Pen Tarw Isaf

Brecon, Mid Wales and Brecon Beacons

  • Ysgubor wedi'i hadnewyddu gyda dwy ystafell wely en-suite, delfrydol ar gyfer teulu neu ffrindiau, i'r gogledd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gyda llwybrau cerdded, golygfeydd gwych o'r dec, a gweithgareddau ar y safle ar gyfer y plant. 

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £495 yr wythnos
  • £71 y noson

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded

Nodweddion Arbennig

  • Tân agored neu stôf goed
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 4pm
  • Amser gadael: 10am

Disgrifiad

Mae Pen Tarw Isaf yn ffurfio hanner adeilad fferm ar fferm weithiol y perchennog, wedi ei amgylchynu gan fryniau hardd i'r gogledd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, 8 milltir o Aberhonddu, 5.5 milltir o Pontsenni a 7 milltir o Trecastell. Llwybrau cerdded gwych yn yr ardal a digon i neud ar y safle hefyd!. Mae'r bwthyn yn cysgu 4, gyda parcio ar y safle, dec wedi'i godi i gael mwynhau'r golygfeydd hyfryd a chyfleusterau sy'n cael eu rhannu, yn cynnwys ffram ddringo a siglen plant, tenis bwrdd, pwl a gemau eraill. 

Mae'r bwthyn hwn yn elwa o Wifi, stôf goed, gwres canolog, a pwynt gwefru car trydan. 

Llawr Gwaelod

Ystafell gotiau gyda toiled a basn.

Cegin gydag unedau, popty trydan a hob serameg, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi llestri a golchi dillad; bwrdd a chadeiriau i 4. Ystafell gynnes sy'n ddefnyddiol ar gyfer sychu cotiau ac esgidiau. 

Ystafell fwyta gyda trawstiau yn y nenfwd, wal garreg agored, llawr llechi, bwrdd derw a chadeiriau i eistedd 10 o westeion; telesgop.

Lolfa, i fyny un step o'r ardal fwyta, gyda digon o seddi cyfforddus, stôf goed, teledu freesat, chwaraewr DVD.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gyda gwely maint king a chypyrddau dillad. En-suite gyda bath, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Ystafell wely 2 - dau wely sengl a chypyrddau dillad. En-suite gyda chawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion. 

Tu Allan

Bwrdd a chadeiriau tu allan y drws; ar draws yr iard mae dec gyda bwrdd a chadeiriau i gael mwynhau'r golygfeydd. Barbaciw nwy. 

Ffram ddringo/siglenni i'r plant - yn cael eu rhannu; adeilad ar gyfer tenis bwrdd, pwl ayb

Parcio allan ar yr iard ar gyfer 1-2 gar gyda pwynt gwefru car trydan.

Trydan a gwres canolog yn gynwysedig; basgedaid gychwynnol o goed, yna gellir cael rhagor gan y perchennog am bris ychwanegol

Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig

Cot, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael

Lleoliad