- £496 per week
- £71 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Yn nythu rhwng Marina hardd a thraeth tywodlyd hyfryd, mae’r bwthyn gwyliau 5 seren hwn yn cynnig encilfa foethus ger arfordir Gorllewin Cymru. Yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd neu grwpiau o ffrindiau bydd hyn yn sicr o daro tant gyda cherddwyr, beicwyr, golffwyr a physgotwyr ac mae hefyd yn llecyn perffaith i ymlacio ger y môr. Mae Llwybr Arfordirol Cymru yn pasio 20 metr o ddrws y bwthyn. O fewn ychydig filltiroedd mae Parc Gwledig Pembre, cwrs golff Jack Nichlaus, cae rygbi enwog Sgarlets Llanelli a chae ras Ffos Las.
Gellir beicio o’r Marina at Barc Gwledig Pembre a’i draeth baner las 7 milltir o hyd, neu’r ffordd arall i gyfeiriad y Ganolfan Corstiroedd Cenedlaethol. Mae’n bosib llogi beiciau yn ôl yr awr, hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan (Merlin Cycle Hire).
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw gyfforddus gyda drysau gwydr Ffrengig, llawr pren a theledu gyda sianeli am ddim a DVD Blueray. Ystafell fwyta / cegin gyda llawr pren a golygfeydd ar draws y dwr. Cegin llawn cyfleusterau yn cynnwys peiriant golchi llestri bychan. Toiled ar wahân.
Llawr Cyntaf
1 ystafell wely ddwbl
1 ystafell wely gyda gwely super king (gellir trefnu’r ystafell hon fel dau wely sengl hefyd os oes angen) gydag ystafell ymolchi en suite yn cynnwys cawod a tholied.
Ystafell ymolchi ar wahân gyda thoiled a chawod uwchben y bath.
Ail Lawr
1 ystafell wely twin fawr.
Mae’r ystafell wely fechan ar y llawr uchaf wedi ei chloi ac yn cael ei defnyddio fel storfa gan y perchennog.
Gardd
Ardal amgaeedig i eistedd ac ymlacio gyda bwrdd a meinciau.
Gardd raeanog yn y blaen a’r cefn felly mae angen bod yn wyliadwrus gyda’r plant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Pecyn croeso wrth i chi gyrraedd gyda the, coffi, siwgr a llefrith, potel win a blodau ffres.
Darperir dillad gwely a thywelion
Gwres a thrydan yn gynwysedig
Parcio preifat
Darperir giât diogelwch ar gyfer y grisiau ar gais
Gellir llogi beiciau gerllaw
Ni chaniateir anifeiliaid anwes
Casgliad o gemau a llyfrau ar gael
Wi-fi ar gael
Mae gwyliau byr ar gael, ffoniwch am fwy o fanylion os gwelwch yn dda.
Mae’r eitemau canlynol yn cael eu darparu ar gyfer eich arhosiad (digon i bara am ddiwrnod neu ddau) ;
Cegin : hylif golchi llestr a thabledi i’r peiriant golchi llestri.
Ystafell Ymolchi : golchwr dwylo, papur toiled, gel cawod, bubble bath, shampw a conditioner.