Ger y Faen

Aberystwyth, West Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

You can book this property from:

  • £580 per week
  • £83 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Sawna
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae’r bwthyn hwn wedi’i leoli o fewn 40 erw o fryniau prydferth cefn gwlad, gyda golygfeydd a bywyd gwyllt gwych o’ch amgylch ym mhob man. Yn y bwthyn gwyliau clyd hwn, dim ond 1 filltir i ffwrdd o bentref enwog Pontarfynach y byddwch chi, gyda’i thair pont a’i rhaeadrau. Mae twb poeth, stôf llosgi coed, sawna ac ystafell chwaraeon yn y llety. Gyda theithiau cerdded yn dechrau o stepen eich drws, mae’r ardal yn wych ar gyfer cerdded, beicio a beicio mynydd – neu pam nad ewch chi i’r nifer o atyniadau gerllaw, gan gynnwys Rheilffordd Dyffryn Rheidol, rhaeadrau Pontarfynach ac Ystâd yr Hafod.

Llawr Gwaelod

Mae ystafell fyw gyfforddus yn y bwthyn gwyliau hwn ym Mhontarfynach, ac mae nifer o nodweddion i’r lle bwyta gan gynnwys trawstiau pren a stôf llosgi coed wedi’i gosod mewn lle tân cerrig. Mae soffa i ddau a 2 gadair esmwyth, bwrdd coffi a silff lyfrau yn llawn llyfrau. Mae lle i 4 wrth y bwrdd bwyta. Mae teledu a chwaraewr DVD a radio digidol, ac mae drws y patio’n arwain at ben blaen y bwthyn gwyliau.

Cegin fodern gyda hob 4 cylch, ffwrn a gril trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, microdon, tostiwr, tegell, llestri, cwtleri, gwydrau ac offer coginio. Darperir haearn a bwrdd smwddio hefyd.

Ystafell wely 1 – Gwely dwbl, cwpwrdd dillad, cist ddillad, 2 fwrdd a lampau bob ochr i’r gwely. Ffenestr wydr ddwbl yn edrych allan tuag at du blaen yr eiddo gyda golygfeydd o’r tir o amgylch. 

Ystafell wely 2 – 2 wely sengl, cwpwrdd dillad, cist ddillad, bwrdd a lamp wrth y gwely, goleuadau darllen uwchben y gwelyau. Ffenestr wydr ddwbl yn edrych dros du blaen yr eiddo gyda golygfeydd o’r tir o amgylch.  

Ystafell sawna a chawod (mae’r mynediad iddi o gefn yr eiddo drwy’r drws cefn, sydd dan do) – sawna Swedaidd, cawod drydan, tŷ bach, basn llaw a pheiriant golchi dillad.

Llawr Cyntaf

Ystafell ymolchi gyda bath, basn llaw a thŷ bach. Drych maint llawn, pwynt siafio a sychwr gwallt.

Ystafell glyd newydd ei hadnewyddu gyda soffa gwely a theledu - yn ddelfrydol i blant chwarae ac ar gyfer ymlacio gyda llyfr da. 

Gardd

Mae gan y bwthyn hwn dwb poeth, ac mae ardal eistedd â dodrefn patio yn nhu blaen y bwthyn yn ogystal ag ardal â lawnt a man parcio. Gallwch eistedd y tu allan a mwynhau’r golygfeydd a’r bywyd gwyllt (gan gynnwys y barcud coch). Yng nghefn y bwthyn, mae ardal farbeciw (barbeciw siarcol), sydd o dan orchudd sy’n golygu y gallwch fwynhau barbeciw boed law neu hindda! Yn yr ardd, mae nant fechan, a gall y plant chwarae yn y cae wrth ochr y bwthyn gwyliau ym Mhontarfynach, neu wylio wrth i’r defaid fynd heibio.

Mae ystafell chwaraeon ar dir yr eiddo (wedi’i rhannu ag un bwthyn gwyliau arall ym Mhontarfynach) sy’n cynnwys bwrdd pŵl. Mae set tenis bwrdd awyr agored ar gael hefyd.  

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Darperir dillad gwely, tyweli bach a mawr, a sychwr gwallt.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig. Darperir coed ar gyfer y stôf llosgi coed.
  • Bydd pecyn croeso yn eich disgwyl.
  • Darperir cot babi a chadair uchel ar gais.
  • Wi-fi ar gael.
  • Man storio diogel i feiciau.
  • Lle parcio i hyd at 3 char y tu allan i’r bwthyn.
  • Ni chaniateir anifeiliaid anwes nac ysmygu yn y bwthyn.
  • Barbeciw siarcol.

Location

Mae Ger y Faen wedi’i leoli o fewn tir eang y perchnogion yn ogystal â chartref y perchennog ac un bwthyn arall. Mae wedi’i leoli 1 filltir yn unig o bentref gwledig Pontarfynach, sydd â thafarn, caffi, ffatri siocled (a siop) yn ogystal ag atyniadau i dwristiaid fel y rheilffordd stêm (ewch ar daith o Aberystwyth), rhaeadrau a 3 pont (wedi’u hadeiladu ar ben ei gilydd). Mae’r bwthyn gwyliau hwn ym Mhontarfynach 10 milltir i ffwrdd o’r arfordir ac arhosfan glan y môr Aberystwyth, sydd â’r holl gyfleusterau sydd eu hangen arnoch, gan gynnwys siopau, tafarndai, archfarchnadoedd a bwytai, yn ogystal â phromenâd hardd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a rheilffordd y clogwyn.

 

Bu Pontarfynach yn fan poblogaidd i dwristiaid am gannoedd o flynyddoedd ac, yn ddiweddar, ymddangosodd y pentref, ynghyd â’r golygfeydd a’r dirwedd o’i amgylch, ar Hinterland / Y Gwyll, sef drama dditectif ddwyieithog wedi’i lleoli yn yr ardal.

