Caban Clyd

Dinas Mawddwy, Mid Wales and Brecon Beacons

  • Gyda golygfeydd anhygoel i bob cyfeiriad, mae’r pod glampio moethus hwn yng nghanol cefn gwlad Canolbarth Cymru mewn lleoliad perffaith ar gyfer ymlacio. 

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £421 yr wythnos
  • £60 y noson

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r afon
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 ystafell ymolchi
  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Cawod

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 15:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Gyda golygfeydd anhygoel i bob cyfeiriad, mae’r pod glampio moethus hwn yng nghanol cefn gwlad Canolbarth Cymru mewn lleoliad perffaith ar gyfer ymlacio. Wedi ei leoli ar fferm weithiol yn cynnwys coetir, llwybrau cerdded a’r afon Ddyfi gerllaw, ac o fewn Parc Cenedlaethol Eryri gyda’i holl weithgareddau ac atyniadau. Gellir cerdded ar hyd llwybr byr i bentref Dinas Mawddwy, lle ceir caffi a thafarn lleol sy’n gweini bwyd a diod ardderchog.

Mae’r Caban yn cynnwys gwely dwbl cyfforddus, yn ogystal â gwely soffa.

Ceir ystafell ymolchi gydag uned gawod helaeth, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Cegin yn cynnwys sinc, hob anwytho, meicrodon, oergell/rhewgell, tegell, tostiwr a’r holl lestri a chytleri angenrheidiol.

Bwrdd a chadeiriau i 4; chwaraewr DVD; a nifer o daflenni gwybodaeth am yr ardal.

Tu allan mae yna fwrdd picnic ble medrwch eistedd a mwynhau’r golygfeydd. Mae yna hefyd barbaciw siarcol. Mae’r ardal o gwmpas y Caban wedi ei gau mewn.

Gwybodaeth Ychwanegol

· Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth, a chacen neu fisgedi Cymreig

· Dillad gwelyau, tywelion, a thywelion sychu llestri yn gynwysedig

· Trydan a gwres dan y llawr yn gynwysedig

· Sychwr gwallt ar gael

· Digon o le parcio

· Dim Wi-fi. Mae signal ffonau symudol yn gyfyngedig gyda rhai rhwydweithiau, ond fel arfer mae yna signal EE cryf, yn cynnwys 4G

· Mae’r Caban wedi ei leoli ar fferm weithiol felly dylid sicrhau fod plant ifanc dan oruchwyliaeth oedolyn ar bob achlysur

· Darperir un bag o siarcol ar gyfer y barbaciw. Gellir prynu cyflenwad ychwanegol gan y perchennog neu mewn siopau lleol

· Darperir yr eitemau canlynol ar gyfer eich arhosiad - Cegin - pupur a halen, olew yr olewydd, papur cegin, ffoil, ffilm glynu, hylif golchi llestri, clytiau. Ystafell ymolchi - sebon hylif, papur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol

Lleoliad