River View

Aberystwyth, West Wales

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

You can book this property from:

  • £798 per week
  • £114 per night
  • 4 Star Gold

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r afon
  • Golygfeydd o'r harbwr
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Llety steilus yn cynnig golygfeydd di-dor o'r afon a'r arfordir o'i leoliad heddychlon yn Aberystwyth, yn edrych allan dros aber yr afon Ystwyth a Bae Ceredigion. Gyda ffenestri mawr drwyddi draw sy'n gadael y golau naturiol i lifo mewn, mae lleoliad tawel River View ym mhen pellaf teras preifat o dai, gyda'r bonws ychwanegol o fod o fewn pellter cerdded i bopeth sydd gan Aberystwyth i'w gynnig. Mae Llwybr Arfordirol Cymru a llwybrau Rheidol ac Ystwyth ar stepen y drws.

Llawr Gwaelod

Ardal agored gyda ffenestri mawr sy'n caniatau i olau naturiol lifo mewn, nenfydau uchel a golygfeydd di-dor o'r afon a'r arfordir. 

Cegin - gyda'r holl offer yn cynnwys oergell/rhewgell, meicrodon, popty trydan a hob nwy, peiriannau golchi llestri a golchi dillad. Ffenestr fawr i wneud y mwyaf o'r golygfeydd. 

Ardal bwyta/lolfa - ystafell olau ac agored, cymdeithasol ac ymlaciol gyda golygfeydd o draeth Tanybwlch, afon Ystwyth a'r harbwr. Lloriau pren gwreiddiol a digon o le i eistedd. Bwrdd bwyta, teledu, chwaraewr DVD, seinydd bluetooth, llyfrau, mapiau CDs a gemau.

Ystafell wely 1 - gwely maint king, a golygfeydd anhygoel drwy ffenestri mawr.

Ystafell wely 2 - gwely dwbwl gydag ensuite yn cynnwys cawod, toiled a basn. 

Ystafell wely 3 - dau wely sengl maint llawn a ffenestri mawr.

Ystafell ymolchi - yn cynnwys baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.

Tu Allan

Gardd gaeedig yn wynebu'r De gyda golygfeydd di-dor o'r arfordir a'r afon. Lleoliad delfrydol i eistedd nôl i fwynhau paned o goffi neu lasied o wîn tra'n edmygu machlud haul trawiadol dros Fae Ceredigion. 

Gardd graean tu allan i'r drws ffrynt gyda bwrdd a chadeiriau. Gardd fawr tu hwnt gyda lawnt ac ardal bywyd gwyllt. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr, menyn, cacennau cri a gwîn    
  • Gwres trydan a thrydan yn gynwysedig      
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig 
  • Un sychwr gwallt ar gael
  • Wifi ar gael
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn    
  • I gyd ar un llawr - delfrydol ar gyfer y llai abl     
  • Digon o le parcio ar gyfer 1 car mawr neu 2 gar cymhedrol. Parcio ychwanegol ar draeth Tanybwlch, 1 funud i ffwrdd     

Location