Deri'r Cwm

New Quay, West Wales

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

You can book this property from:

  • £527 per week
  • £75 per night
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae bwthyn hunan-ddarpar Deri'r Cwm yn cynnig y ddihangfa berffaith a llecyn delfrydol ar gyfer gwyliau teulu yng Ngorllewin Cymru. Wedi ei leoli ar fferm deuluol, mae ganddo lyn pysgota ei hun, ardal chwarae awyr agored ac ystafell gemau yn cynnwys bwrdd snwcer, bwrdd dartiau a thennis bwrdd. Mae’r bwthyn yn groesawgar a chlud a gellir mwynhau barbiciw ar y patio uwchlaw golygfa hyfryd o ddyffryn coediog.

Llawr Gwaelod

Ystafell agored yn cynnwys cegin / lle bwyta a lolfa. Mae’r gegin yn gyflawn gyda golchwr llestri, microdon, popty/hob/gril trydan, oergell a rhewgell fechan, tegell, tostiwr a’r holl offer a llestri y byddwch eu hangen tra’n aros ym mwthyn Y Dderwen.

Gwresogir y bwthyn gan wres canolog ac mae ganddo stôf llosgi coed atodol i greu awyrgylch glud a chroesawgar. Mae’r lolfa hefyd yn cynnwys teledu/fideo, radio a chwaraewr CD.

Ceir un ystafell wely ddwbl ac un twin yn y bwthyn, yn ogystal â gwely soffa dwbl yn y lolfa. Mae’r bathrwm yn cynnwys cawod, toiled a basn ymolchi.

Mae’r holl ystafelloedd ar y llawr gwaelod sydd felly’n ddelfrydol ar gyfer gwestai llai abl.

Darperir iwtiliti i’w rhannu sy’n cynnwys peiriant golchi/sychu dillad, rhewgell fawr a sinc. Ceir ardal i sychu esgidiau a chotiau gwlyb yn ogystal â lle diogel i storio beiciau ayb. Hon hefyd yw’r ystafell gemau sy’n cynnwys bwrdd dartiau, bwrdd snwcer a thennis bwrdd. Mae hefyd yn addas fel ystafell gwrdd/gymunedol ar gyfer cerddwyr neu feicwyr i drafod cynlluniau eu gwyliau.

Gardd

Mae gan fwthyn Deri'r Cwm ardal patio yn cynnwys barbiciw a seddi. Yn yr ardd estynedig (h.y. yn y cae) ceir ardal chwarae fawr amgaeedig (siglenni, llithren, trampolîn ayb) a llyn ar wahân lle gellir pysgota am frithyll. Twb poeth preifat.

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir dillad gwely a thywelion.

Gellir darparu cyfleusterau babi ar eich cais.

Parcio am ddim.

Casgliad arbennig o ddanteithion Cymreig cartref yn aros amdanoch yn y bwthyn pan fyddwch yn cyrraedd. Mae hwn yn rhan o’r croeso cynnes Cymraeg y byddwch yn ei dderbyn gan y perchnogion – teulu ifanc Cymraeg eu hiaith.

Derbynnir gwyliau byr yn ystod y tymor tawel. Gweler mwy o fanylion o dan ‘Prisiau’.

Location

Mae bwthyn Deri’r Cwm yn cynnig gwyliau teuluol yng Nghymru. Wedi ei leoli ar fferm weithiol ger pentref Mydroilyn (siop a thafarn), yng nghefn gwlad hyfryd Gorllewin Cymru. Mae Mydroilyn wedi ei leoli hanner ffordd rhwng Cei Newydd (7 milltir, ar yr arfordir) a Llanbedr (12 milltir i’r dwyrain) ac yn cynnig gweithgareddau diddiwedd i deuluoedd. Ar y safle mae gennych chi fwthyn gwyliau moethus gyda chyfleusterau pysgota (fel rhan o’ch gwyliau) a thwb poeth i’w rannu, ardal tu allan i’r plant chwarae, ystafell gemau ac mae’r perchnogion yn cynnig taith o amgylch y fferm gyda’r ffermwr i weld yr anifeiliaid.

O fewn ychydig filltiroedd mae gennych chi dref arfordirol bictiwresg Cei Newydd gyda’i cherdded, ei physgota, ei thraethau tywodlyd, ei bwytai sydd yn tynnu dwr i’ch dannedd a’i thripiau cwch gyda Bae Ceredigion i weld y dolffiniaid a.y.b. Mae gwersi caiacio a hwyl fyrddio hefyd ar gael yng Nghei Newydd. Os ydych chi’n chwilio am wyliau llawn gweithgareddau, mae’r bwthyn 4 milltir i ffwrdd o Ganolfan Weithgareddau Llain, Go-cartio Bae Ceredigion a Chanolfan Saethu Paent.

