- £563 yr wythnos
- £80 y noson
- 6 Guests
- 4 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Nodweddion
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Disgrifiad
Bwthyn ar wahân gyda twb poeth preifat a golygfeydd o’r môr. Mae Gwarcwm Uchaf yn cynnig lleoliad gwledig ymlaciol, gyda golygfeydd anhygoel dros aber yr Afon Ddyfi ac i fyny i’r bryniau. Mae’r bwthyn clyd hwn, sy’n derbyn anifeiliaid anwes, hefyd â stôf goed braf yn y lolfa a rayburn yn y gegin. Mae yna fynyddoedd hardd o gwmpas ar gyfer cerddwyr sy’n mwynhau y rhyddid i grwydro. Wedi ei leoli rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, mae yna ddigon i wneud yn lleol, gyda Bae Ceredigion a’i draethau hardd ond taith fer i ffwrdd.
Llawr Gwaelod
Cegin/ystafell fwyta - cegin fodern gydag oergell, rhewgell, peiriant golchi llestri, ffwrn, meicrodon a ‘rayburn’. Bwrdd bwyta a chadeiriau derw yn edrych allan dros yr ardd a’r golygfeydd anhygoel
Lolfa gyda stôf goed groesawus, 2 soffa a chadair ledr, teledu gyda DVD, bwrdd coffi derw, set o fyrddau bach a chwpwrdd llestri
Ystafell ar wahân sydd yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad, sinc, toiled a storfa ar gyfer esgidiau budr ayb. Mae coed ar gael yma hefyd ar gyfer y stôf goed
Llawr cyntaf
Llofft 1 - gwely maint super king (gellir ei rannu i ddau wely sengl os dymunir). Cwpwrdd dillad derw, bwrdd gwisgo gyda chadair, 2 gwpwrdd wrth ymyl y gwely gyda lampau a golygfeydd godidog dros aber yr afon
Llofft 2 - gwely maint super king (gellir ei rannu i ddau wely sengl os dymunir). Cwpwrdd dillad derw, bwrdd gwisgo gyda chadair, 2 gwpwrdd wrth ymyl y gwely gyda’r un olygfa â llofft 1
Llofft 3 - Gwely dwbl bach (4 troedfedd) ar gyfer un person. Cwpwrdd dillad derw, bwrdd gwisgo gyda chadair, cwpwrdd wrth y gwely gyda lamp
Llofft 4 - Gwely dwbl bach (4 troedfedd) ar gyfer un person. Cwpwrdd dillad derw, bwrdd gwisgo gyda chadair, cwpwrdd wrth y gwely gyda lamp
Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod drydan uwchben, basn a thoiled
Gardd
Gardd gaeedig yng nghefn y bwthyn gyda twb poeth preifat a golygfeydd anhygoel tuag at y môr a’r bryniau. Bwrdd a chadeiriau tu allan, barbaciw a lein ddillad
Pêldroed, batiau a phêli tennis bychan ar gael
Gwybodaeth ychwanegol
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau, tywelion llaw a baddon yn gynwysedig
- 4 sychwr gwallt (un ym mhob llofft)
- Cot, cadair uchel a gât i’r grisiau ar gael os dymunir
- Tabledi i’r peiriant golchi llestri, hylif golchi llestri, sebon dwylo, tywelion sychu llestri, sbwng, sgwriwr a brwsh golchi llestri ar gael
- Dim ysmygu y tu mewn
- Croeso i un anifail anwes (llawr gwaelod yn unig)
- Digonedd o le parcio