Bwthyn i 4 ynghanol atyniadau Gorllewin Cymru, yn agos i Aberystwyth, llwybrau cerdded, traethau, canolfan beicio mynydd, tren stem, rhaeadrau a llawer mwy.
- £537 yr wythnos
- £77 y noson
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Disgrifiad
Saif Blaenlli uwchlaw cwm yr afon Ystwyth ynghanol cefn gwlad hyfryd Ceredigion. Mae wedi ei leoli’n gampus er mwyn gwneud y mwyaf o bopeth sydd gan y rhan hon o Orllewin Cymru i’w gynnig. Bedair milltir o’r bwthyn mae tref hudol Aberystwyth yn cynnig amrediad o gyfleusterau ac atyniadau ar lan y môr. Ymhlith yr atyniadau eraill ceir llwybrau cerdded arfordirol a gwledig, traethau Borth ac Ynys Las, canolfan beicio mynydd Nant yr Arian a phentref Pontarfynach gyda’i drên stêm a rhaeadrau, i enwi dim ond ychydig.
Llawr Gwaelod
Mae Blaenilar wedi ei ddodrefnu i safon uchel ac yn cynnwys yr holl gyfarpar y byddech yn ei ddisgwyl o fwthyn 5 seren. Mae’r gegin / lle bwyta yn cynnwys golchwr llestri, oergell a rhewgell, microdon a theledu.
Ystafell fyw gysurus gyda thân trydan, teledu arall, chwaraewr DVD a CD. Ceir gwely soffa yn yr ystafell hon hefyd.
Ystafell wely dwbl gyda chwpwrdd dillad, cypyrddau ger y gwely a bwrdd gwisgo.
Ystafell bync gyda gwely bync pren maint llawn, cwpwrdd dillad, silff a bwrdd ger y gwelyau a bwrdd gwisgo.
Ystafell ymolchi helaeth gyda bath, cawod ar wahân a rheilen cynhesu tywelion.
Gardd
Ardal patio amgaeedig gyda barbeciw, yn ogystal â mynediad at ardal chwarae a rennir gyda gwesteion eraill sy’n aros ar y safle, sy’n cynnwys siglenni a llithren i blant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar gyfer grwpiau neu deuluoedd mwy, ceir bwthyn gwyliau moethus arall ar y safle sydd hefyd yn cysgu 4 o bobl.
Dillad gwely, tywelion dwylo a bath yn gynwysedig.
Gwres a thrydan yn gynwysedig.
Bwrdd a haearn smwddio ar gael.
Darperir cot a chadair uchel ar gais.
Digonedd o le parcio oddi ar y ffordd.
Croesewir 1 anifail anwes, efallai 2 ar gais.
Ystafell golchi dillad ar gyfer yr holl westeion sy’n aros ar y safle gyda mynediad 24 awr.
Gallwch ddisgwyl awyrgylch gyfeillgar Gymreig a chroeso cynnes gan y perchnogion sydd hefyd yn byw ar y safle
Lleoliad
Mae bwthyn gwyliau Blaenlli, Aberystwyth, yn fan cychwyn gwych ar gyfer mwynhau Canolbarth a Gorllewin Cymru, trip i lan y môr ac ymweld â’r brifysgol a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae pysgota bras a physgota môr i’w cael yn lleol ac mae syrffio yn boblogaidd ar hyd yr arfordir. Mwynhewch rownd o golff yn Llanrhystud, Aberystwyth neu Borth, a gallwch fynd i ferlota yng Nghanolfan Farchogaeth Rheidiol neu ymweld â Fantasy Farm yn Llanrhystud (8.5 milltir). Mae’r ardal hon hefyd yn cynnig teithiau cerdded gwych gyda digonedd o fywyd gwyllt gan gynnwys adar arfordirol a barcudiaid coch.
Mae Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian yn un o brif ganolfannau Beicio Mynydd yng Nghymru, ac nid yw ond pymtheg milltir yn y car o’r bwthyn, lle gallwch hefyd wylio barcudiaid coch yn cael eu bwydo. Gallwch fynd ar daith danddaearol o Fwynfeydd Arian a Phlwm Llywernog (14.5 milltir) neu ymlacio ar daith llawn golygfeydd ar y trên stem enwog drwy Gwm Rheidiol o Aberystwyth i Bontarfynach.
Traethau
Traeth cysgodol o dywod a graen yn nhref glan môr boblogaidd Aberystwyth. Yn ystod cyfnod prysuraf yr haf mae asynnod, castell neidio a reidiau ‘cwpan de’ ar hyd y prom gan sicrhau fod digon o adloniant i’r plant, 4 milltir.
Traeth tywodlyd sy’n ymestyn am dair milltir o Borth i Ynys Las, 13 milltir.
Cerdded
Llwybr Ystwyth - llwybr cerdded/beicio 21 milltir o Aberystwyth i Dregaron. Ymunwch â’r llwybr 0.5 milltir o’ch llety.
Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn dilyn arfordir amrywiol Bae Ceredigion. 4 milltir o’ch llety gwyliau, Aberystwyth yw’r man hawsaf i ymuno.
‘Dilynwch y Mynach’: 6.5 milltir yn dilyn yr afon o’i tharddle i Bontarfynach, lle mae’n creu’r rhaeadrau enwog, 14.5 milltir o’r bwthyn
Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian - 3 taith gerdded brydferth, 15 milltir
Mae Ystâd yr Hafod (eiddo’r Comisiwn Coedwigaeth) yn cynnig 5 taith gerdded wedi eu nodi sy’n amrywio mewn hyd a her, ac sy’n galluogi ymwelwyr i archwilio tirlun enwog yr Hafod, 18.5 milltir
Beicio
Llwybr Ystwyth - Llwybr beicio 21 milltir o Aberystwyth i Dregaron, mae modd ymuno ag ef 0.5 milltir o’r bwthyn.
Llwybr Beicio Rheidol - Mae’r llwybr 17 milltir hwn yn eich arwain o Bontarfynach, drwy Gwm Rheidol ac i lawr i’r porthladd yn Aberystwyth, yn bennaf ar hyd lonydd cefn tawel a llwybrau beic pwrpasol, 14.5 milltir
Canolfan Feicio Mynydd Nant yr Arian - un o brif ganolfannau Beicio Mynydd Cymru. Gan gynnwys Llwybr Teiars Cyfandirol Syfyrdrin, un o’r llwybrau gwyllt llawn golygfeydd sydd gyda’r harddaf yn y DU, 15 milltir o’r bwthyn.
Pysgota
Pysgota môr yn Aberystwyth - llawn amrywiaeth rhywogaethol, gyda meysydd sydd mor doreithiog â dyfroedd Dyfnant a Chernyw, 4 milltir.
Cronfeydd Nant-y-moch a Dinas, ger Ponterwyd - y ddau yn llawn amrywiaeth o frithyll. Gellir prynu trwyddedau pysgota o Orsaf Danwydd Rheidol ym Mhonterwyd, 15 milltir
Golff
Clwb Golff Aberystwyth - cwrs golff 18 twll, 4 milltir
Marchogaeth
Mae gan Ganolfan Marchogaeth Rheidiol ddwy arena maint llawn gyda llifoleuadau ar y ddwy, (tu mewn a thu allan), cwrs neidio a thraws gwlad, a theithiau merlota gwych yng Nghwm Rheidiol, 9 milltir.