Mae Bae Ceredigion a’i Arfordir Treftadaeth, sydd yn frith o gyrchfannau gwyliau, yn gartref i’r dolffin trwynbwl, llamhidyddion a morloi. Mae tref borthladd Sioraidd Aberaeron saith milltir i’r Gogledd. Mae’r dref hon yn berl amaethyddol ac yn fwrlwm o ddiddordeb, gyda’i Acwariwm Môr, bwyty enwog yr Harbourmaster ac ystâd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Llanerchaeron. Teithiwch i mewn i’r wlad o Aberaeron i Ddyffryn Teifi. Yn ffefryn gydag ymwelwyr, mae Rhaeadr Cenarth yn llecyn o harddwch enwog. O Aberystwyth, teithiwr ar drên bach Rheidiol er mwyn profi rhaeadr Pontarfynach neu ymweld ag adfeilion hen Abaty Ystrad Fflur, ger Pontrhydfendigaid ym Mynyddoedd y Cambrian. Yn ganolog ar gyfer teithio Cymru ac yn berffaith ar gyfer gorchwylion megis pysgota gyda gwialen, hwylio, gwylio adar, beicio a cherdded.

Traethau

Mae traeth Cei Newydd yn draeth helaeth, tywodlyd ac wedi ei gysgodi’n dda gan yr awel. Mae’r traeth Baner Las (traeth yr harbwr) yn boblogaidd yn ystod misoedd yr haf, 7.5 milltir.

Mae Cei Bach yn draeth hyfryd, tipyn tawelach na thraeth Cei Newydd, 6.1 milltir.

Gellwch ddewis o hwylio gyda dingi, mordaith ar fad hwylio, cwch bwer, hwylfyrddio a chaiacio gyda sesiynau byr a hir ar gael sydd yn addas ar gyfer pob lefel a gallu. Chwaraeon Dwr Ceredigion, 7.5 milltir.

Mae Tresaith mewn bae bychan cysgodol ac wedi ei enw ar ôl yr Afon Saith sydd yn trochi fel rhaeadr dros y clogwyni i’r traeth. Mae’r gan y traeth lithrfa ac mae’n gyrchfan hwylio poblogaid. Traeth gwych ar gyfer chwaraeon dwr, llydan a thywodlyd. Parcio cyfyngedig, 12 milltir.

Cerdded

Mae Llwybr Cerdded Ceredigion yn cysylltu gyda holl gyfoeth amgylcheddol, naturiol a threftadaeth un o ardaloedd arfordirol harddaf Cymru, 7.5 milltir.

Pysgota

Llyn brithyll ar y safle, perffaith ar gyfaint rhywfaint o bysgota pry, denu ac abwyd, 0 milltir.

Mae yna bysgota môr gwych o amgylch ardal Cei Newydd, ac mae wal yr harbwr yn parhau i fod yn fan poblogaidd gan blant. Mae’r ardal yn enwog fel llecyn da am ddraenogiaid y môr. Mae cychod ar gael o borthladd Cei

Newydd, derbynnir archebion ar y cei, 7.5 milltir.

Pysgota bras - llawer o lynnoedd ac afonydd gan gynnwys Pysgodfa Fras Llanarth, 5.4 milltir.

Pysgota Gêm - Afon Teifi yw un o afonydd eog enwocaf y Deyrnas Unedig.

Golff

Clwb golff Cwmrhydneuadd - Cwrs golff cyhoeddus naw twll Par 31. Mae’r cwrs golff yn agored gydol y flwyddyn ac anaml iawn y bydd ar gau oherwydd tywydd garw a gan amlaf nid oes angen archebu ymlaen llaw, 11.6 milltir

Clwb Golff Penros, 150 acer o gefn gwlad hyfryd gwyrdd yn Nyffryn Wyre yng Ngorllewin Cymru, 15.8 milltir.

Beicio

Llawer o lwybrau a lonydd lleol distaw yn yr ardal sy’n ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer beicio. Mae Lôn Teifi yn rhedeg rhwng Aberystwyth ac Abergwaun, rhan o Lwybr Cenedlaethol 82 a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae’r llwybr beicio 98 milltir (158 km) yn dilyn lonydd gwledig ar hyd dyffryn yr Afon Teifi drwy bentrefi gwledig Tregaron, Llanbedr, Castellnewydd Emlyn a Chaerfyrddin cyn cyrraedd Abergwaun ar arfordir Gorllewin Cymru, 14 milltir.

Merlota

Mae Marchogaeth ar gael mewn sawl lleoliad, gan gynnwys Cilfach yr Halen, Llwyncelyn, 19.3 milltir.