- £466 per week
- £67 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi llestri
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Safle delfrydol ar lethrau'r Mynydd Du ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Lleoliad anhygoel gyda'i fywyd gwyllt, fflora a ffawna, a golygfeydd rhyfeddol, dyma baradwys i bawb sy'n caru byd natur. Perffaith ar gyfer cyplau, teuluoedd neu ffrindiau, mae llety Llwynrhosser wedi ei leoli ar fferm weithiol sydd yn cynnwys 20 acer o goetir hynafol, mae'n derbyn anifeiliaid anwes ac yn ddihangfa delfrydol i gefn gwlad. Mae gan yr ardal hon statws Awyr Dywyll gyda dim llygredd golau sydd yn caniatau golygfeydd syfrdanol o'r awyr yn y nos.
Mae'n bosib i chi ddod â'ch ceffylau eich hun ar y gwyliau gan fod stablau ar gael ar y fferm. Mae'r ardal yn nefoedd i farchogion gyda llwybr ceffylau yn mynd drwy'r fferm ac i fyny i'r mynydd.
Ar gyfer toriad rhamantaidd, gellir mwynhau prydau gyda'r nos mewn nifer o leoliadau hudol o gwmpas y fferm, yn cynnwys cuddfannau yn y coetir, neu ar y mynydd. Hyn i gyd drwy drefniant ymlaen llaw - holwch am fanylion pan yn archebu.
Y lleoliad perffaith ar gyfer gwylwyr adar ac ystlumod, cerddwyr, marchogion, gwylwyr sêr, y rhai sy'n caru byd natur, ac unrhyw un sydd angen cymryd yr amser i ymlacio.
Mae'r afon Sawdde Fechan yn rhedeg drwy'r fferm. Dyma afon sy'n rhedeg i'r Tywi. Gellir cael trwydded yn y pentref lleol, yn ystod y tymor pysgota.
Llawr Gwaelod
Cegin - gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys popty trydan NEFF, meicrodon, peiriant golchi llestri, oergell gyda rhewgell bach oddi mewn, gwres dan y llawr
Lolfa - soffas cyfforddus i eistedd 4, bwrdd bwyta a chadeiriau i 4
Ystafell Ymolchi - cawod y gellir cerdded i mewn iddi, toiled, basn a gwres dan y llawr
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gyda cypyrddau bach ger y gwely a chwpwrdd dillad
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 – dau wely sengl gyda cypyrddau bach ger y gwely a chwpwrdd dillad
Gardd
Gardd wedi ei chau i mewn gyda lawnt a dodrefn gardd. Coetir hynafol, afonydd a chaeau'n tyfu'n wyllt i'w mwynhau ar y fferm
Gwybodaeth Ychwanegol
Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth, potel o wîn a hanner dwsin o wyau fferm ffres
Yn addas ar gyfer yr anabl gydag ystafell wely ac ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod. Dim reiliau llaw nac offer arall ar y safle. Drysau yn addas ar gyfer cadair olwyn. Bydd angen ramp i gyrraedd y drws cefn
Ceffylau - £10 y ceffyl, y noson. Mwyafrif o 3 ceffyl
Dillad gwelyau, tywelion a sychwr gwallt ar gael
Haearn a bwrdd smwddio ar gael
Yr holl drydan yn gynwysedig
Wi-fi am ddim
Cadair uchel a chot trafeilio ar gael os dymunir. Dewch â'ch dillad eich hunan i'r cot
Croeso i anifeiliaid anwes (mwyafrif o 2 gi) @ £12 y ci
Os dymunir, gallwn baratoi pryd min nos poeth o'n bwydlen dymhorol. Gadewch i ni wybod pryd a be ac fe wnawn ni'r gweddill
Lleoliadau rhamantus ar gyfer eich prydau min nos - gallwn drefnu lleoliad hudol awyr agored i weini eich bwyd. Digon o opsiynau i chi ddewis ohonynt
Yr eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
Llety delfrydol ar gyfer ymwelwyr a cheffylau i Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd
Dim ysmygu tu mewn y llety