Onnen Fawr Farmhouse

Brecon, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 5 Star
  • Ffermdy ym Mannau Brycheiniog gyda golygfeydd trawiadol ar draws cefn gwlad. Mae’n lleoliad delfrydol i gael gwyliau o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £991 yr wythnos
  • £142 y noson
  • 5 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 ystafell ymolchi
  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 15:30
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Un o dri o fythynnod hunan-ddarpar y gallwch eu harchebu gyda’i gilydd fel Group Accomodation in the Brecon Beacons ar gyfer 25 o bobl. Cymerwch gipolwg ar Onnen Fawr Cottage (cysgu 6), ac Onnen Fawr Barn (cysgu 11) i gael rhagor o wybodaeth.

Dyma fwthyn sy’n sefyll ar ei ben ei hun i 8 o bobl. Mae wedi’i leoli ym Mannau Brycheiniog, ar fferm gyda 2 fwthyn arall a gallech eu harchebu gyda’i gilydd neu ar wahân. Mae ganddo dwb poeth mawr preifat, gardd gefn a golygfeydd trawiadol ar draws cefn gwlad, ac mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer gwyliau o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r ardal yn wych os hoffech fynd i gerdded, beicio, beicio mynydd, neu bysgota (mae hawliau pysgota preifat wedi’u cynnwys) ac mae digonedd o weithgareddau bob tywydd ar gael hefyd. Mae’n ddelfrydol ar gyfer teulu mawr neu grŵp o ffrindiau.


Llawr Gwaelod

Cegin / ystafell fwyta – Cegin ffermdy draddodiadol a bwrdd bwyta mawr. Cegin gyda phopeth sydd ei angen arnoch, a bwrdd a chadeiriau i 8 o bobl allu eistedd yn gyfforddus.

Lolfa – Stôf llosgi coed o fewn lle tân nodweddiadol traddodiadol. Teledu a chwaraewr DVD.

Ail lolfa / ystafell ddarllen. Ardal ddelfrydol i blant, neu’n berffaith i’r oedolion ddianc iddi i fwynhau ychydig o dawelwch.

Ystafell iwtiliti gyda sinc a thŷ bach.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 – Gwely mawr iawn.

Ystafell wely 2 – Gwely mawr iawn gydag en-suite, tŷ bach ac uned gawod.

Ystafell wely 3 – Gwely dwbl.

Ystafell wely 4 – Gwely dwbl.

Prif Ystafell Ymolchi – Bath gydag uned gawod ar wahân, sinc a thŷ bach.

Y tu allan

Twb poeth preifat, gardd gefn breifat gyda phatio, ac ardaloedd â lawnt, barbeciw nwy a ‘kadai’. Mae erwau o dir ar y fferm y gallech chi fynd i’w crwydro, ac mae hawl ichi bysgota ar afon Crai.


Gwybodaeth Ychwanegol

  • Ni chaniateir anifeiliaid anwes.
  • Darperir dillad gwely a thyweli bath.
  • Mae cot teithio a chadair uchel ar gael. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Wi-fi – Er gwybodaeth, mae hwn yn fand eang gwledig ac mae’n bosibl na fydd mor gyflym â’r hyn rydych wedi arfer â’i ddefnyddio.
  • Digon o barcio preifat oddi ar y ffordd.
  • Mae beiciau mynydd ar gael i’w llogi o’r fferm (£25 am ddiwrnod llawn neu £15 am hanner diwrnod). Mae modd trefnu i drosglwyddo beiciau i lwybrau cyfagos neu eu dychwelyd.
  • Mae’r bwthyn wedi’i leoli ar fferm weithredol ac ni ddylid gadael i blant ifanc grwydro o gwmpas y fferm heb eu goruchwylio.
  • Ni ellir sicrhau signal ar gyfer pob rhwydwaith ffôn symudol.
  • Ystafell chwaraeon fawr wedi’i rhannu.
  • Hanner milltir o hawliau pysgota preifat ar afon Crai (un o lednentydd afon Wysg sy’n fyd-enwog am eog).
  • Mae digon o wybodaeth yn y bwthyn am lwybrau cerdded, llwybrau beicio lleol ac ati.
  • Mae archfarchnadoedd yn dosbarthu i’r ardal.
  • Ni ddylid defnyddio’r twb poeth ar ôl 10 o’r gloch y nos.
  • Mae’r twb poeth ar y safle er mwynhad y gwesteion, ac nid yw wedi’i adlewyrchu yn y gost ar gyfer yr eiddo. Mae gan y perchnogion yr hawl i gau unrhyw sbas ar unrhyw adeg os bydd angen gwneud gwaith cynnal a chadw angenrheidiol.
  • Coeden Nadolig gyda goleuadau a Siôn Corn dros gyfnod y Nadolig.

Mae modd archebu’r llety hwn ar y cyd â’r 2 lety drws nesaf, Onnen Fawr Cottage ac Onnen Fawr Barn, ar gyfer cyfanswm o 25 o bobl.

 

Lleoliad