Abereithrin Cottage

Brecon, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £454 yr wythnos
  • £65 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r afon
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Cot
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Lleolir bwthyn Abereithrin mewn rhan hyfryd o Gymru, rhwng trefi marchnad traddodiadol Aberhonddu a Llanymddyfri (12 milltir yr un) ac wedi ei amgylchynu gan dirlun hardd, llwybrau camlas, cestyll a digonedd o atyniadau teuluol, yn cynnwys ogofau Dan yr Ogof. Saif y bwthyn hunan-ddarpar hwn mewn llecyn gwledig ym Mhentrebach, pentref bychan iawn gyda rhyw 8 ty a thafarn draddodiadol o’r enw Tafarn y Crydd.

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw gysurus gyda chymeriad traddodiadol. Stôf llosgi coed o fewn lle tân cerrig. Soffa lledr i 3, 2 gadair freichiau a byrddau wrth eu hymyl. Llawr llechfaen, ambell wal gerrig a thrawstiau derw a grisiau derw agored yn arwain i’r ystafelloedd gwely. Teledu gyda sianeli am ddim, chwaraewr DVD a chornel gerdd (radio, chwaraewr CD a thapiau). Drws gwydr dwbl yn arwain i’r ardd flaen.

Cegin dderw gyda 4 hob nwy, popty a gril. Popty microdon, tostiwr, tegell, llestri, cytleri, gwydrau ac offer coginio, haearn a bwrdd smwddio. Bwrdd bwyd â phedair cadair. Llawr llechfaen a rheiddiadur. Ambell wal gerrig a thrawstiau derw.

Ystafell ymolchi gyda bath a chawod drydan uwch ei ben, sinc a thoiled. Waliau teils gyda drych a phwynt eillio. Rheiddiadur a rheilen cynhesu tywelion.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1: Gwely dwbl, cist ddroriau, bwrdd ger y gwely gyda golau, drych, lle hongian dillad a sychwr gwallt. Ffenestr gyda gwydr dwbl yn edrych allan i’r blaen a ffenestr velux gyda gorchudd yn y cefn. Llawr derw, trawstiau a drws derw wedi ei wneud â llaw.

Ystafell wely 2: Gwely dwbl, drych hir a gofod hongian dillad. Ffenestr gyda gwydr dwbl yn edrych allan i’r blaen a ffenestr velux gyda gorchudd yn y cefn. Llawr derw, trawstiau a drws derw wedi ei wneud â llaw.

Gardd

Ardal i eistedd o flaen y bwthyn, lawnt fawr wastad yn y cefn a lawnt arall yn edrych dros gymer dwy afon fechan (Cilieni ac Eithrin) yr ochr arall i’r ffordd. Barbeciw, bwrdd picnic mawr a chadeiriau gorwedd ar gael. Gall plant chwarae ar y lawnt neu yn y cae tu ôl i'r bwthyn. Nodwch fod yr afon yn llifo ar hyd ymyl agored y lawnt felly mae angen goruchwylio plant ifanc a/neu anifeiliad anwes.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dillad gwely, tywelion dwylo a bath a sychwr gwallt yn gynwysedig

Darperir cadair uchel (dewch a chot teithio a dillad gwely iddo eich hunan os gwelwch yn dda)

Gwres Canolog (drwyddo draw) a thrydan yn gynwysedig. Darperir logiau ar gyfer y stôf llosgi coed

Llefrith, te a choffi i’ch croesawu ar eich cyrhaeddiad

Darperir gemau bwrdd

Parcio preifat oddi ar y ffordd

Mae'r bwthyn yn caniatáu cwn

Mae’r bwthyn yn caniatáu cwn a chathod am bris rhesymol o £20 am bob anifail

Ni chaniateir ysmygu yn y bwthyn

Wifi ar gael

Lleoliad

Lleolir bwthyn Abereithrin ar ffin ogleddol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae hwn yn rhan hyfryd o Gymru gyda threfi marchnad traddodiadol, tirlun hardd, llwybrau camlas, cestyll a digonedd o atyniadau teuluol. Mae’r golygfeydd yma yn hyfryd ac amrywiol, o fryniau a chymoedd, i harddwch gwyllt y rhaeadrau a’r ogofau. Mae Cymru’n adnabyddus am ei chestyll ac un o’r rhai mwyaf dramatig yw Carreg Cennen ger Llandeilo. Ceir cestyll gwerth eu gweld yn Aberhonddu, Llanymddyfri, Crughywel, Tretwr, Gelli Gandryll a Bronllys hefyd.

Saif y bwthyn drws nesaf i dy’r perchennog mewn lleoliad gwledig a thawel ym Mhentrebach, pentref bychan iawn gyda rhyw 8 ty a thafarn draddodiadol o’r enw Tafarn y Crydd.

Mae’r siopau a’r orsaf betrol agosaf ym Mhontsenni, tua 3 milltir i ffwrdd. Mae hen drefi marchnad traddodiadol Aberhonddu a Llanymddyfri oddeutu 12 milltir i ffwrdd mewn cyfeiriadau gwahanol. I’r gogledd ceir ucheldir yr Epynt ac ardal hyfforddi’r fyddin. I’r de ceir ogofau Dan yr Ogof, un o brif atyniadau teuluol Cymru sydd hefyd wedi ei farnu yn rhyfeddod naturiol gorau Prydain.

Mae’r uchafbwyntiau diwylliannol yn cynnwys Gwyl Jazz Aberhonddu yn Awst, Gwyl Gelli Gandryll ddiwedd Mai/dechrau Mehefin a Gwyl y Dyn Gwyrdd ger Crughywel yn Awst. Caiff y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf a’r Ffair Aeaf yn Rhagfyr eu cynnal yn Llanelwedd ac maent yn uchafbwyntiau blynyddol i’r gymuned amaethyddol.

Chwaraeon dwr

Canwio dwr gwyn ar yr afon Wysg. 3 milltir

Cerdded

Ceir nifer o lwybrau cerdded trawiadol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n cynnwys mynyddoedd Pen y Fan, Cornddu a'r Criban, yn ogystal â Llwybr Epynt sydd yn daith gylchol 90 cilomedr.

Pysgota

Gellir cael trwyddedau a thocynnau diwrnod ar gyfer pysgota brithyll brown gwyllt, samwn a brithyll môr ar yr afon Wysg. 3 milltir

Golff

Clwb Golff Cradog. Cwrs 18 twll yn ogystal ag ardal ymarfer gyda llifoleuadau. Golygfeydd trawiadol dros y Bannau a Pen y Fan. 8 milltir

Beicio

Digonedd o lwybrau – gellir beicio ar hyd glannau’r Afon Wysg o’i tharddiad, drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Llwybrau lleol a ffyrdd gwledig. 3.2 milltir

Marchogaeth

Wedi ei lleoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Canolfan Farchogaeth Cantref yn cynnig merlota, marchogaeth mynydd, gwersi marchogaeth a chyrsiau byr. 13.5 milltir