Brynheulwen

Aberystwyth, West Wales

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 7th June and 25th July
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024

You can book this property from:

  • £464 per week
  • £66 per night
  • 4 Star Gold

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Wedi ei leoli ar fferm weithiol ychydig y tu allan i dref glan môr Aberystwyth, gallwch fwynhau golygfeydd gwledig prydferth o'r llecyn hwn. Mae digon o draethau gerllaw, llwybrau cerdded o'r bwthyn a nifer o weithgareddau ac atyniadau eraill i'w mwynhau. Mae mewn lleoliad delfrydol ar gyfer gwneud y mwyaf o'r amrediad o atyniadau a gweithgareddau sydd gan yr ardal i'w cynnig.

Mae Brynheulwen wedi ei gyfuno â'r ffermdy a newydd gael ei drawsnewid, ond mae'r nodweddion traddodiadol wedi eu cadw. O fewn 2 filltir i'r bwthyn mae tafarn leol a siopau pentref, a 4 milltir i ffwrdd mae tref Fictoraidd Aberystwyth, ble mae amrywiaeth eang o fwytai, caffis, tafarndai, siopau ac archfarchnadoedd.

Llawr Gwaelod

Lolfa – Stepiau carreg yn arwain i'r lolfa gyda thrawstiau uchel yn y to, 2 soffa fawr gyfforddus, teledu mawr a pheiriant chwarae DVD, lle tân llechen gyda phren o'i amgylch, a hefyd llosgydd trydanol yn rhoi effaith llosgi coed.

Ystafell fwyta – Bwrdd wedi ei wneud o bren derw â lle i 6 eistedd, cypyrddau bach gyda theledu/DVD a system Hi-Fi arno.

Cegin – Yn fodern a golau, mae cyfarpar llawn yn y gegin gan gynnwys, hefyd, bar brecwast, oergell integredig, peiriant golchi llestri, popty mawr, microdon a thostiwr.

Ystafell wely gyda gwely dwbl mawr, haearn a dodrefn o bren pinwydden gan gynnwys cwpwrdd ddillad a 2 gist ddroriau, stôl a drych ar fwrdd, cloc radio ddigidol, teledu/DVD a lampau cyffwrdd ar y cabinetau wrth ochr y gwely. Yn yr en-suite mae cawod, toiled, sinc gyda drych LED, sebon hylif moethus, uned eillio a rheilen dywelion gyda gwres.

Ystafell fodern gyda pheiriant golchi/sychu dillad a sinc.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely gyda gwely dwbl mawr bren, cwpwrdd ddillad, cist o ddroriau, bwrdd ochr, teledu/DVD a ffenest Velux yn y to er mwyn i chi allu gwneud y mwyaf o'r olygfa ar draws y dyffryn.

Ystafell ymolchi gyda bath gyda chawod llaw, sinc a thoiled.

Ystafell wely gyda dau wely sengl difán gyda chabinetau wrth ymyl y gwlâu.

Gardd

Gardd breifat gaeëdig gyda ffens o'i amgylch, bwrdd gyda mainc, barbiciw ac ardal fechan gyda glaswellt. Storfa ddiogel i gadw beics/offer chwaraeon ar gael.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso pan gyrhaeddwch, sy'n cynnwys amrywiaeth o gynnyrch lleol.
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig.
  • Dillad gwlâu a thywelion dwylo a bath yn cael eu darparu.
  • Cot, cadair uchel a giatiau grisiau (gwaelod a thop y grisiau) ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
  • Wifi ar gael.
  • Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes yn y bwthyn.
  • Mae'r canlynol yn cael eu darparu i chi yn y bwthyn: Cegin: Hylif golchi llestri a thabledi peiriant golchi llestri. Ystafell ymolchi: Sebon a phapur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol: Cannydd, glanhawr cawod a dwsteri
  • Mae digon o le parcio, a storfa ddiogel i gadw beics, offer pysgota neu chwaraeon ayyb.

Location

Mae Brynheulwen wedi ei leoli ar fferm weithiol gyda golygfeydd gwledig gwych ar draws Dyffryn Ystwyth. Mae'r bwthyn wedi ei gyfunno â'r ffermdy a newydd gael ei drawsnewid, ond mae'r nodweddion traddodiadol yn dal yno. Mae yna dafarn a siopau lleol o fewn 2 filltir i'r bwthyn, tra bod Aberystwyth (4 milltir i ffwrdd) yn cynnig amrywiaeth eang o fwytai, caffis, tafarndai, siopau ac archfarchnadoedd.

