Corlan Aber

Aberystwyth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Gyda twb poeth preifat ac ystafell chwaraeon, mae'r llety hwn yn derbyn anifeiliaid anwes ac yn darparu lleoliad gwych ar gyfer aduniadau.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £689 yr wythnos
  • £98 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau king/super-king
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 ystafell ymolchi
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 15:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Gyda twb poeth preifat ac ystafell chwaraeon, mae'r llety hwn yn derbyn anifeiliaid anwes ac yn darparu lleoliad gwych ar gyfer aduniadau. Lai na 3 milltir o dref Aberystwyth ar arfordir Bae Ceredigion, mae Corlan Aber yn mwynhau safle tawel ym mhentref Llanfarian. Gellir ymuno â Llwybr Beicio Ystwyth o stepen y drws, gyda mynediad uniongyrchol i siopau a bwytai Aberystwyth.

Mae Aberystwyth yn gartref i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru, dau draeth, promenâd, castell, rheilffordd y graig, a trên stêm i Bont ar Fynach. Heb anghofio Prifysgol Aberystwyth, sinema draddodiadol a Chanolfan Gelfyddydau fwyaf Cymru. 

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw agored siap-L yn cynnig ardal ymlaciol i deuluoedd neu ffrindiau, gyda gwres dan y llawr yn y lolfa a'r ardal fyw.

Cegin - gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys oergell, rhewgell, popty, meicrodon a pheiriant golchi llestri. Mae'r ystafell iwtiliti cydffiniol yn cynnwys peiriant golchi dillad.

Ardal fwyta - bwrdd mawr ar gyfer 10 o westeion, yn edrych allan dros yr ardd gefn.

Lolfa - soffas a chadeiriau i'r holl westeion eistedd gyda'i gilydd, gyda teledu 40" ar y wal. Drysau patio yn arwain allan i'r ardd a'r twb poeth.

Ystafell Chwaraeon - ystafell arwahan gyda bwrdd dartiau (dewch â dartiau eich hun) a bwrdd pwl bach. Oergell arall os oes angen. 

Ystafell wely - gwely maint king mawr, soffa fach ac ystafell gawod en-suite. Gan nad oes unrhyw stepiau i'r llety, dyma leoliad gwych i westeion llai abl. 

Llawr Cyntaf

Ystafell wely - gyda gwely king mawr a gwely sengl. En-suite mawr gyda cawod.

Ystafell wely 3 - gwely maint king.

Ystafell wely 4 - gyda dau wely sengl. 

Ystafell ymolchi yn cynnwys baddon gyda cawod oddi mewn, toiled a basn. 

Gardd

Gardd gaeedig gyda twb poeth preifat, bwrdd a chadeiriau i'r holl westeion. Lawnt artiffisial ar gyfer ei defnyddio drwy'r flwyddyn. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn Croeso yn cynnwys cacennau cri, Prosseco, te a choffi, siwgwr a llaeth     
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig    
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig - dewch â thywelion eich hun ar gyfer y twb poeth a'r traeth    
  • 1 sychwr gwallt
  • Llyfrau a gemau ar gael    
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r staer i'w cael ar gais. Dewch â dillad eich hun i'r cot 
  • Croesewir un ci (mae'n bosib y caniateir un arall drwy gais)   
  • Dim ysmygu y tu mewn
  • Lle parcio i 3 car  
  • Fe ddarperir y canlynol:
    • Cegin: 2 rolyn papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi cychwynnol i'r peiriant, clytiau a thywelion sychu llestri  
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol   

Lleoliad