- £457 per week
- £65 per night
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- 4 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
Cegin
- Peiriant golchi llestri
- Popty Range/Aga
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Helaeth ond clyd a rhamantus, mae'r stiwdio agored hon gyda stôf goed, baddon yn sefyll ar ben ei hun, a gwely pedwar postyn maint king. Mae gramoffôn, basged bicnic lawn, gwres dan y llawr, a ffenestri yn y to i fwynhau gwylio'r sêr yn rhan o'r pecyn yn y llety trawiadol hwn.
Wedi ei amgylchynu gan gefn gwlad gyda golygfeydd pellgyrhaeddol o odre Mynyddoedd y Cambrian, dyma'r lle i gyplau ymlacio mewn llonyddwch llwyr. Mae Y Granar hefyd yn le delfrydol i gwn - yn cynnig pecyn croeso arbennig ar eu cyfer a nifer o ddanteithion eraill ar gyfer hyd at 4 ci. O fewn milltir i dref farchnad Tregaron gyda'i holl atyniadau, yn cynnwys tafarndai, siopau a bwytai. Mae Bae Ceredigion gyda'i draethau euraidd hefyd o fewn 16 milltir.
Llawr Cyntaf (mynediad gwastad o'r man parcio gyda'r tu mewn i gyd ar un lefel)
Cegin - gyda sinc Belfast, peiriant golchi llestri, Rangemaster fach nwy, meicrodon, oergell/rhewgell, offer coginio.
Ystafell fyw - stôf goed, teledu gyda Freeview a chwaraewr DVD, desg, bwrdd bwyta a dwy gadair, golygfeydd drwy'r drws stabl.
Ystafell wely - gyda gwely pedwar postyn maint king, cypyrddau bach wrth y gwely a goleuadau. Baddon yn sefyll ar ben ei hun yn y cornel, gramoffôn a dewis o recordiau.
Gwely pedwar postyn i'r cwn, gyda cyrten, yn addas ar gyfer cwn bach a canolig. Adnoddau eraill i'r cwn yn cynnwys bowlenni, tagiau a tennyn sbâr.
Ystafell ymolchi - uned gawod, basn, toiled a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Balconi - teras gyda dwy gadair a bwrdd i fwynhau'r golygfeydd pellgyrhaeddol o gefn gwlad a mynyddoedd. Mynediad uniongyrchol o'r drws stabl a mynediad gwastad o'r man parcio. Lleoliad delfrydol ar gyfer gwylio barcutiaid coch yn hedfan uwchben.
O'r balconi mae 17 o stepiau yn arwain lawr i ardd gaeedig gyda lle eistedd i ddau, bwrdd a barbaciw. Siarcol ac offer barbaciw ar gael.
Mynediad i 2+ acer o goedwig, afon, a chaeau gwair, yn ogystal â chae i'w ddefnyddio gan y cwn. Mae'n bosib y bydd defaid yn y caeau ar rai adegau felly bydd yn rhaid i gwn fod ar dennyn, ond ni fydd defaid yn y goedwig nac ar lan yr afon.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys wyau ffres, bacwn, bara, marmalêd a jam. Dewis o de, coffi a siocled poeth gyda llaeth a siwgwr
- Bydd cwn yn derbyn pecyn croeso eu hunain
- Dillad gwely a thywelion yn gynwysedig. Hefyd tywelion a blanced i'r cwn
- Sychwr gwallt ar gael
- Gwres Biomass o dan y llawr, gwres a thrydan yn gynwysedig. Coed ar gyfer y stôf goed
- Wi-Fi fibre optic
- Croesewir 4 ci yn rhad ac am ddim (gellir gwneud cais am fwy)
- Gwasanaeth londri ar gael os dymunir
- Parcio preifat i 2 gar
- Dim ysmygu y tu mewn na'r tu allan
- Storfa ar gyfer beiciau
- Taflenni gwybodaeth ar gyfer traethau, tafarndai sy'n croesawu cwn, a diwrnodau allan
- Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri Ecover a thabledi Ecover i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif Dr Bronner a sebon Tan yr Allt. Papur toiled a matiau baddon
- Ar gyfer diwrnod anturus - basged picnic gyda'r holl offer arwahan i fwyd a diod