- Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £863 per week
- £123 per night
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
- Pwynt gwefru modur trydan
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Mae’r bwthyn 5 seren hwn, sy’n enillydd gwobr cynaladwyedd, wedi ei leoli mewn llecyn gwledig a thawel ger Bannau Brycheiniog. Ail-adeiladwyd ac ail-gynlluniwyd Hafan Myrddin i raddau helaeth gydag arweddion sy’n ffafriol yn nhermau ecoleg ac alergeddau. Ceir llyn yn yr ardd a golygfeydd hyfryd cefn gwlad o’i amgylch. Delfrydol i deuluoedd a chyplau sydd eisiau archwilio’r ardal arbennig hon o Gymru, neu ymlacio mewn heddwch a moethusrwydd.
Wedi cael gwobr Aur gan Green Tourism, mae gan y bwthyn baneli ro solar a phympiau gwres o’r ddaear sy’n darparu’r rhan fwyaf o ddwr poeth a gwres llawr y bwthyn hunan ddarpar hwn ger Bannau Brycheiniog. Mae wedi ei ynysu gyda gwlân defaid ac mae’n gynnes a chlyd.
Llawr Gwaelod
Cegin eang gyda llawr derw a’r holl gyfleusterau modern. Popty Rangemaster gyda 2 ffwrn a gril gyda 5 plât poeth, golchwr llestri ac oergell/rhewgell Miele, peiriant golchi a sychwr dillad, microdon a thostiwr, y cyfan gyda gradd ynni A neu A*. Wyneb gweithio o wenithfaen a’r holl gyfarpar cegin wedi eu darparu. Bwrdd bwyd derw yn eistedd 8.
Lolfa helaeth gyda stôf llosgi coed ynghanol yr ystafell. Teledu gyda chwaraewr DVD, dewis o DVDs a Hi-fi gyda doc I-pod. Llyfrau a mapiau o’r ardal a lampau golau dydd i ddarllen. Décor chwaethus gyda soffas steil corsen, cadeiriau a rygiau ar lawr derw. Bwrdd pêl droed maint llawn a chwpwrdd yn llawn gemau.
Ceir hefyd doiled gyda basn ymolchi ar y llawr gwaelod.
Llawr Cyntaf
Prif ystafell wely gyda gwely maint king, byrddau ger y gwely, cwpwrdd dillad a chist o ddroriau, gyda ffenestri yn edrych allan dros gefn y ty. Llawr derw, cloc-radio a chadair. Ystafell ymolchi wlyb en-suite gyda theiliau mosaig ar y waliau a’r llawr, cawod, basn ymolchi a thoiled.
Ystafell wely 2 - Gwely dwbl a byrddau ger y gwely. Cwpwrdd dillad yn y wal, cist o ddroriau, doc I-pod, cloc-radio a chadair. Ystafell ymolchi wlyb en-suite gyda theiliau mosaig ar y waliau a’r llawr, cawod, basn ymolchi a thoiled.
Ystafell wely 3 - Gwely dwbl a byrddau ger y gwely. Cwpwrdd dillad yn y wal, cist o ddroriau a chloc-radio.
Ystafell wely 4 - Gwelyau bync wedi eu hadeiladu yn arbennig gyda matresi sengl maint llawn. Sachau eistedd, desg, rheilen hongian dillad a radio.
Ystafell ymolchi - Bath gyda chawod drosto, basn ymolchi a thoiled.
Gardd
Mae’r gegin yn agor allan ar ardal batio llechfaen gyda dodrefn gardd i 8 a barbeciw Weber. Gwelyau blodau gyda phlanhigion brodorol yn blodeuo ar wahanol adegau o’r flwyddyn a lawnt yn arwain i lawr at y llyn sy’n llawn bywyd gwyllt yn cynnwys pysgod, llyffantod, madfallod, lilïau y dwr ayb. Siglen ddwbl a bwrdd gardd arall gyda chadeiriau ar waelod yr ardd, ger y llyn.
Llenwch y bocs bwydo adar i gael gweld pob math o adar, yn cynnwys teloriaid y cnau, llinosod gwyrddion a chnocellod y coed. Barcudiaid coch a bwncathod yn hedfan uwchben.
Sied gyda chlo i storio beiciau ayb.
Gwybodaeth Ychwanegol
Basged groeso wrth i chi gyrraedd yn cynnwys cynnyrch organic a lleol fel bara ffres, marmaled/jam, sudd ffrwythau, bara brith, wyau, caws a llefrith. (Nodwch efallai y bydd y cynnwys yn amrywio yn ôl pa adeg o’r flwyddyn yw hi neu yn ôl pa mor hir yw eich arhosiad.
Darperir tywelion a dillad gwely.
Trydan a gwres yn gynwysedig. Darperir coed tân ar gyfer y stôf llosgi coed hefyd.
Wrth gyrraedd byddwch yn cael eich cyfarch a’ch croesawu gyda phecyn o fwydydd lleol / organig
Lloriau pren lleol a gwres o dan y llawr drwy’r llety hyfryd hwn ym Mannau Brycheiniog.
