- £470 per week
- £67 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd o'r afon
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 3 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Wedi ei leoli ar lannau afon Ceri, mae'r bwthyn hwn yn sefyll ar ben ei hun ac yn derbyn anifeiliaid anwes (mwyafrif 2 gi - noder efallai bydd anifeiliaid fferm yn pori yn y caeau cyfagos), ychydig o filltiroedd o arfordir gwych Ceredigion sydd yn enwog am ei ddolffiniaid a thraethau euraidd. Mae'r bwthyn yn cynnwys hawliau pysgota ar yr afon Ceri (isafon yr afon Teifi sy'n enwog am ei heogiaid). Gyda gardd gaeedig a mynediad i gaeau, mae yna ddigon o lefydd i'w mwynhau a'u darganfod.
Llawr Gwaelod
Cegin, lle bwyta a lolfa ar gynllun agored. Teledu, chwaraewr DVD a system gerddoriaeth.
Ystafell wely 1 - gyda dau wely sengl ac en-suite. Mae drws gyda mynediad uniongyrchol i'r ystafell hon.
Ystafell iwtiliti gyda pheiriannau golchi a sychu dillad.
Ystafell hongian cotiau gyda toiled.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl.
Ystafell wely 3 - gwely sengl, gyda gwely tynnu allan os oes angen.
Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.
Tu Allan
Gardd gaeedig gyda lawnt a graean. Gât yn arwain o'r ardd i nifer o gaeau sy'n cynnwys yr afon Ceri, ond gall rhain gynnwys anifeiliad fferm yn pori ar rai adegau o'r flwyddyn. Mae glannau'r afon heb eu ffensio felly dylai plant gael eu goruchwylio ar bob adeg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwres a thrydan yn gynwysedig
Cot trafeilio a chadair uchel ar gael - dewch â dillad eich hun i'r cot
Gellir trefnu i Tesco neu Asda ddanfon nwyddau i'r bwthyn
Dim ysmygu
Anifeiliaid anwes - mwyafrif o 2 gi
Deunyddiau glanhau, clytiau a thywel sychu llestri ar gael
Parcio ar gyfer nifer o geir
Gwybodaeth Hygyrchedd
Mynediad uniongyrchol drwy ddrws i'r ystafell wely ar y llawr gwaelod
Y llawr gwaelod ar un lefel gyda cawod y gellir cerdded i mewn iddi