Bwthyn y Bannau

Brecon, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £943 yr wythnos
  • £135 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Pwll nofio

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 3 o welyau sengl
  • 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 4 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn gwyliau moethus a syfrdanol 5 seren gyda thwb poeth ym Mannau Brycheiniog. Wedi ei adeiladu fel eco-fwthyn gyda golwg ty pren clasurol, mae'n cynnig golygfeydd panoramig ar hyd y cwm. Mae’r bwthyn hunan ddarpar hwn yn ddelfrydol ar gyfer grwp mawr o deulu a ffrindiau i ymlacio a mwynhau amgylchfyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae Bwthyn y Bannau wedi ei adeiladu o gerrig a choed traddodiadol Cymreig ac wedi ei gynllunio i fod mor wyrdd ac ynni effeithlon â phosibl, gyda boeler coed biomas sy'n defnyddio coed o'r fferm, paneli solar a system adennill gwres unigryw. Mae'r waliau coed wedi'u gorchuddio yn ychwanegu at y naws ‘bwthyn pren’ unigryw ac yn rhywbeth y gall pawb ei fwynhau.

Llawr Gwaelod

Ystafell wely 1 gyda dau wely sengl sy’n codi a gostwng. Gellir eu gwthio at ei gilydd gyda phen gwely dwbl (ar gais). Mae'r ystafell hon yn addas i bobl anabl, gyda gwelyau y gallwch eu rheoli yn electronig a theledu HD.

Mae ystafell wlyb fawr ensuite gyda chawod a thy bach, a system larwm anabl wedi ei gosod.

Mae'r lolfa yn cynnwys tair soffa fawr gyfforddus, bwrdd pwl, teledu HD mawr, chwaraewr DVD blue ray a gorsaf Ipod. Mae'r drysau patio yn agor allan ar y patio gorllewinol, y twb poeth a'r ardd. Mae’r stôl hir sy’n rhedeg ar hyd y wal hefyd yn darparu mwy o lefydd i eistedd.

Mae'r gegin yn cynnwys pob cyfleuster, gan gynnwys golchwr/sychwr dillad, peiriant golchi llestri, ac oergell/rhewgell maint llawn.

Ystafell gotiau llawr gwaelod gyda thy bach.

Llawr Cyntaf

Ystafell Wely 2 yw'r brif ystafell wely, gyda gwely maint king, teledu HD ac ystafell gawod ensuite â thy bach. Mae golygfeydd trawiadol o'r Mynyddoedd Duon i'w gweld drwy'r ffenestri.

Mae ystafell wely 3 yn ystafell berffaith i deulu gan ei fod yn cynnwys 3 gwely sengl neu gellir ei newid i 1 sengl ac 1 gwely super king. Teledu HD.

Mae gan ystafell wely 4 wely maint king, teledu HD a golygfeydd panoramig ar draws y dyffryn a dros y fferm.

Prif ystafell ymolchi yn cynnwys bath a chawod ar wahân.

Ceir casgliad helaeth o lyfrau yn y cwpwrdd ar y landing.

Gardd

Twb Poeth mawr wedi'i orchuddio (yn cael ei rannu gyda'r bwthyn drws nesaf). Mae’r mwyafrif o westeion yn gwneud cynlluniau ar ôl cyrraedd ond mae hefyd opsiwn i neilltuo’r twb poeth am slot o 2 awr o flaen llaw am £30 y sesiwn. Ar gael i’w ddefnyddio tan 10pm.

Trampolîn, ffrâm ddringo, llithren, siglen a digon o fannau agored mawr glaswelltog, yn ddelfrydol ar gyfer gemau teuluol a chwaraeon.

Ardal patio gyda bwrdd, cadeiriau a barbeciw (golosg).

