- £591 yr wythnos
- £84 y noson
- 7 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Twb poeth
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 1 gwely sengl
- 1 gwely bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae gan fwthyn Canoldy dwb poeth preifat ac mae’n cynnig llety mawr a chroesawgar ger Llanfair-ym-muallt ym mhentref hanesyddol Cilmeri, Canolbarth Cymru. Wedi ei amgylchynu gan fferm 60 acer a golygfeydd hyfryd ac o fewn pellter cerdded i’r dafarn leol a’r orsaf drên. Agos i Faes y Sioe Amaethyddol, Argae Cwm Elan a chwrs golff gwych 18 twll. Mae gweithgareddau poblogaidd eraill yn yr ardal yn cynnwys Beicio Mynydd, Pysgota, Merlota a cherdded ym Mannau Brycheiniog. Ceir llefydd da i fwyta yn y cyffiniau hefyd sydd yn gweini bwyd lleol.
Llawr Gwaelod
Mae gan fwthyn Canoldy fynedfa fawr yn arwain trwodd i’r gegin helaeth gyda golygfeydd o'r ardd a’r caeau y tu hwnt iddi.
Mae’r gegin gyflawn yn cynnwys popty trydan, hob ac echdynwyr, oergell/rhewgell, golchwr llestri a microdon. Ceir bwrdd cegin hir a chadeiriau ar lawr fflagen.
Yn yr ystafell fyw ceir carped gyda stôf, teledu a DVD a soffas cyfforddus, gydag un ohonynt yn gallu troi yn wely.
Grisiau pren yn arwain i fyny’r grisiau, gyda thoiled o dan y grisiau gyda basn ymolchi.
Llawr Cyntaf
Landing yn arwain i bedair ystafell wely.
Ystafell wely 1 - Gwely king, cist o ddroriau, cwpwrdd dillad a chawod yn yr en-suite (ystafell deuluol ddelfrydol).
Ystafell wely 2 - Gwelyau bync a chist o ddroriau
Ystafell wely 3 - Gwely arall king arall, cist o ddroriau a chwpwrdd dillad.
Ystafell wely 4 - Gwely sengl gyda chist fechan o ddroriau.
Ceir hefyd brif ystafell ymolchi gyda bath/cawod a phwynt eillio.
Gardd
Dim byd llai na chlamp o dwb poeth yn yr ardd gefn sy’n cynnig moethusrwydd trwy gydol y flwyddyn. Ceir ardal patio o flaen y bwthyn hefyd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ceir tri bwthyn gwyliau ar y safle a gellir cysylltu'r rhain i gyd i greu un bwthyn mawr sy’n cysgu hyd at 19. Delfrydol ar gyfer teuluoedd a grwpiau mawr.
Ystafell golchi/sychu dillad i’w rhannu gyda’r bythynnod eraill yn cynnwys peiriant golchi, sychwr a sinc.
Croesewir anifeiliaid anwes - uchafswm o 2 gi (i un bwthyn). Ffi fechan o £20 am yr wythnos a £10 am arhosiad byr (taladwy i’r perchennog wrth gyrraedd).
Darperir dillad gwely a thywelion.
Gwres a thrydan yn gynwysedig.
Nodwch nad yw’r twb poeth ar gael o 9am ymlaen ar ddiwrnod gadael.
Uwchfarchnadoedd yn trosgludo - mae Tesco, Asda a Sainsbury's yn trosgludo i'r bwthyn.