 

Yn ystod eich ymweliad â’r bwthyn gwyliau hwn ym Mhontarfynach, gallwch archwilio’r bwthyn a’i hanes, a cherdded i raeadrau Pontarfynach i weld y tair pont. Maen nhw wedi’u hadeiladu ar ben ei gilydd ac, yn ôl y chwedl, adeiladwyd y cyntaf gan y diafol, a arweiniodd at enw Saesneg y pentref, sef Devil’s Bridge. Ar ôl ichi fod am dro, gallwch gael diod haeddiannol iawn yng Ngwesty’r Hafod, a oedd yn arfer bod yn borthdy hela ar gyfer Ystâd yr Hafod.

 

Mae Pontarfynach hefyd yn ardal sy’n croesawu cerddwyr, ac mae dewis da o deithiau cerdded sy’n amrywio o ran eu hyd, ac sy’n dechrau o’r pentref neu o leoliadau eraill gerllaw.

 

Mae Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian wedi’i lleoli dim ond 10 munud i ffwrdd mewn car o’r bwthyn hunan-ddarpar hwn yn Aberystwyth. Dyma un o’r Canolfannau Llwybrau Beicio Mynydd mwyaf enwog yng Nghymru. Yn Nant yr Arian, rydych chi hefyd yn gallu canfod llwybrau cerdded a chanolfan ymwelwyr, a gallwch hyd yn oed weld y barcutiaid coch yn cael eu bwydo.


Mae’r atyniadau eraill sydd gerllaw yn cynnwys y Chwareli Arian a Phlwm yn Llywernog (5.5 milltir), Dyffryn Elan (15 milltir), Cwm Rheidol (5 milltir), a Thregaron (14 milltir).

 

Byddwch hefyd yn canfod dewis gwych o fwytai a thafarndai, oll o fewn taith fer mewn car o Ger y Faen, gan gynnwys tafarn yr Halfway, Pisgah (4 milltir), y Farmers Arms, Llanfihangel y Creuddyn (6 milltir) a Ty’n Llidiart, Capel Bangor (7 milltir).

 

Cerdded

 

Mae nifer o deithiau cerdded yn dechrau o’r bwthyn, ac mae mapiau cerdded ar gael i chi sy’n disgrifio’r llwybrau. Mae llwybr cyhoeddus o Ger y Faen sy’n mynd â chi i’r rheilffordd a gorsaf Rhiwfron, lle gallwch ddal y trên a mynd i Bontarfynach neu Aberystwyth.

 

‘Mynach a Rheidol’ – taith gerdded 9 milltir mewn cylch (sydd ychydig yn hirach os ewch o’r bwthyn) sy’n crwydro’r naill ochr a’r llall o Ddyffryn Rheidol, gyda rhannau serth yn mynd heibio i’r Bompren Ffeirad hanesyddol. Gallwch gychwyn o’r bwthyn.

 

‘Darganfod Dyffryn Rheidol’ – taith gerdded 10 milltir ar hyd rhannau uchaf ac isaf ochr ddeheuol Dyffryn Rheidol. Gallwch gychwyn o’r bwthyn.

 

‘Pumlumon’ – tri llwybr gwahanol i gopa Pumlumon, 2 filltir, 2.5 milltir a 4 milltir. 6 milltir o’r bwthyn

 

‘Canfod Cefn Croes’ – taith gerdded 7 milltir mewn cylch drwy’r goedwig i safle fferm wynt Cefn Croes, gyda golygfeydd panoramig anhygoel. 3 milltir o’r bwthyn.

 

Mae Ystâd yr Hafod (o dan ofal y Comisiwn Coedwigaeth) yn cynnig teithiau cerdded sy’n caniatáu i ymwelwyr archwilio tirlun enwog yr Hafod. Mae 5 ffordd sy’n amrywio o ran hyd ac anhawster, ac maen nhw wedi’u marcio’n glir. 3.5 milltir.


Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian – 3 taith gerdded â golygfeydd. 5.5 milltir o’r bwthyn

 

Beicio

Llwybr Beicio Rheidol – Mae’r llwybr 17 milltir hwn yn eich harwain o Bontarfynach, drwy Ddyffryn Rheidol i lawr i’r harbwr yn Aberystwyth, yn bennaf ar hyd cefnffyrdd tawel a llwybrau beicio dynodedig. 0 milltir.

 

Canolfan Beicio Mynydd Nant yr Arian – un o brif ganolfannau beicio mynydd Cymru. Mae’n cynnwys Llwybr Syfydrin Continental Tyres, un o’r llwybrau gwyllt sydd â’r golygfeydd gorau yn y Deyrnas Unedig. 5.5 milltir o’r bwthyn.
 

Pysgota

Cronfeydd Nant-y-Moch a Dinas, ger Ponterwyd – yn llawn o bob math o frithyll. Gellir prynu trwyddedau ar gyfer pysgota o Orsaf Betrol Rheidol ym Mhonterwyd. 5.8 milltir.

 

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Rheidol – Capel Bangor. 7 milltir.

 

Gwylio adar

Canolfan Bwydo Barcutiaid Coch yn Nant yr Arian. 5.5 milltir.

 

Gwarchodfa Natur Cors Caron rhwng Tregaron a Phontrhydfendigaid. 12 milltir.

 

Traethau

 Tref glan y môr boblogaidd Aberystwyth. 10 millltir.

 

Traeth a thwyni Ynyslas. 20 milltir.

 

Golff

Clwb Golff Capel Bangor – cwrs golff 18 twll. 9.5 milltir.

 

Clwb Golff Aberystwyth – cwrs golff 18 twll. 12.8 milltir.