- £1,173 yr wythnos
- £168 y noson
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 4 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Ystafell chwaraeon
- Twb poeth
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 4 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 5 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
- Pwynt gwefru modur trydan
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Preferred changeover day: Firday/Monday
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Mae Tai Tarw yn hen ysgubor wedi'i hadnewyddu ar fferm weithiol y perchennog mewn lleoliad gwledig i'r gogledd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r ysgubor yn cyfuno dau lety gyda drws rhyngddynt, sy'n eu galluogi i gael eu harchebu fel un uned fwy, i letya teulu estynedig neu grwp o ffrindiau mewn pedair ystafell wely ensuite. Gyda wifi, twb poeth dan do, gweithgareddau i'r plant tu mewn a thu allan, llyfrau, gemau bwrdd a thelesgop, mae yna rywbeth i bawb, beth bynnag yw'r tywydd!
Mae'r ddau lety gyda bwrdd bwyta a chadeiriau sydd ddigon mawr i eistedd yr holl westeion gyda'i gilydd. Gellir cael manylion pellach am Tai Tarw o dan y lletyau unigol BOW159 a BOW160, ond yn fyr, mae'r llety yn cynnwys:
Llawr Gwaelod - Pen Tarw Isaf:
Ystafell gotiau gyda toiled a basn.
Cegin gydag unedau, popty trydan a hob serameg, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi llestri a golchi dillad; bwrdd a chadeiriau i 4. Ystafell gynnes sy'n ddefnyddiol ar gyfer sychu cotiau ac esgidiau.
Ystafell fwyta gyda trawstiau yn y nenfwd, wal garreg agored, llawr llechi, bwrdd derw a chadeiriau i eistedd 10 o westeion; telesgop.
Lolfa, i fyny un step o'r ardal fwyta, gyda digon o seddi cyfforddus, stôf goed, teledu freesat, chwaraewr DVD.
Llawr Gwaelod - Pen Tarw Uchaf:
Cegin gydag unedau, popty trydan a hob serameg, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi llestri a golchi dillad; bwrdd a phedair cadair. Ystafell boeler sy'n ddefnyddiol ar gyfer sychu cotiau ac esgidiau.
Ystafell fwyta gyda thrawstiau yn y nenfwd, llawr teils, bwrdd bwyta a chadeiriau i eistedd 8.
Ystafell wely gyda dau wely sengl a chwpwrdd dillad.
En-suite gydag uned gawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Llawr Cyntaf - Pen Tarw Isaf:
Ystafell wely 1 - gyda gwely maint king a chypyrddau dillad. En-suite gyda bath, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Ystafell wely 2 - dau wely sengl a chypyrddau dillad. En-suite gyda chawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Llawr Cyntaf - Pen Tarw Uchaf:
Lolfa gyda thrawstiau yn y nenfwd, dwy soffa, dwy gadair gyfforddus, stof goed, teledu Freesat, chwaraewr DVD, telesgop; drysau gwydr yn arwain allan i'r dec a'r patio.
Ystafell wely dwbwl, cwpwrdd dillad, nenfwd ar osgo i un ochor sy'n golygu rhywfaint o le cyfyngedig.
En-suite gyda bath, toiled, basn, pwynt eilliwr a rheilen sychu tywelion.
Tu Allan:
Dwy ardal patio/dec gyda dodrefn gardd a golygfeydd dros gefn gwlad, gyda mynediad o'r lolfa ar y llawr cyntaf neu stepiau pren o'r ardal chwarae; bwrdd a chadeiriau ychwanegol ar y llawr gwaelod gyda twb poeth o dan do. Ysgubor gyda bwrdd tenis ayb, ffram ddringo a siglenni.
Parcio ar gyfer nifer o geir, gyda dau bwynt gwefru ceir trydan.
Trydan a gwres canolog yn gynwysedig; basgedaid gychwynnol o goed, yna gellir cael rhagor gan y perchennog am bris ychwanegol
Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
Cot, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael, yn ogystal â sedd toiled plentyn, mat newid ayb.