Onnen Fawr Barn

Brecon, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star Gold
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £1,350 yr wythnos
  • £193 y noson
  • 5 Star Gold

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Pwll nofio

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau dwbl
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Un o dri o fythynnod hunan-ddarpar y gallwch eu harchebu gyda’i gilydd fel Llety Grŵp ym Mannau Brycheiniog ar gyfer 25 o bobl. Cymerwch gipolwg ar Onnen Fawr Cottage (cysgu 6), a Onnen Fawr Farmhouse (cysgu 8) i gael rhagor o wybodaeth.

Bwthyn moethus a chwaethus gyda thwb poeth wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r bwthyn hwn newydd gael ei adnewyddu, ac mae’n newydd i’r wefan. Fe’i dyluniwyd i ofynion uchel ac mae’n lle delfrydol i deulu neu grŵp mawr. Mae nifer o lwybrau cerdded i’w cael yn yr ardal, gan gynnwys llwybrau o’r fferm, ac mae digon o weithgareddau hefyd sy’n addas i bobl o bob oedran a phob tywydd. 

Llawr Gwaelod

Cegin fawr / ystafell fwyta – Cegin gyda phopeth sydd ei angen arnoch gan gynnwys oergell fawr , microdon, ffwrn drydan a hob nwy 8 cylch. Bwrdd a chadeiriau i 12 o bobl allu eistedd yn gyfforddus.  

Lolfa – Soffa drawiadol â 12 sedd, gyda stôf llosgi coed o fewn lle tân nodweddiadol traddodiadol. Teledu a chwaraewr DVD.

Ail lolfa / man darllen gyda theledu a soffas cyfforddus. Ardal ddelfrydol i blant neu i oedolion ddianc iddo, a mwynhau ychydig o dawelwch.

Ystafell iwtiliti gyda sinc, peiriant golchi dillad, a thŷ bach a chawod fawr.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 – Gwely mawr iawn a gwely sengl, teledu a bwrdd ymbincio. Grisiau’n arwain at en-suite mawr gyda bath, uned gawod ar wahân a thŷ bach.  

Ystafell wely 2 – Gwely mawr iawn a gwely dwbl gyda theledu. (Yn ogystal â’u drysau eu hunain, mae gan ystafelloedd gwely 2 a 3 ddrws rhyngddynt sy’n cloi).

Ystafell wely 3 – Gwely mawr iawn, a theledu.

Ystafell wely 4 – Gwely dwbl a theledu.

Prif ystafell ymolchi – Bath â chawod, a thŷ bach.

Y tu allan

Patio preifat y tu allan i’r bwthyn gyda thwb poeth (wedi’i rannu ag un bwthyn arall drws nesaf) ac ardaloedd mawr â lawnt a thrampolîn, yn berffaith ar gyfer chwaraeon. Digon o seddi i’r holl westeion.

Mae mwy o erwau ar y fferm fel y gallwch chi fynd i grwydro, ac mae hawl ichi bysgota ar afon Crai.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Ni chaniateir anifeiliaid anwes.
  • Darperir dillad gwely a thyweli mawr.
  • Cot babi a chadair uchel ar gael. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Wi-fi – Er gwybodaeth, mae hwn yn fand eang gwledig ac mae’n bosibl na fydd mor gyflym â’r hyn rydych wedi arfer â’i ddefnyddio.
  • Digon o barcio oddi ar y ffordd.
  • Twb poeth wedi’i rannu ag un bwthyn arall drws nesaf. Ni ddylid defnyddio’r twb ar ôl 10 o’r gloch y nos.
  • Mae’r twb poeth ar y safle er mwynhad y gwesteion, ac nid yw wedi’i adlewyrchu yn y gost ar gyfer yr eiddo. Mae gan y perchnogion yr hawl i gau unrhyw sbas ar unrhyw adeg os bydd angen gwneud gwaith cynnal a chadw angenrheidiol.
  • Mae beiciau mynydd ar gael i’w llogi o’r fferm (£25 am ddiwrnod llawn neu £15 am hanner diwrnod). Mae modd trefnu i drosglwyddo beiciau neu eu dychwelyd ar lwybrau cyfagos hefyd.
  • Ystafell chwaraeon, gyda thenis bwrdd.
  • System ffotofoltäig solar drydanol a gwres o’r ddaear.
  • Mae’r bwthyn wedi’i leoli ar fferm weithredol ac ni ddylid gadael i blant ifanc grwydro o gwmpas y fferm heb gadw llygad arnynt.
  • Ni ellir sicrhau signal ar gyfer pob rhwydwaith ffôn symudol.
  • Hanner milltir o hawliau pysgota preifat ar afon Crai (un o lednentydd afon Wysg sy’n fyd-enwog am eog).
  • Mae digon o wybodaeth ar gael yn y bwthyn am y llwybrau cerdded a beicio lleol ac ati.
  • Mae archfarchnadoedd yn dosbarthu i’r ardal.
  • Coeden Nadolig gyda goleuadau a Siôn Corn dros gyfnod y Nadolig.

