- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
- Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- £697 per week
- £100 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio ar y stryd
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Mae’r bwthyn gwyliau hwn yn Llansteffan yn gorlifo o gymeriad a chyfaredd. Fe arhosodd Dylan Thomas y bardd a’r ysgrifennwr enwog ei hun yma. Gyda’r castell, y traethau, y llwybrau cerdded gwych a thafarn leol nid yn unig mae hwn yn leoliad gwyliau gwych ond mae hefyd yn safle gwych ar gyfer darganfod yr hyn sydd gan yr holl ardal i’w gynnig.
Llawr Gwaelod
Lolfa – Lle tân hardd ac agored (darperir logiau) , gyda chadair ‘cwtch’ a soffa fawr gyfforddus. Teledu gyda DVD, fideo a freeview.
Ystafell ddarllen / gerddoriaeth - Piano cyngerdd anhygoel gyda chasgliad unigryw o lyfrau gyda chadeiriau darllen a bwrth bwyta i bedwar.
Ystafell fwyta – bwrdd a chadeiriau i bedwar a soffa bellach, sydd yn berffaith ar gyfer ymlacio o flaen y stôf llosgi coed. Gellir trosi’r soffa yn wely soffa dwbl sydd yn cysgu dau ymwelwr ychwanegol.
Cegin – Hob trydan a phopty, oergell SMEG fawr gyda rhewgell hanner maint, microdon a pheiriant golchi llestri.
Ystafell iwtiliti / storfa – Mae’r ystafell tu allan yn cynnwys peiriant golchi dillad a sinc a gellir ei defnyddio yn ogystal i storio esgidiau beicio/cerdded a.y.b.
Llawr Cyntaf
Y brif ystafell wely – Ystafell fawr hyfryd gyda chanhwyllyr a gwely maint king, cwpwrdd dillad a chist ddroriau.
Y prif ystafell ymolchi – ystafell ymolchi fawr deuluol gyda bath sydd yn sefyll ar ei ben ei hun ac uned gawod fawr pwer uchel.
Ystafell wely dwbl – Golyfa dros yr ardd gyda gwely dwbl, cwpwrdd dillad, gorsaf ymbincio a droriau.
Ystafell twin – dau wely sengl mewn ystafell fawr gyda lle tân traddodiadol, cwpwrdd dillad a chist ddroriau.
Gardd
Ardal gefn wedi ei phalmantu gyda grisiau yn arwain i fyny ar ardd ffrwythau a llysiau fawr. Mae croeso i ymwelwyr helpu ei hunain i unrhyw beth sydd yn ei dymor. Mae gan fwthyn gwyliau Llansteffan ardal batio arall gyda bwrdd a chadeiriau ac o dop yr ardd gallwch weld golygfeydd hyfryd o’r môr yn estyn dros yr aber.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwres olew canolog a thrydan yn gynwysedig.
Darperir dillad gwely a thywelion.
Cadair uchel a chot ar gael (dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda).
Wifi yn gynwysedig.
Mae croeso i’r ymwelwyr ddefnyddio lle tân y lolfa a stôf llosgi coed yr ystafell fyw, fodd bynnag gofynnir yn glên iddynt beidio cynnau tân yn yr ystafelloedd eraill.
Gall y signal ffôn fod yn anghyson, fodd bynnag mae Orange yn gweithio, ac fe’ch hargymhellir chi i wirio gyda’ch darparwr os ydy signal yn angerheidiol.
Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes
Parcio tu allan i’r bwthyn
*Nodwch os gwelwch yn dda ein bod ni ar y funud yn disgwyl i gael ein graddio’n swyddogol.
Location
Mae tref farchnad Caerfyrddin a’r archfarchnad agosaf ddim ond saith milltir i ffwrdd ac er bod yr archfarchnadoedd yn darparu gwasanaeth cludo, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn trio cynnyrch lleol sydd ar gael yn y siop leol a’r siopau fferm cyfagos. Rhai o’r atyniadau yn yr ardal yw’r Gerddi Botaneg Cenedlaethol, Cwrs Rasio Ffos Las, Folly Farm, Oakwood a Pharc Dwr y Blue Lagoon ac felly mae digonedd o bethau i’w gweld waeth beth yw’r tywydd. Nid yw Dinbych-y-pysgod yn bell, dim ond rhiw hanner awr yn y car.
Os ddilynwch chi Lwybr Dylan Thomas yna gwnewch yn fawr o’r hanes o fewn y ty ac o amgylch y pentref, ac mae trip i Dalacharn ac i’r Boat House yn angenrheidiol.
Cerdded
Gellir mwynhau llwybr newydd Arfordir Cymru ychydig lathenni i ffwrdd, ac mae yna saw llwybr cerdded gwych yn y cyffiniau gan gynnwys yr un o amgylch Castell Llansteffan, 0.3 milltir.
Gyda digonedd o lonydd gwledig mae beicio yn ffordd wych o ddarganfod a dod i adnabod yr ardal, 0.1 milltir.
Traethau
Mae Traeth Llansteffan yn draeth mawr gyda thywod hyfryd meddal a golygfeydd braf dros aber yr afon Taf, pentref Ferryside, ond gall nofio fod yn beryglus gan mai traeth wrth aber ydy o, 0.3 milltir.
Dim ond taith fer ar droed yw Bae Scott ac mae’n llawer mwy diogel ar gyfer nofio. Gellwch gael mynediad i’r llwybr o faes parcio traeth Llansteffan, 0.7 milltir.
Traeth mawr tywodlyd yw Pendein, rhyw saith milltir o hir, y’i gwnaed yn enwog gan y 5 record am gyflymder dros dir a osodwyd arno, 18 milltir.
Pysgota
Pysgota eog ar afon Tywi, un o afonydd eog gorau’r Deyrnas Unedig. Trwyddedau ar gael, milltir.
Pysgota môr ar gael ar y traeth, 0.3 milltir.
Golff
Cwrs tir parc gwych yw Cwrt Dellys, 9 milltir.
Chwaraeon Dwr
Hwylio, hwylfyrddio, byrddio gyda barcud a thraethau megis Pendein, 18 milltir.
Am chwaraeon dwr o dan do, ceir parc dwr Blue Lagoon sydd yn ffefryn teuluol, 17 milltir.
Clwb Cychod y Tywi sydd wedi ei leoli yn Llansteffan, 1 milltir.
Merlota
Mae Canolfan Farchogaeth Marros yn addas ar gyfer pob lefel o farchogaeth ac yn cynnig llwybrau traeth a choedwig, 18 milltir.