- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £537 yr wythnos
- £77 y noson
- 5 Guests
- 2 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 3 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Mae Dan y Comin yn fwthyn gwyliau sy'n derbyn anifeiliaid anwes ac y lle delfrydol i ymlacio oddi mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Perffaith ar gyfer cerdded (llwybrau o stepen y drws), pysgota, beicio a llawer mwy. Mae'r bwthyn ar fferm fach gyda mynediad arwahan, lle parcio, ac yn cynnwys ystafell iwtiliti ar gyfer storio offer cerdded, beicio neu chwaraeon (gyda Bike Park Wales ond 30 munud i ffwrdd). Mae golygfeydd anhygoel ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - rhaeadrau, mynyddoedd a llynnoedd. Mae hefyd yn warchodfa natur awyr dywyll - delfrydol ar gyfer edrych ar y sêr.
Mae'r mynediad i mewn i'r Llawr Cyntaf
Cegin gyda'r holl offer gyda bwrdd bwyta a chadeiriau, oergell, rhewgell, meicrodon, popty a hob trydan.
Lolfa gyda lle tân nodweddiadol, soffas cyfforddus a theledu (freesat).
Ystafell wely 1 - gwely maint king, gydag ystafell ymolchi en-suite yn cynnwys cawod, toiled a basn.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl a gwely sengl, gydag ystafell ymolchi en-suite yn cynnwys cawod, toiled a basn.
Llawr Gwaelod Is
(grisiau i lawr o'r gegin/ystafell fwyta)
Ystafell ymolchi gyda baddon, uned gawod a thoiled.
Ystafell iwtiliti gyda mynediad o'r tu allan, delfrydol ar gyfer storio esgidiau cerdded, beiciau, offer chwaraeon. Mae'r mynediad i'r ystafell hon i lawr grisiau o'r ardal parcio.
Tu Allan
Palmant yn y ffrynt gyda bwrdd a chadeiriau, perffaith ar gyfer eistedd tu allan a mwynhau'r golygfeydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Storfa ar gyfer beiciau ac offer
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a danteithion lleol
- Cadair uchel a chot trafeilio ar gael (nodwch pan yn archebu). Dewch â dillad eich hun i'r cot.
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Trydan a gwres canolog yn gynwysedig
- Wi-fi ar gael
- Digon o le parcio
- Darperir y canlynol ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau. Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur i bob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Peiriant sychu dillad ar gael ar gais
- Dim ysmygu
- Croesewir anifeiliaid anwes - mwyafrif o 3 ci (£30 y ci)
Lleoliad
Bwthyn ar ben ei hun ym Mannau Brycheiniog wedi ei leoli ar fferm fychan ger pentref Pontsenni. Mae'r wlad o gwmpas yn drawiadol gyda barcutiaid coch i'w gweld yn aml yn hedfan drwy'r awyr, ac afon Wysg (sy'n enwog am eog) yn llifo ychydig gan metrau i ffwrdd. Ym Mhontsenni mae yna siopau bob dim, rhai tafarndai a garej. Y dafarn agosaf yw'r White House sy'n gweini bwyd gydag awyrgylch leol wych.
Mae tref farchnad Aberhonddu 5 milltir i ffwrdd ac yn le da i brynu cynnyrch lleol. Mae archfarchnad yma hefyd a nifer o lefydd i fwyta a mwynhau. Fe gynhelir Sioe Amaethyddol Cymru a'r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Yn ddiweddar mae Rali GB a ras beiciau Tour of Britain yn pasio drwy'r ardal.
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnwys rhai o'r ffurfiannau mwyaf trawiadol yn Ne Prydain, yn gorchuddio ardal maint 1347km sgwar (520 milltir sgwar). O fynyddoedd i lynnoedd ac afonnydd, mae nifer o atyniadau yn yr ardal yn cynnwys Rhaeadrau Ystradfellte, Rheilffordd Fynyddig Brycheiniog ac Ogofau Dan yr Ogof. Mae Dinas Caerdydd ond 45-50 milltir i ffwrdd sy'n ei wneud yn gyrchfan delfrydol ar gyfer siopa neu ddigwyddiadau chwaraeon, cerddorol a diwylliannol sydd yn cymryd lle yno bob blwyddyn.
Cerdded
Gellir cerdded yn uniongyrchol o'r bwthyn ar hyd nifer o lwybrau (0.1 milltir)
Pysgota
Mae trwydded ar gael ar gyfer yr afon Wysg (0.2 milltir)
Beicio
Milltiroedd o ffyrdd gwledig ar gyfer beicio (0.1 miles)
Beicio mynydd gwych gyda nifer o lwybrau gerllaw ac hefyd Bike Park Wales (20 milltir)
Marchogaeth
Mae Gilfach Equitation yn cynnig trecio a marchogaeth mynydd (2.3 milltir)
Golff
Clwb Golff Cradoc - cwrs 18 twll gyda maes dreifio wedi'i oleuo. Golygfeydd anhygoel dros Fannau Brycheiniog a Pen y Fan (7 milltir)
Chwaraeon Dwr
Digon o chwaraeon dwr yn yr ardal gydag Afon Wysg yn cynnig canwio dwr gwyn (3.0 milltir) a Llyn Llangors (15 milltir)