Pwllyn

Builth Wells, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £571 yr wythnos
  • £82 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Wedi ei amgylchynu gan olygfeydd cefn gwlad, mae Hafan Llewelyn yn fwthyn gwledig helaeth gyda thwb poeth, Parc Cenedlaethol ail fwyaf Cymru ger llaw, digon o weithgareddau, llefydd hanesyddol ac atyniadau ar garreg y drws. 2 filltir o Lanfair-ym-muallt ac o fewn pellter cerdded i’r dafarn leol yng Nghilmeri. Mwynhewch gerdded a beicio ym Mannau Brycheiniog, chwaraeon dwr a physgota ar yr Afon Gwy, diwrnod yn Y Gelli Gandryll (Hay on Wye) - prifddinas llyfrau ail law y byd a Maes y Sioe yn Llanfair-ym-Muallt ar gyfer nifer o ddigwyddiadau amrywiol drwy gydol y flwyddyn.

Llawr Gwaelod

Mae’r fynedfa fawr yn arwain i’r gegin sy’n cynnwys popty trydan, hob ac echdynnwr, oergell/rhewgell a microdon. Bwrdd cegin hir gyda chadeiriau ar lawr fflacsen. Drws nesaf i’r gegin ceir toiled gyda basn ymolchi.

Mae’r fynedfa hefyd yn arwain at ystafell fyw gysurus gyda llawr carped ac yma ceir ffenestr fawr yn edrych allan dros yr ardd a’r caeau tu hwnt iddo. Dwy soffa, stôf nwy gydag effaith glo ar aelwyd garreg a theledu/DVD.

Llawr Cyntaf

Grisiau pren yn arwain o’r fynedfa at bedair ystafell wely ar y llawr cyntaf.

Ystafell wely 1 - Gwely maint king a chyfleusterau en-suite.

Ystafell wely 2 a 3 - Ystafelloedd gwely sengl gyda thrawstiau a chist fechan o ddroriau yn y ddwy.

Ystafell wely 4 - Gwely dwbl gyda chist o ddroriau a chwpwrdd dillad.

Ystafell ymolchi ar wahân yn cynnwys cawod (pwynt eillio yma hefyd).

Gardd

Ardal batio yn y tu blaen a gardd yn y cefn gyda thwb poeth. Set barbeciw yn cael eu darparu hefyd. Mae cefn gwlad hyfryd Cymru yn amgylchynu’r bwthyn gyda golygfeydd ym mhob cyfeiriad.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Ceir tri bwthyn gwyliau ar y safle a gellir cysylltu'r rhain i gyd i greu un bwthyn mawr sy’n cysgu hyd at 19. Delfrydol ar gyfer teuluoedd a grwpiau mawr
  • Ystafell golchi/sychu dillad i’w rhannu gyda’r bythynnod eraill yn cynnwys peiriant golchi, sychwr a sinc.
  • Croesewir anifeiliaid anwes - uchafswm o 2 gi (i un bwthyn). Ffi fechan o £20 am yr wythnos a £10 am arhosiad byr (taladwy i’r perchennog wrth gyrraedd).
  • Darperir dillad gwely a thywelion
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Mae’r bwthyn gwledig hwn yng Nghymru gyda thwb poeth ar gael ar gyfer gwyliau byr yn ystod rhai adegau o’r flwyddyn. Dewch o hyd i fwy o fanylion o dan ‘Prisiau.’
  • Uwchfarchnadoedd yn trosgludo - mae Tesco, Asda a Sainsbury's yn trosgludo i'r bwthyn.
  • Nodwch nad yw’r twb poeth ar gael o 9am ymlaen ar ddiwrnod gadael.

Lleoliad

Mae bwthyn Hafan Llewelyn wedi ei osod ar fferm 60 acer, daith gerdded fer o’r dafarn leol a stesion drên yng Nghilmeri, 2 filltir o Lanfair-ym-Muallt. Mae’r pentref yn enwog am mai yma y lladdwyd Llywelyn ein Llyw Olaf gan filwyr Edward I ar Ragfyr 11, 1282. Codwyd cofeb yno’n 1956 ac mae diwrnod cofio blynyddol yn digwydd yma.

Mae’r bwthyn yn agos at ble mae’r Sioe Frenhinol, Argae Dyffryn Elan a chwrs golff arbennig 18 twll. Mae nifer o atyniadau eraill yn yr ardal gan gynnwys beicio mynydd, pysgota, marchogaeth a cherdded ym Mannau Brycheiniog.
Mae hefyd nifer o fwytai da yn yr ardal yn gweini cynnyrch lleol.

Golff

Paradwys y golffwyr, gyda Chwrs Golff Llanfair-ym-Muallt yn gwrs 18 twll wedi’i leoli yng nghefn gwlad hardd canolbarth Cymru. Mae amrywiaeth eang yn y tyllau sy’n golygu y bydd chwaraewyr yn defnyddio’r mwyafrif o’r clybiau yn eu bag ar ryw bwynt.

Marchogaeth

Mae nifer o lwybrau diddorol yn yr ardal. Bydd hefyd stablau ar y safle yn fuan iawn, yn galluogi gwesteion i ddod â’u ceffylau eu hunain.

Cerdded a Beicio

Mae’r ardal yn baradwys ar gyfer cerddwyr a beicwyr gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Llwybr Epynt, Llwybr Dyffryn Gwy a Dyffryn Elan i gyd yn agos.

Chwaraeon Dwr

Mae Afon Gwy yn berffaith ar gyfer canwio, rafftio a chaiacio, ac mae modd trefnu teithiau grwp. Llyn Llangors, Cronfa Ddwr Pontsticill (Clwb Hwylio Merthyr Tudful), yr Afon Wysg a chamlas Aberhonddu hefyd yn cynnig cyfleoedd chwaraeon dwr.

Digwyddiadau mawr yn yr ardal yn cynnwys:

Sioe Frenhinol Cymru

Dyma un o’r digwyddiadau mwyaf o’i fath yn Ewrop, a bydd yn dod â’r diwniant ffermio a’r gymuned wledig at ei gilydd er mwyn dathlu amaethyddiaeth gorau Prydain gyda blas unigryw Cymreig. Byddwch yn rhan o’r digwyddiad cyffrous hwn, diwrnod da i’r teulu.

Digwyddiadau eraill ar Faes y Sioe yn cynnwys y Ffair Gaeaf a gwyl i dyddynwyr a garddwyr.

Gwyl y Guardian Gelli Gandryll (Hay Festival)

Dyma wyl genedlaethol sy’n dathlu llenyddiaeth wych ym mhob iaith ym Mhrydain ac ar draws y byd.

Gwyl Jazz Aberhonddu

Ar un penwythnos ym mis Awst bob blwyddyn, mae strydoedd Aberhonddu’n dod yn fyw gyda swn cerddoriaeth wrth i’r dref farchnad fach yma cynnal ei gwyl jazz flynyddol.