Gwel y Cambria - Cambrian View

Aberystwyth, West Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

You can book this property from:

  • £504 per week
  • £72 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Bwthyn hardd i ddau gyda twba poeth, stóf goed a golygfeydd o gefn gwlad. Cyfle i ymlacio mewn lleoliad tawel yng Ngorllewin Cymru gyda golygfeydd tuag at Fynyddoedd y Cambria, ac o fewn 2 filltir i dafarn a siop bentref yn Llanilar. Yn ganolog i dref Aberystwyth (7 milltir) ar arfordir hardd Bae Ceredigion, a thref farchnad Tregaron wrth droed Mynyddoedd y Cambria.

Mae nifer o olygfeydd ac atyniadau gwych i'w gweld, o draethau a phromenâd, rheilffordd y graig, ystod o fwytai, caffis a siopau yn Aberystwyth, i'r rheilffordd gul sy'n arwain at raeadrau a llwybrau cerdded Pont ar Fynach. Sinema draddodiadol a'r Ganolfan Gelfyddydau fwyaf yng Nghymru, i feicio mynydd a bwydo barcutiaid coch yn Nant yr Arian. Beth am ymweld â Gwarchodfa Natur Cors Caron, Profiad y Mynydd Arian, Fferm Ffantasi .... mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen .... neu eistedd nol a gwneud dim arwahan i ymlacio yn y twba poeth ar y patio. 

Llawr Gwaelod

  • Lolfa/ardal fwyta: ystafell ar gynllun agored gyda soffa a chadair gyfforddus o gwmpas stof goed a theledu Smart gyda nodwedd Firestick. Mae'r ystafell yn mwynhau digon o olau naturiol gyda ffenestri mawr a drws gwydr yn arwain allan i'r patio gyda golygfeydd o gefn gwlad. Bwrdd bwyta a chadeiriau derw, hefyd yn mwynhau'r golygfeydd.   
  • Cegin: Offer modern yn cynnwys popty a hob trydan, meicrodon, peiriant golchi llestri ac oergell. Mae'r peiriannau golchi a sychu dillad, a rhewgell mewn adeilad arwahan drws nesa.  
  • Ystafell wely 1: Ystafell gyda gwely maint king mawr (gellir ei droi yn ddau wely 3' - gwnewch gais pan yn archebu). Nenfwd agored gyda chypyrddau dillad.   
  • Ystafell ymolchi: gyda chawod fawr bwerus, basn a thoiled. 

Gardd

  • Patio mawr gyda twba poeth a dodrefn gardd, gyda golygfeydd o Fynyddoedd y Cambria ar y gorwel.   
  • Barbaciw nwy ar gael.     

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys cynnyrch lleol a rhywbeth bach arbennig i'r cwn, os ydy'ch ffrindiau 4 coes yn dod gyda chi     
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig    
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig       
  • Coed tân cychwynnol yn gynwysedig, gyda rhagor ar gael i brynu mewn siop leol. 
  • Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot    
  • Croesewir hyd at 2 gi   
  • Dim ysmygu y tu mewn i'r llety    
  • Parcio preifat oddi ar y ffordd i 2 gar    

Location