Hafod Aber

Aberystwyth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Bwthyn hardd a chyfoes gyda twb poeth preifat a stôf goed groesawgar, ger tref glan môr Aberystwyth ar arfordir Bae Ceredigion.

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £509 yr wythnos
  • £73 y noson
  • 4 Star

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 ystafell ymolchi
  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 15:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn hardd a chyfoes gyda twb poeth preifat a stôf goed groesawgar, ger tref glan môr Aberystwyth ar arfordir Bae Ceredigion. Wedi ei leoli i fyny lôn dawel, mae'r bwthyn yn cynnig mynediad uniongyrchol i lwybr beiciau Ystwyth. O fewn cyrraedd i nifer o atyniadau, siopau, bwytai a chaffis yn y dref.

Mae Aberystwyth yn gartref i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru, dau draeth, promenâd, castell, rheilffordd y graig, a trên stêm i Bont ar Fynach. Heb anghofio Prifysgol Aberystwyth, sinema draddodiadol a Chanolfan Gelfyddydau fwyaf Cymru. 

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw fawr siap-L sy'n cynnwys cegin, ardal fwyta a lolfa. Gwres o dan y llawr a stôf goed.

Cegin yn cynnwys popty trydan dwbwl, hob, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi llestri a golchi dillad.

Bwrdd bwyta mawr yn edrych allan ar yr ardd ffrynt.

Lolfa groesawgar gyda seddi cyfforddus o flaen y stôf goed a theledu Smart 40".

Snyg - lolfa fach arwahan gyda teledu Smart a gwely soffa - gellir ei defnyddio ar gyfer ystafell wely ychwanegol i un.

Toiled a basn.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gwely maint king. Digon o le i got os oes angen. 

Ystafell wely 2 - dau wely sengl - gellir eu gwneud yn wely maint king ar gais. Noder pan yn archebu os oes angen gwely king. 

Ystafell ymolchi gyda baddon, cawod arwahan, rheilen sychu tywelion, toiled a basn.   

Gardd

Lawnt artiffisial yn y ffrynt - mynediad drwy ddrysau patio o'r ystafell fyw. Gyda bwrdd, cadeiriau a sied ar gyfer storio beiciau ayb   

Gardd gaeedig yn y cefn gyda twb poeth i 4.

Mynediad uniongyrchol i ardal chwarae y pentref ar hyd llwybr o'r bwthyn.   

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te a coffi, siwgwr a llaeth, cacennau a Prosecco   
  • Trydan a gwres canolog yn gynwysedig   
  • Basgedaid gyntaf o goed yn gynwysedig. Gellir prynu mwy o goed yn Aberystwyth yn B&M neu Charlie's Stores   
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig. Dewch â thywelion eich hun i'r traeth a'r twb poeth    
  • 1 sychwr gwallt ar gael   
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r staer i'w cael ar gais. Dewch â dillad eich hun i'r cot    
  • Wifi ar gael
  • Croesewir un ci (mae'n bosib y caniateir un arall drwy gais)    
  • Dim ysmygu y tu mewn   
  • Lle parcio i 2 gar    
  • Fe ddarperir y canlynol:
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau   
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol     

Lleoliad