- £424 yr wythnos
- £61 y noson
- 4 Guests
- 1 Bedroom
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Ystafell chwaraeon
- Sawna
- Pwll nofio
- Cwrt tenis
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Gyda golygfeydd anhygoel dros y llynnoedd a'r mynyddoedd, mae'r llety hunan ddarpar hwn ar y llawr gwaelod ac yn le delfrydol i ymlacio. Mae'r amgylchoedd heddychlon a thawel yn hudolus, gyda'r cyfadeilad yn cynnwys pwll nofio, sawna, cyrtiau tenis, parc chwarae i blant, ac ystafell chwaraeon.
Mae'r cyfadeilad yn fenter teuluol ac yn cynnwys nifer o fythynnod sydd yn rhannu'r adnoddau, ond er hynny mae'r lleoliad yn ymlaciol a thawel. Mae'r tirwedd naturiol yn odidog gan roi'r teimlad o ofod a harddwch naturiol.
Yn cysgu 2 (gyda dau ychwanegol ar wely soffa os dymunir).
Llawr gwaelod
Cegin, lolfa ac ardal fwyta o gynllun agored gyda bwrdd a chadeiriau i 4.
Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys popty trydan a hob, oergell, tostiwr, peiriant golchi llestri, meicrodon, a tegell.
Lolfa gyda golygfeydd gwych o'r llyn, teledu, bwrdd chess a chwaraeon, careiriau cyfforddus, gwely soffa i gysgu dau ychwanegol os dymunir.
Ystafell wely - gyda gwely dwbwl, uned ymolchi, a drysau patio yn agor allan i olygfeydd gwych o'r llyn.
Ystafell ymolchi ensuite - uned cawod, basn a thoiled.
Prif ystafell ymolchi - baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.
Tu allan
Bwrdd picnic tu allan ac aceri o dir i'w mwynhau a'u darganfod.
Ystafell chwaraeon (yn cael ei rhannu) yn cynnwys bwrdd pŵl, tennis bwrdd, consol chwaraeon, DVDs, llyfrau a bwrdd dartiau.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a bisgedi
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Haearn a bwrdd smwddio ar gael
- Trydan a gwres yn gynwysedig
- Cadair uchel a chot trafeilio ar gael os dymunir - gellir gwneud cais pan yn archebu. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot.
- Dim Wi-fi yn y bwthyn ond fe ellir cael Wi-fi yn yr ystafell chwaraeon/ardal ddarllen
- Mae derbynfa yn y cyfadeilad sydd ar agor tan 5.00yh bob dydd
- Mae signal ffonau symudol yn wan, gyda dim signal ar gyfer rhai rhwydweithiau. Mae ffôn llinell tir ar y safle rhag ofn argyfwng
- Darperir y canlynol ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, ffilm glynu; Ystafell Ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur toiled ar gyfer pob toiled; Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Mae'r pwll nofio ar agor rhwng 9yb a 7yh bob dydd
- Mae Asda yn danfon nwyddau i'r bwthyn gyda digon o gyflenwyr lleol yn nhref Llanfair ym Muallt gerllaw
- Dim ysmygu tu mewn a dim anifeiliaid anwes