Beudy'r March

Abersoch, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

Gellir archebu'r llety hwn o:

  • £987 yr wythnos
  • £141 y noson
  • 5 Star
  • Awaiting Grading

Nodweddion

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat
  • Pwynt gwefru modur trydan

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Disgrifiad

Bwthyn gwyliau 5 seren ym Mhen Llyn gyda thwb poeth preifat yn yr ardd. Bwthyn cerrig ydy Beudy'r March, sy'n sefyll ei hunan, 1 filltir o bentref Abersoch gyda'i draeth tywodlyd, llwybr arfordirol, chwaraeon dwr, tai bwyta, siopau a thafarndai. Mae gan y bwthyn clyd hwn ardd breifat ac mae hefyd yn cynnig lleoliad gwych i archwilio gweddill ardal hardd Penrhyn Llyn a thu hwnt. Ewch ar drip cwch i Ynys Enlli, marchogaeth, syrffio a go-cartio, neu fwynhau dyddiau fwy ymlaciol yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Portmeirion, Rheilffordd Ffestiniog, amryw o gestyll a llawer mwy.

Llawr Gwaelod

Mae Beudy'r March yn fwthyn gwyliau un llawr ac mae ganddo ystafell fyw helaeth a chlud, gyda stof llosgi coed trydan a drysau patio yn arwain i'r ardd. Mae'r gegin wedi ei dodrefnu'n llawn ac yn cynnwys oergell/rhewgell, popty/hob, peiriant golchi/sychu dillad, peiriant golchi llestri a micro-don.

Ceir dwy ystafell wely; un ystafell deulu gyda gwely dwbl a sengl ac un ystafell twin. Mae'r ystafell ymolchi sydd ar wahân yn cynnwys bath/cawod.

Gardd

Nodwedd arbennig o'r bwthyn gwyliau moethus hwn ydy'r ardd breifat a thwb poeth. Ceir barbeciw a seti ar y patio, yn ogystal â digonedd o le i barcio.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig.
  • Lleiniau gwely a thyweli'n cael eu darparu.
  • Cyfleusterau smwddio ar gael
  • Cot a chadair uchel ar gael ar gais. Dewch a'ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
  • Dim ysmygu
  • Croesewir 1 ci (£25).
  • Nodwch: Ni allwn gadarnahu bydd y twb poeth wedi dod i dymheredd pan gyrhaeddwch gyntaf ohewrydd mae yna glanhau hanfodol yn digwydd rhwng pob archeb.

Lleoliad

Mae Bwthyn Gwyliau Beudy'r March yn fwthyn ar wahân ar fferm deuluol sy'n cadw defaid a gwartheg. Filltir o bentref Abersoch 10 munud o gerdded at y traeth tywodlyd agosaf, dyma'r lleoliad perffaith ar gyfer eich gwyliau yng nghanol golygfeydd arbennig Penrhyn Llyn.

Er mai pentref gweddol fach yw Abersoch mae popeth sydd ei angen arnoch yno - gwasanaethau da, bwytai, caffis a siopau. Mae traeth hir a braf sydd wedi derbyn gwobr Baner Las, a bydd nifer o ddigwyddiadau hwylio cenedlaethol yn cael eu cynnal yno bob blwyddyn. Filltir oddi wrth y caban, mae pentref hardd Llangian, sydd ag eglwys yn dyddio o'r 6ed ganrif.

Mae Penrhyn Llyn, lle mae'r iaith Gymraeg a'r ffordd Gymreig o fyw yn ffynnu o hyd, yn adnabyddus am ei draethau hardd a chwaraeon dwr. Gyda bron i 100 milltir o arfordir trawiadol yn amgylchynu nifer o fryniau bach a mawr, ynghyd â mynyddoedd mawreddog Eryri ar y gorwel, mae'n le delfrydol i ddod am wyliau cerdded hefyd.

Ewch ar daith cwch i Ynys Enlli, cyn safle pererindod grefyddol, rhowch dro ar bysgota, marchogaeth neu golff a manteisiwch ar y cyfle i go-cartio, bowlio deg a mwy ym Mharc Glasfryn. Mae'n werth ymweld gyda Phlas Glyn-y-Weddw - plasdy bendigedig sydd ag orielau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd gwych o'r mor, ac mae Rheilffordd Ffestiniog, amryw o gestyll a phentref Eidalaidd Portmeirion oll gerllaw.

Traethau

Traeth Abersoch - traeth tywod gyda gwobr Baner Las. 1 filltir

Ewch i weld 10 traeth gorau Penrhyn Llyn

Chwaraeon Dwr

Traeth Abersoch - yn cynnig dwr gwastad ar gyfer tonfyrddio, hwylio, defnyddio cychod pwer a hwylfyrddio. 1 filltir

Porth Neigwl - lleoliad hynod boblogaidd gan syrffwyr a chorff-fyrddwyr. 2.5 milltir

Pwllheli - yn cynnig un o'r marinas gorau ar arfordir gorllewin Prydain. 5.5 milltir

Cerdded

Llwybr Arfordir Llyn - 84 milltir o amgylch Penrhyn Llyn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch â'r llwybr o fewn hanner milltir i'r bwthyn

Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd sy'n cynnwys copa uchaf Penrhyn Llyn. 4.5 milltir o hyd. 15 milltir o'r bwthyn.

Pysgota

Darllenwch ragor am y cyfleoedd i bysgota ar Benrhyn Llyn - dewisiadau addas ar gyfer pob oed.

Golff

Clwb Golff Abersoch - cwrs golff 18 twll ger y traeth. 1.5 milltir.

Canolfan Golff Llyn - Pen-y-Berth. Maes ymarfer i 15, grin a byncer ymarfer a chwrs 9 twll gyda golygfeydd o'r mor. I ddechreuwyr a chwaraewyr profiadol - gellir llogi clybiau. 3 milltir.

Clwb Golff Pwllheli - cwrs golf 18 golff, addas ar gyfer golffwyr o bob oed a gallu. 6 milltir.

Clwb Golff Nefyn a'r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o'r arfordir. 11 milltir.

Marchogaeth Ceffylau

Stablau Marchogaeth Llanbedrog - Gwersi marchogaeth ac ati. Teithiau traeth a mynydd. 1.5 milltir

Canolfan Farchogaeth Cilan - Abersoch. Teithiau traeth a mwy. Delfrydol i blant a dechreuwyr. 4 milltir.

Canolfan Farchogaeth Pen Llyn - Pwllheli. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 7 milltir.