- £995 per week
- £142 per night
- 10 Guests
- 4 Bedrooms
- 5 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Ystafell chwaraeon
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 5 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae'r llety gwyliau arbennig hwn yn Nhresaith o fewn pellter cerdded i draeth gwych, tafarn leol groesawgar a siop gyfleus. Ty steilus newydd ei adeiladu yn cysgu 10, sydd yn ei wneud yn lleoliad gwyliau delfrydol yng Ngorllewin Cymru ar gyfer trefnu amser gyda theulu neu ffrindiau. Yn ogystal â thraeth Tresaith mae yna nifer o draethau gwych gerllaw, a llawer o atyniadau a gweithgareddau i'w mwynhau gan deuluoedd, cyplau neu grwpiau o ffrindiau.
Llawr Gwaelod
Ystafell Chwaraeon gyda bwrdd pwl a dewis o gemau a llyfrau.
Ystafell wely 1 - gwely maint king gydag ystafell ymolchi en-suite.
Ystafell gawod steilus gyda thoiled.
Ystafell iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad.
Garej gyda lle i storio beiciau.
Llawr Cyntaf
Lolfa fawr gyda lloriau pren a balconi, soffa gyfforddus siap L, teledu, XBox, DVD a stôf losgi coed. Bwrdd a chadeiriau ar y balconi a golygfeydd gwych.
Cegin ac ystafell fwyta agored. Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys popty dwbwl, oergell/rhewgell maint llawn, hob trydan induction, peiriant golchi llestri. Ystafell fwyta gyda drysau deu-blyg hyd yr ystafell yn agor allan i'r patio cefn, bwrdd bwyta gyda chadeiriau i 10.
Ystafell wely 2 - 2 wely sengl a gwely bync maint llawn.
Ystafell chwarae gyda gwely soffa a gwely sengl sbar (noder nad oes dillad gwely ar gael ar gyfer y gwelyau hyn).
Ystafell ymolchi foethus gyda baddon, toiled a basn.
Ail Lawr
Ystafell wely 3 - gwely maint king gyda chypyrddau dillad, ystafell ymolchi en-suite, a balconi Juliet gyda golygfeydd o'r môr.
Ystafell wely 4 - gwely maint king gyda chypyrddau dillad, ystafell ymolchi en-suite, a balconi Juliet gyda golygfeydd o'r coetir yn y cefn.
Tu Allan
Patio ar y llawr cyntaf gyda mainc a lle ar gyfer barbaciw. Man parcio a lawnt ar y llawr gwaelod.
Gwybodaeth Ychwanegol
Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr a llaeth
Dillad gwelyau a thywelion ar gael
Trydan a gwres canolog yn gynwysedig
Cadair uchel, cot trafeilio a gat grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
Wi-Fi ar gael
Lle parcio gerllaw'r llety
Basged gychwynnol o goed ar gyfer y stôf, gyda rhagor o goed i'w prynu gerllaw
Barbaciw ar gael
Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd. Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur ym mhob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
Dim ysmygu y tu mewn a dim anifeiliaid anwes