Bwthyn y Muallt

Builth Wells, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Gyda twb poeth preifat mae Bwthyn y Muallt yn lleoliad perffaith ar gyfer ymlacio a mwynhau golygfeydd ar draws y dyffryn.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £866 yr wythnos
  • £124 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r afon
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 1 gwely sengl
  • 1 gwely bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 7:00pm
  • Amser gadael: 9:00am

Disgrifiad

Gyda twb poeth preifat mae Bwthyn y Muallt yn lleoliad perffaith ar gyfer ymlacio a mwynhau golygfeydd ar draws y dyffryn. Wedi ei leoli ar gyrion Llanfair y Muallt yn Nyffryn Irfon, mae'r llety hwn yn derbyn 2 gi, ac mae'n ddelfrydol ar gyfer cerddwyr, beicwyr, a'r rheiny sy'n hoffi ymlacio yng nghefn gwlad. Gyda gwres dan y llawr a stôf goed yn y lolfa mae'r bwthyn hwn yn le perffaith i ddarganfod Canolbarth Cymru. Fe geir siopau, tafarndai a bwytai yn Llanfair y Muallt, ac fe gynhelir Sioe Amaethyddol Cymru lai na milltir i ffwrdd.  

Llawr gwaelod

Lolfa fawr gyda stôf goed drawiadol, soffas a chadeiriau cyfforddus, teledu, chwaraewr DVD a system sain.

Ystafell fwyta gyda bwrdd a chadeiriau i 6, soffa, cadair, teledu, chwaraewr DVD gyda dewis eang o DVDs i'w mwynhau.

Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell, hob trydan, meicrodon, popty araf, tostiwr, tegell, teledu, bwrdd a chadeiriau i 4.

Ystafell iwtiliti gyda rhewgell, peiriannau golchi a sychu dillad.

Ystafell hongian cotiau a thoiled.

Ystafell ymolchi gyda baddon, toiled a basn.

Ystafell gydag uned cawod. 

Llawr cyntaf

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gyda golygfeydd o gefn gwlad.

Ystafell wely 2 - gwely bync maint llawn.

Ystafell wely 3 - ystafell deuluol gydg un gwely dwbwl ac un gwely sengl.

Ystafell ymolchi gyda toiled a basn.  

Tu allan

Gardd yn y cefn gyda twb poeth, bwrdd a chadeiriau, barbaciw. Lle i barcio o flaen y llety. 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig             
  • Dewis da o lyfrau a gemau i blant   
  • Storfa feiciau ddiogel   
  • Signal ffôn symudol yn gyfyngedig   
  • Wifi ar gael
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig   
  • Dim ysmygu
  • Croeso i anifeiliaid anwes (mwyafrif o 2 gi am gôst o £20 y ci). Noder nad ydy'r cwn i fynd ar y dodrefn na'r gwelyau    
  • Parcio i nifer o geir ar y graean o flaen y ty     
  • 1 basgedaid o goed tân gyda mwy i brynu os oes angen   

Lleoliad