- £1,316 per week
- £188 per night
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 4 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Ty hyfryd yn sefyll ar ben ei hun mewn lleoliad tawel, o fewn pellter cerdded i'r traeth yn Nhresaith, ar arfordir trawiadol Gorllewin Cymru. Gellir gweld cip o'r môr drwy'r coed. Mae'r ty helaeth hwn gyda digon o le i 8 o westeion, yn ogystal â ci neu ddau. Mae'n leoliad perffaith ar gyfer aduniadau teuluol, gwyliau antur neu yn syml, i orffwys ac ymlacio. Mae traeth hyfryd 'Baner Las' yn Nhresaith, gyda chreigiau, rhaeadr enwog a thafarn, The Ship Inn, sy'n cynnig golygfeydd anhygoel ar draws Bae Ceredigion. Mae cyfleoedd chwaraeon dwr, cerdded, beicio, pysgota môr a thripiau cwch i weld dolffiniaid i gyd o fewn cyrraedd.
Mae gwres canolog, Wifi a gardd gaeedig yn y llety, yn ogystal â barbaciw, pydew tân, a sied i storio offer.
Llawr Gwaelod
Lolfa gyda lloriau pren, digon o seddi cyfforddus, teledu freeview, chwaraewr DVD, yn ogystal ac Amazon Fire Stick i gyfrif Netflix; drysau yn arwain allan i'r patio gyda cip olwg o'r môr drwy'r coed.
Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys popty trydan a hob, oergell, rhewgell, peiriant golchi llestri a meicrodon; bwrdd a chadeiriau; ystafell iwtiliti arwahan gyda peiriannau golchi a sychu dillad.
Ystafell gotiau gyda thoiled a basn; swyddfa fach gyda desg; cyntedd gyda lle i hongian cotiau, llyfrau, gemau ac ail oergell.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gyda gwely mawr king ac uned ymolchi. Ensuite gyda cawod dros y bath, toiled a basn.
Ystafell wely 2 - gyda gwely king ac ensuite yn cynnwys cawod, toiled a basn.
Ystafell wely 3 - gyda gwely dwbwl.
Ystafell wely 4 - gyda dau wely sengl.
Ystafell ymolchi gyda cawod uwchben y bath, toiled a basn.
Tu Allan
Patio bach tu allan y lolfa; lawnt yn y ffrynt. Dec yn y cefn gyda dodrefn gardd, pydew tân, barbaciw. Sied i storio offer traeth ayb. Golygfeydd o'r môr drwy'r coed.
Parcio ar gyfer 4-5 car.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Caniateir 2 gi; dim anifail arall
- Ni chaniateir i gwn fynd fyny grisiau, na chael eu gadael eu hunain yn y ty; cofiwch lanhau fyny ar ôl eich cwn
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig (yn cynnwys rhai i'r traeth ac i'r cwn)
- Barbaciw a phydew tân
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Trydan a gwres yn gynwysedig
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth, bara cartref, menyn, jam, cacennau cri, potel o wîn, blodau ffres
- Darperir y canlynol: Cegin - pupur a halen, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant, clytiau, olew, finegar ayb. Ystafell ymolchi - sebon a 2 rolyn papur i bob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Wifi
- Llyfrau darllen gan gynnwys llyfrau coginio
- Offer glan môr yn cynnwys cadeiriau, blancedi ayb
- Dylai plant fod dan oruchwyliaeth bob amser pan tu allan y llety
- Dim ysmygu
- DIM partion stag na plu