Beacons View Farm Cottages

Brecon, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Tri bwthyn wedi eu lleoli gyda’i gilydd ac yn cynnwys twb poeth, ‘sauna,’ ystafell gemau dan do a pharc chwarae i’r plant y tu allan

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £2,697 yr wythnos
  • £385 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 6 o welyau dwbl
  • 6 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 7 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Mae Beacons View yn cynnwys tri bwthyn sydd wedi eu lleoli gyda’i gilydd ac yn cynnwys dau dwb poeth, ystafell gemau dan do a pharc chwarae i’r plant y tu allan, a golygfeydd gwledig hyfryd dros fryniau’r Bannau Brycheiniog. Perffaith ar gyfer grwpiau mawr neu deuluoedd, mae Stabal y Barcud yn cysgu 5, Yr Hen Ffermdy yn cysgu 6 ac Ysgubor y Mynydd yn cysgu 8, ac wedi eu cyfuno yn cysgu 19. Mae Stabal y Barcud yn cyffinio Yr Hen Ffermdy gyda drysau sy’n cyd-gloi tra fod Ysgubor y Mynydd ar wahân.
Yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau mawr, mae gan un o’r bythynnod (Ysgubor y Mynydd) ystafell haul newydd gydag ystafell fwyta agored fawr gyda byrddau a all gael eu rhoi at ei gilydd i greu un bwrdd bwyta mawr, neu mi allant gael eu symud i’r ochr i greu mwy o le. Mae’r 3 wedi eu lleoli’n agos i’w gilydd ac i ffwrdd o unrhyw dai eraill.


Gwybodaeth Stabal y Barcud (Uned 1):

Llawr Gwaelod

Lolfa sy’n cynnwys soffa ymlaciol, gyfforddus, teledu, DVD, tân drydanol gydag effaith coed tân a dewis eang o wybodaeth lleol.
Cegin â steil gydag oergell/rhewgell maint llawn, meicrodon, tostiwr, peiriant golchi llestri, peiriant golchi dillad a hob drydanol. Mae yna hefyd ddrŵs sy’n cydgysylltu’r bwthyn â’r bwthyn drws nesaf, sef Yr Hen Ffermdy, fel bod posib uno’r ddau fwthyn ar gyfer grwpiau mwy. Bwrdd bwyta mawr steil cegin ffermdy gyda lle i 6 i eistedd a drŵs yn arwain allan i’r ardd ar yr ochr.
Ystafell gotiau efo toiled a sinc.


I fyny’r grisiau

Ysatfell 1 – Ysafell wely deulu fawr gyda gwely dwbl a gwely sengl, cwpwrdd a bwrdd ymbicio.
Ystafell 2 – Gwely dwbl ac ardal storio.
Prif ystafell folchi – Bath efo cawod dros y bath, toiled, sinc a llawr teils steil llechi Cymreig.

Gwybodaeth Yr Hen Ffermdy (Uned 2):

Mae’r llawr gwaleod yn agored gyda lle tân fel canolbwynt (tân drydanol sydd yno rwan), lolfa, cegin ac ardal fwyta.
Soffa gyfforddus a set o gadeiriau bob ochr i’r lle tân. Teledu ‘freeview’ a pheiriant DVD.
Cegin ag offer llawn gan gynnwys popty drydanol, hob, meicrodon, tostiwr, oergell/rhewgell maint llawn, peiriant golchi llestri a pheiriant gwneud coffi.
Ardal fwyta gyda bwrdd a lle i 6 eistedd.
Ystafell gyda pheiriant golchi dillad, cypyrddau, sinc a thoiled ar wahan.

I fyny’r grisiau

Ystafell 1: Ystafell ddwbl gydag ardal harddwch, ciwbicl cawod a sinc yng nghornel yr ystafell. Golygfeydd syfrdanol drwy’r ffenest.
Ystafell 2: Ystafell ddwbl gyda lle tân fel canolbwynt, cwpwrdd.
Ystafell 3: Ystafell twin gyda set o ddroriau.
Ystafell folchi deuluol gyda cawod maint dwbl, bath a thoiled.

Gwybodaeth Ysgubor y Mynydd (Uned 3):

Ystafell haul fawr, Cegin, lolfa ac ardal fwyta agored gyda digon o wagle.
Cegin fawr gyda digon o le i ddiddanu, popty drydanol a hob, oergell/rhewgell maint llawn a pheiriant golchi llestri.
Soffa gyfforddus gyda llosgwr pren fawr a digon o le i eistedd. Teledu, DVD a chasgliad da o fapiau a gwybodaeth lleol.
Byrddau bwyta a all gael eu defnyddio ar wahan neu gyda’i gilydd ar gyfer achylsur arbennig.
Ystafell arall gydag oergell/rhewgell maint llawn arall, sinc a thoiled.

I fyny’r grisiau

Ystafell 1: Gwely dwbl, ardal harddwch, cwpwrdd a soffa (a all gael ei ddefnyddio fel gwely soffa). Golygfa syfrdanol ar draws y cwm.
Ystafell 2: Ystafell twin gyda digon o le i gadw pethau.
Ystafell 3: Gwely dwbl a gwely sengl. Digon o wagle, cwpwrdd, set o ddroriau. Ystafell folchi en-suite gyda thoiled, sinc a chawod.
Y brif ystafell folchi: Bath sy’n sefyll ar ben ei hun, toiled, sinc a chawod ar wahan.

Tu allan

Patio breifat a gardd gyda dodrefn a BBQ. Gardd ag ardal chwarae i’r plant, 2 dwb poeth, ac ystafell gemau i gyd i’w rhannu rhwng y 3 bwthyn.  Modd cerdded y caeau cyfagos gan gynnwys coedwig gyda thrac beicio mynydd eu hunain.