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso lleol wrth i chi gyrraedd
  • Dillad gwely a thywelion bath wedi'u darparu
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Cot a chadair uchel ar gael. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer cot.
  • Dim anifeiliaid anwes
  • Digon o le parcio preifat oddi ar y ffordd
  • Addas i bobl anabl gyda rampiau mynediad a rheiliau
  • Beiciau mynydd ar gael i'w llogi o'r fferm (£25 am ddiwrnod cyfan neu £20 am hanner diwrnod). Mae modd trefnu i'ch gollwng neu i'ch casglu ar lwybrau cyfagos.
  • Lle diogel i storio beiciau
  • Mae'r bwthyn wedi ei leoli ar fferm weithredol. Ni ddylid gadael i blant bach grwydro'r fferm heb oruchwyliaeth.
  • WIFI am ddim
  • Ni ellir sicrhau signal ffôn symudol ar y rhwydweithiau i gyd
  • Pecynnau maldod ac ymlacio ar gael
  • Hanner milltir o le pysgota preifat ar Afon Crai (un o isafonydd afon eog byd-enwog y Wysg)
  • Archfarchnad yn dosbarthu i'r ardal.
  • Mae bond 'gofal da am lety' ar y llety hwn am £150, sydd yn ad-daladwy ac yn ddyledus i Y Gorau o Gymru ar yr un pryd â balans eich gwyliau. Neu, gallwch osgoi y bond hwn drwy, yn hytrach, dalu ffî sydd ddim yn ad-daladwy am £5 y person
  • Drws nesaf i Fwthyn y Bannau mae bwthyn Llety Llyn y Fan ac mae Ysgubor y Dderwen a Bwthyn Tre-faen ar yr un fferm hefyd. Gellir eu harchebu i gyd i gysgu hyd at 36 person (gan gynnwys gwlâu soffa). Gostyngiad o 10% wrth archebu’r ddau gyda’i gilydd. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
  • Enillydd Gwobr Busnes Powys

Lleoliad

Mae Bwthyn y Bannau drws nesaf i fwthyn Llety Llyn y Fan ac mae wedi ei leoli ar fferm weithiol 100 acer sy’n arbenigo mewn cig oen organig. Mae’r ddau fwthyn wedi eu gosod ar fuarth dros ffordd i’r prif ffermdy ym mhentref tawel a gwledig Crai, yng nghanol Bannau Brycheiniog. Mae’r olygfa i’r gorllewin o’r bythynnod yn edrych dros Ddyffryn Crai ac i fyny tuag at Llyn-y-Fan, llyn gyda chwedl fytholegol iddi ble dywedir i ‘Ferch Llyn y Fan’ ymddangos. Gellir gweld barcutiaid coch yn aml yn hedfan uwch y fferm.

Mae’r dafarn, siopau a gorsafoedd petrol agosaf ym Mhont Senni, tua 3 milltir i ffwrdd. Mae tref farchnad draddodiadol Aberhonddu tua 8 milltir i ffwrdd. Mae uchafbwyntiau diwylliannol yn cynnwys Gwyl Jazz Aberhonddu ym mis Awst. Mae Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ym Mis Mehefin a’r Ffair Aeaf ym mis Rhagfyr, y ddau’n cael cynnal yn Llanfair-ym-Muallt, yn uchafbwyntiau’r flwyddyn i’r gymuned amaethyddol. Mae’r Rali hefyd yn mynd heibio ychydig filltiroedd o’r bwthyn.

Bannau Brycheiniog yw’r Parc Cenedlaethol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael statws Geopark. Wedi ei sefydlu’n 1957, mae’r parc yn cynnwys rhai o’r tiroedd mwyaf trawiadol yn Ne Prydain, yn cynnwys ardal o 1347 km sgwâr. Mae nifer o atyniadau yn yr ardal yn cynnwys rhaeadrau hyfryd Ystradfellte. Mae Rheilffordd Mynydd Aberhonddu ac Ogofau Dan yr Ogof sydd yn un o atyniadau gorau Cymru a hefyd wedi ei bleidleisio’n rhyfeddod naturiol gorau Prydain.

Er gwaethaf ei leoliad gwledig a heddychlon, mae’r bwthyn yn agos at lonydd sy’n cysylltu ‘r ardal gydag Abertawe (tua 45 munud) a Chaerdydd (tua 50 munud). Mae llwybr bws i Aberhonddu wedi ei leoli taith cerdded fer o’r bwthyn.

Cerdded

Gellir dod o hyd i lwybrau cerdded anhygoel ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda chopa Pen y Fan, Cornddu a Chriban, yn ogystal â Llwybr Epynt sy’n 90 cilomedr. Llwybrau’n mynd yn syth o’r bwthyn. 0.1 milltir.

Pysgota

Mae’r bwthyn yn cynnwys hanner milltir o bysgota preifat ar Afon Grai, isafon i’r Afon Wysg sy’n enwog am ei heogiaid. 0.1 milltir.

Beicio

Nifer fawr o lwybrau - gallwch feicio ar hyd yr afon Gwy o’i dechrau, drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Llwybrau lleol a lonydd gwledig. 3.2 milltir.

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Gilfach ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig gwersi a chyrsiau marchogaeth, marchogaeth mynydd a merlota. 5 milltir.

Golff

Clwb Golff Cradoc – cwrs golff 18 twll gyda goleuadau. Golygfeydd gwych dros Fannau Brycheiniog a Phen y Fan. 10 milltir.

Chwaraeon Dwr

Mae’r Afon Wysg yn darparu canwio dwr gwyn. 3.0 milltir.

Llyn Llangorse. 18 milltir