbarth Cymru.. Mae tref farchnad Tref y Clawdd chwe milltir i un cyfeiriad tra bod y Drenewydd bedair milltir ar ddeg i’r cyfeiriad arall. Mae’r dafarn agosaf, ynghyd â’r siopau agosaf sydd yn stocio amrywiaeth o gynnyrch lleol a phethau eraill angenrheidiol ddim ond dwy filltir i ffwrdd.

Mae enw’r dref ‘Tref y Clawdd’ yn egluro ei leoliad i’r dim ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae yna rhai o strydoedd y dref yn Lloegr. Mae gan y dref sawl lle diddorol i fwyta ac mae yna hefyd bedair siop de. Yn Nhref y Clawdd mae rhai o’r darnau sydd wedi eu cadw orau o’r clawdd, sydd ar y cyfan yn ymestyn 176 milltir o aber yr Afon Hafren yn y de hyd at Brestatyn yn y gogledd. Wedi ei ddylunio’n wreiddiol i nodi’r ffin rhwng y ddwy wlad, mae’r clawdd bellach yn un o lwybrau cerdded hiraf Prydain ac yn ffefryn gan gerddwyr.

Rydym yn argymell The Radnorshire Arms yn Bugeildy (2 filltir) a The Castle Inn yng Nghnwclas (4 milltir) os ydych chi’n chwilio am dafarndai lleol braf a llefydd da i fwyta. Yn ogystal, mae bwyty The Waterdine werth sôn amdano yn Llanfair Dyffryn Tefeidiad a The Lloyney yn Lloyney.

Mae’r bwthyn oddeutu 30 milltir o Lanfair ym Muallt a’r Gelli ill dau, sy’n ei wneud yn lle hwylus dros ben i aros pan yr ydych yn ymweld un ai â’r Sioe Frenhinol Gymreig neu Wyl Lenyddiaeth y Gelli.

Mae’r ardal yn wych i gerddwyr ac mae yna lawer o lwybrau i’w mwynhau yn cynnwys llwybrau cerdded yn uniongyrchol o’r bwthyn. Ar gyfer teuluoedd mae yna hefyd Ganolfan y Clawdd Offa yn Nhref y Clawdd sydd yn gartref i lawer o weithgareddau ar y Clawdd yn ogystal â pharc sglefrio ac ardal chwarae i blant.

Golff

Wedi ei ddylunio gan bencampwr y British Open chwe gwaith Harry Vardon mae cwrs golff Tref y Clawdd yn gwrs naw twll ar ochr bryn gyda golygfeydd anhygoel, 6 milltir.

Gwylio Adar

Mae yna lawer o adar yn ymweld â’r ardd ac mae’r Barcud Coch yn hedfan uwchben yn werth ei weld. Mae yna hefyd ganolfan fwydo Barcutiaid Coch yng Nghwm Elan, 30 milltir.

Marchogaeth

Merlota a marchogaeth ar gael ym Mhen y Bont gyda llawer o wahanol lwybrau drwy’r wlad gyfagos.

Cerdded

O’r bwthyn cewch ymuno â’r llwybr i Warchodfa Natur Beacon Hill a gellir ymuno â’r Clawdd Offa gerllaw 0.4 milltir.

Beicio

Beicio ffordd gwych ar lonydd gwledig distaw o’r bwthyn, a gellir llogi beiciau yn ogystal.

Mae llwybrau beicio mynydd y Rhaeadr yn addas ar gyfer pob lefel a phellter gan gynnwys dau o’r llwybrau lawr allt MTB gorau yn y Deyrnas Unedig, 30 milltir.

Pysgota

Mae’r Afon Tefeidiad ar waelod yr ardd yn eithaf nodedig am bysgota barfogion i lawr yr afon ond yn ogystal mae’n stocio brithyll brown gwyllt ac mae ganddi rediad eog. Gellir prynu tocynnau dydd.