Gwybodaeth ychwanegol

·         Pecyn croeso wrth i chi gyrraedd sy’n cynnwys cynnyrch gwych o fecws lleol gerllaw.

·         Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig.

·         Trydan a gwres canolog yn gynwysedig.

·         Cadair uchel a chot deithiol ar gael ar gais. Gofynwn yn garedig i chi ddod a’ch dillad cot eich hunain.

·         Wi-fi ar gael.

·         Mae’r eitemau canlynol yn cael eu darparu yn y bythynnod ar gyfer eich arhosiad... Cegin: hylif golchi llestri/tabledi peiriant golchi llestri, offer golchi llestri a htywelion sychu llestri. Ystafell folchi: 2 rolyn o bapur toiled.

·         Dim ysmygu y tu mewn.

·         Caniateir anifeiliaid anwes (6 ar y mwyaf – 2 ym mhob uned) am £20 am bob ci. Mae’n rhaid i anifeiliaid anwes aros ar y llawr gwaelod yn y bythynnod a chael eu cadw o dan reolaeth o gwmpas y tir fferm. 

·         Mae Tesco, Asda, Sainsbury’s a Waitrose yn gallu trosgludo bwyd yma.

·         Mae angen rhybudd o oleiaf 72 awr ar gyfer archebion munud olaf ar-lein. Plîs cysylltwch â ni cyn archebu ar-lein os yn y sefyllfa yma.

O ganol Gorffennaf 2024, bydd gan yr eiddo hwn uned ychwanegol, gan wneud maint y cwsg 21. Adlewyrchir hyn yn y prisiau o ganol Gorffennaf 2024 ymlaen

Lleoliad

Tri bwthyn arwahan wedi eu lleoli gyda'i gilydd yw Beacons View Farm Cottages. Mae Ysgubor y MynyddYr Hen Ffermdy a Stabal y Barcud wedi eu hamgylchynu gan gefn gwlad ffrwythlon, a'r pentref bach agosaf, sy'n cynnwys siop fara leol, yw Merthyr Cynong (1 filltir).  

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cwmpasu 520 o filltiroedd sgwâr, ac mae’n cynnwys teithiau cerdded yn y mynyddoedd a thir gwledig godidog. Mae tref Aberhonddu 10 milltir i ffwrdd ac mae ganddi nifer fwy o siopau unigryw i fynd i bori ynddyn nhw. Y Wysg yw’r afon sy’n llifo drwy’r dref (sydd hefyd yn enwog am bysgota eog), ac mae camlas sir Fynwy ac Aberhonddu yn dechrau yma ac yn rhedeg am 35 milltir. Mae hefyd yn werth ymweld â’r Gelli. Cynhelir Gŵyl y Gelli bob blwyddyn ac mae’n ŵyl lenyddol a chelfyddydol fyd-enwog.

Mae tref sba Llanfair-ym-Muallt 8 milltir yn unig i ffwrdd, sef cartref Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf, ac mae ganddi nifer o siopau, bwytai a thafarndai sy’n gweini cynnyrch lleol gwych. Mae’n ardal pysgota eog ac mae afon Gwy sy’n llifo drwy Llanfair-ym-Muallt yn enwog am fod yn un o brif afonydd eog y Deyrnas Unedig.

Mae nifer o atyniadau eraill yn yr ardal, gan gynnwys Fferm Hwyl a Chanolfan Fenter Cantref, sy’n wych ar gyfer teuluoedd, ac sydd â nifer o weithgareddau y tu allan ac o dan do fel ei bod hi’n addas ar gyfer unrhyw fath o dywydd. Mae dinas Caerdydd lai nag awr i ffwrdd os hoffech ychydig o ‘therapi siopa’ – neu beth am roi cynnig ar un o’r digwyddiadau chwaraeon niferus sy’n cael eu cynnal yno?

Cerdded
Gallwch gerdded yn uniongyrchol o’r bwthyn, ac mae nifer o deithiau cerdded i’w gwneud gan gynnwys Llwybr Epynt, Taith Gerdded Dyffryn Gwy a Dyffryn Elan. 0.1 milltir.

Pysgota
Pysgota hela gwych ar afonydd Gwy a Wysg gyda thrwyddedau diwrnod ar gael. 0.1 milltir.

Golff
Mae Clwb Golff Cradoc yn gwrs 18 twll hyfryd yn Nyffryn Wysg uwchben Aberhonddu. 6 milltir.

Marchogaeth
Gallwch ddod â’ch ceffyl eich hun gan fod stablau ar gael ar y fferm, ac mae llwybrau marchogaeth gwych o’r bwthyn. Mae Canolfan Farchogaeth Cantref yn rhan o’r ganolfan weithgareddau a menter, lle mae gwersi a theithau marchogaeth ar gael. 13 milltir.

Beicio
Llwybrau rhagorol o gwmpas yr ardal sy’n wych ar gyfer beicio ar y ffordd. Mae ras feicio ‘Tour of Britain’ wedi dod drwy’r ardal hon ar sawl achlysur. 0.1 milltir.

Mae dau o’r llwybrau MTB ‘i lawr rhiw’ gorau yn y Deyrnas Unedig gerllaw yn Rhaeadr. Mae llwybr beicio mynydd ger y bwthyn mewn coedwig breifat. 0.1 milltir.

Mae’r digwyddiadau mawr yn yr ardal yn cynnwys:
Sioe Frenhinol Cymru, Gŵyl Frenhinol Cymru, Gŵyl y Gelli, a Gŵyl Jazz Aberhonddu. Cynhelir digwyddiadau mawr eraill ar dir y Sioe Frenhinol hefyd, gan gynnwys y Ffair Aeaf a’r Ffair Wanwyn.