Wifi a mynediad at ffôn ar gyfer gwneud galwadau o fewn y DU.
Cadair uchel ar gael. Dewch â’ch cot eich hun a dillad gwely ar ei gyfer os gwelwch yn dda.
Ni chaniateir ysmygu yn y ty na’r ardd ac ni chaniateir cwn/anifeiliaid anwes. Gofynnir i westai gymryd gofal o amgylch y llyn.
Mae’r canlynol yn cael eu darparu yn y bwthyn ar gyfer eich arhosiad:
Cegin: te masnach deg, coffi, siwgr, halen, pupur a rhywfaint o herbiau a sbeisys, hylif golchi llestri, glanhawr ‘cream’, tabledi ar gyfer y peiriant golchi llestri, glanhawr arwynebedd a.y.b. Mae’r gegin hefyd yn cynnwys papur tywel, llieiniau golchi llestri, cadachau llestri, ffoil, clingffilm, bin liners, cyfleusterau adnewyddu.
Ystafell Ymolchi: hufen dwylo, sebon hylif, hancesi a thoiled rôl.
Cynnyrch glanhau cyffredinol: sugnwr llwch.
*Yn 2007 derbyniodd y bwthyn gwyliau hwn Wobr Cynaladwyedd Sir Gaerfyrddin.
Location
Mae’r bwthyn hunan-ddarpar hwn ar ochr Orllewinol y Parc Cenedlaethol. Mae gan Gaerfyrddin dirwedd anhygoel a llawer o bethau i’w gwneud a’u gweld ac mae’n adnabyddus fel ‘Gardd Cymru’. Mae yna erddi a pharciau natur, cestyll, tai, coedwigoedd a bryniau i edrych arnyn nhw a’u darganfod, unai ar droed, ar feic neu yn y car.
Mae Llanymddyfri wedi ei leoli yn rhan uchaf Dyffryn Tywi, rhwng tair afon. Ystyr ei enw yw ‘yr eglwys ymhlith dyfroedd’. Mae ganddo etifeddiaeth hanesyddol sydd yn dyddio yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid, ac yn arfer bod yn dref borthmyn bwysig ac mae yno adfeilion o gastell Normanaidd , eglwysi a thai Georgaidd gwych. Gerllaw mae Cilycwm, Rhandirmawn a chronfa ddwr Llyn Brianne a llefydd hyfryd i gerdded a gyrru yn y car.
Myddfai (tua 3 milltir i ffwrdd) yw cartref swyddogol Cymreig y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru.
Daeth “Meddygon Myddfai” o’r cyfnod canoloesol yn enwog am eu meddyginiaethau llysieuol ac maent hefyd wedi eu cysylltu â’r chwedl leol am Ferch y Llyn o Lyn y Fan Fach. Mae’r ty ar ffin orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ardal o dirwedd neilltuol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol, a pharc Geo Fforest Fawr, yr ardal sydd wedi ei ymneilltuo yn 2005 gan UNESCO oherwydd ei dreftadaeth geolegol pwysig. Mae rheilffordd ‘Calon Cymru’, yn cynnig y cyfle i weld golygfeydd ysblennydd yn cynnwys Traphont y Cynghordy.
Mae yna hefyd lawer o gestyll, yn Llandeilo mae Castell Dinefwr - a’n ffefryn - Castell Carreg Cennen - un o’r caerau mwyaf dramatig ar dop craig galchfaen gyda golygfeydd anhygoel. Mae Gerddi Aberglasney a Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru yn ymweliadau hanfodol ar gyfer y rhai ohonoch sydd yn gwirioni ar erddi. Mae Cloddfeydd Aur Rhufeinig Dolaucothi (Ymddiriedolaeth Genedlaethol), yr unig gloddfa Rufeinig ar ôl yng Nghymru, hefyd yn ymweliad swynol ar gyfer y rhai â diddordeb mewn hanes.
Cerdded
Llawer o lwybrau cerdded hyfryd yn addas ar gyfer pob lefel a gallu. Darganfyddwch Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu rhowch gais ar lwybr cerdded tref Llanymddyfri, 2.1 milltir.
Pysgota
Cymdeithas Pysgota gyda gwialen Llanymddyfri, ymestyn ar hyd y Tywi (un o’r afonydd enwocaf am eogiaid yn y Deyrnas Unedig), trwyddedau ar gael, 1.8 milltir.
Golff
Cwrs Coleg Llanymddyfri - wedi ei leoli drws nesaf i Bafiliwn Chwaraeon o fewn y Coleg, 1.8 milltir.
Beicio
Perffaith ar gyfer beicio ar hyd ffyrdd gwledig tawel a llwybrau gyda golygfeydd sydd fel arfer wedi eu neilltuo ar gyfer chwedl Arthuraidd. Llwybrau sy’n cynnwys hen ffyrdd porthmyn.
Merlota
Mewn lleoliad bendigedig yn un o rannau mwyaf pictiwresg Cymru, mae Five Saints Riding Centre yn Nyffryn Cothi ar ddechrau Mynyddoedd y Cambrian, 15 milltir.