Bwthyn ar ben ei hun mewn pentref bach tlws yn Nyffryn Bran ar ymylon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
- £475 yr wythnos
- £68 y noson
- 5 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 3 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Bwthyn ar ben ei hun mewn pentref bach tlws yn Nyffryn Bran ar ymylon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Delfrydol ar gyfer pysgotwyr gan fod y bwthyn yn agos i afon fychan, ac yn cynnwys trwydded bysgota brithyll brown gwyllt. Gellir ymuno â llwybrau cerdded gwledig o'r pentref. Mae'r ardal hefyd yn boblogaidd ar gyfer beicio, gwylio'r sêr a mwynhau natur ymlaciol cefn gwlad. Mae Aberhonddu ei hun o fewn 7 milltir ac mae tafarndai gwledig i'w darganfod yn y pentref gerllaw.
Llawr Gwaelod
Ardal fyw agored yn cynnwys lolfa, cegin ac ardal fwyta. Soffa gyfforddus a dwy gadair, teledu, chwaraewr DVD, bwrdd bwyta a chadeiriau i 6 o westeion.
Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell, tostiwr, meicrodon a thegell.
Ystafell iwtiliti gyda peiriant golchi dillad a rhewgell.
Ystafell gyda toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gydag uned ymolchi, cwpwrdd dillad a theledu. Drws cyswllt i'r ystafell ymolchi.
Ystafell wely 2 - tri gwely sengl gyda chypyrddau, teledu a dewis o gemau.
Ystafell ymolchi gyda baddon, uned gawod, toiled a basn. Drws cyswllt i ystafell wely 1 yn ogystal â drws arall.
Tu Allan
Lawnt ar draws y ffordd i'r bwthyn gyda bwrdd, cadeiriau a barbaciw. Mae yna hefyd ardal pêl droed a chwaraeon ar wahân.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Wifi ar gael (noder mai band llydan gwledig sydd yma ac felly ddim mor gyflym a chysylltiad dinesig)
- Dim ysmygu tu mewn a dim anifeiliaid anwes
- Darperir y canlynol: Cegin - pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau. Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled i bob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Digon o le parcio