Mae modd archebu’r bwthyn ar y cyd â’r bwthyn drws nesaf Onnen Fawr Cottage a Onnen FawrFarmhouse ar gyfer cyfanswm o 25 o bobl.

Lleoliad

Mae’r bwthyn hwn wedi’i leoli ochr yn ochr â bwthyn bach arall (Onnen Fawr Cottage), o fewn tafliad carreg i’r hen ffermdy. Mae’r fferm wedi’i lleoli tua milltir i ffwrdd o bentref gwledig tawel Crai, sydd yng nghanol Bannau Brycheiniog. Dyma gynefin y barcut coch a gallwch weld yr adar hyn yn aml yn hedfan uwchben y fferm. Mae’r fferm gyfan hon yn organig ac yn cael ei rhedeg o fewn cynllun rheoli tir cynaliadwy Glastir.

Y dafarn agosaf yw’r Tanners yn Defynnog, tua 2 filltir i ffwrdd. Mae rhagor o dafarndai, siopau a garej betrol 3 milltir i ffwrdd ym Mhontsenni. Mae hen dref farchnad draddodiadol Aberhonddu 7 milltir i ffwrdd. Drwy gydol y flwyddyn, cynhelir nifer o ddigwyddiadau yn yr ardal, gan gynnwys Gŵyl Jazz Aberhonddu, Gŵyl y Gelli, a Gŵyl y Dyn Gwyrdd, a chynhelir Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru sy’n fyd-enwog, a’r Sioe Aeaf hefyd, yn Llanfair-ym-Muallt. Yn y blynyddoedd mwyaf diweddar, mae’r Rali a’r ras feicio Tour of Britain wedi mynd drwy’r ardal hon.

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym 1957, ac mae’n cynnwys rhai o’r ffurfiadau tir uchel mwyaf trawiadol ac unigryw yn Ne Prydain, gan gwmpasu ardal o 1,347 km2 (520 milltir sgwâr). Mae nifer o atyniadau yn yr ardal gan gynnwys Rhaeadrau ysblennydd Ystradfellte, Rheilffordd Fynydd Aberhonddu ac ogofâu Dan yr Ogof, sef un o brif atyniadau teuluol Cymru ac a gafodd ei ethol yn rhyfeddod naturiol gorau Prydain. Bannau Brycheiniog yw’r Parc Cenedlaethol cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael statws Geoparc.

Er bod iddo leoliad gwledig a thawel, mae gan y bwthyn gysylltiadau ffordd gwych i ddinasoedd mawr Abertawe (tua 45 munud) a Chaerdydd (tua 50 munud).

Teithiau cerdded
Mae llwybrau cerdded gwych o gwmpas Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gan gynnwys dringo mynyddoedd Pen-y-fan, Cornddu a Chribyn, yn ogystal â Llwybr Epynt sy’n 90 km o hyd. Mae’r llwybrau’n mynd yn uniongyrchol o’r bwthyn. 0.1 milltir.

Pysgota
Mae’r bwthyn yn cynnwys hanner milltir o bysgota preifat ar afon Crai, llednant i’r afon eog enwog, y Wysg. 0.1 milltir.

Beicio
Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 43 yn mynd â chi o Graig-y-Nos a thrwy Abertawe a’r Mwmbwls. Llwybrau lleol a gwledig. 2 filltir.

Merlota
Mae Gilfach Equitation, sydd wedi’i leoli ym Mannau Brycheiniog, yn cynnig merlota, marchogaeth mynydd, gwersi marchogaeth a chyrsiau marchogaeth. 5 milltir.

Golff
Yng Nghlwb Golff Cradoc, mae cwrs 18 twll a maes ymarfer wedi’i oleuo. Mae golygfeydd anhygoel yno dros Fannau Brycheiniog a Phen y Fan. 10 milltir.

Chwaraeon dŵr
Mae cyfleusterau da yma i bobl sy’n frwd am chwaraeon dŵr gan fod canŵio dŵr gwyn ar gael ar afon Wysg (3.0 milltir) ac mae Llyn Syfaddon hefyd gerllaw (18 milltir).