Mae nifer o draethau gerllaw ac mae Brynheulwen hefyd mewn lleoliad delfrydol er mwyn crwydro'r Canolbarth a'r Gorllewin er mwyn gweld beth sydd gan yr ardaloedd i'w cynnig. Gallwch bysgota yn y môr ac mae syrffio a gwylio dolffiniaid hefyd yn boblogaidd ar hyd yr arfordir. Mae llwybrau cerdded yn cychwyn o'r bwthyn, ac mae llawer mwy gerllaw hefyd, gyda digonedd o fywyd gwyllt o gwmpas gan gynnwys adar arfordirol a barcutiaid coch. Mae lleoliad y bwthyn hefyd yn ddelfrydol os ydych am ymweld â Phrifysgol Aberystwyth neu Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian, sy'n un o brif ganolfannau beicio mynydd Cymru, 15 munud i ffwrdd mewn car, lle gallwch hefyd wylio barcutiaid coch yn cael eu bwydo. Mentrwch ar daith danddaearol Mwynfa Arian a Phlwm Llywernog (14.5 milltir) neu eisteddwch yn ôl a mwynhewch daith olygfaol ar y trên stêm enwog trwy Ddyffryn Rheidol o Aberystwyth i Bontarfynach.

Traethau

Mae traeth Aberystwyth yn draeth addas i'r teulu gydag adloniant i blant yn ystod y tymhorau prysur. 4 milltir. Hefyd, mae yna draeth sy'n 3 milltir o hyd yn mynd o borth i Warchodfa Natur Ynys Las. 13 milltir.

Cerdded
  • Llwybr Ystwyth – Llwybr cerdded/beicio 21 milltir o Aberystwyth i Dregaron sy'n mynd trwy Lanfarian. Gallwch ymuno â'r llwybr 0.4 milltir o'r bwthyn.
  • Mae Llwybr Arfordirol Cymru yn dilyn y gwahanol arfordiroedd ar hyd Bae Ceredigion. 4 milltir.
  • 'Dilyn y Mynach' – Taith 6.5 milltir sy'n dilyn yr Afon Mynach o'i darddiad hyd at Bontarfynach, ble mae'n creu'r rhaeadrau enwog. 14.5 milltir.
  • O Ganolfan Ymwelwyr Nant yr Arian mae 3 llwybr golygfaol. 15 milltir.
  • Mae Ystâd yr Hafod, sy'n cael ei rheoli gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, yn cynnig llwybrau cerdded 5 ffordd sy'n amrywio o ran hyd a lefel anhawster, ac yn galluogi i'r ymwelwyr archwilio tirwedd enwog yr Hafod. 18.5 milltir.
Beicio
  • Llwybr Ystwyth – gweler uchod o dan 'Cerdded.' 0.4 milltir.
  • Llwybr Feicio Rheidol – Mae'r llwybr 17 milltir yma yn eich arwain at Bontarfynach trwy Ddyffryn Rheidol, i lawr i'r harbwr yn Aberystwyth, yn bennaf ar hyd y ffyrdd cefn tawel a llwybrau beicio penodol. 14.5 milltir.
  • Canolfan Feicio Mynydd Nant yr Arian – un o brif ganolfanau beicio mynydd yng Nghymru, ac mae Llwybr Continental Tyres Syfydrin yno sef un o lwybrau mwyaf golygfaol ym Mhrydain. 15 milltir.
Pysgota
  • Mae Aberystwyth yn lleoliad gwych ar gyfer pysgota morol ac mae cychod siarter ar gael o'r harbwr. 4 milltir.
  • Mae posib pysgota am frithyll brown gwyllt a sewin yn yr Afon Rheidol ac Aberystwyth. Gellir cael caniatâd o glwb pysgota lleol.
Golff

Mae Clwb Golff Aberystwyth yn gwrs 18 twll gyda golygfeydd godidog. 4 milltir.

Reidio Ceffyl

Yn Nyffryn Rheidol mae Canolfan Reidio Ceffylau Rheidol. Yno ceir dwy arena maint llawn gyda goleuadau llif, un y tu mewn ac un y tu allan, cwrs neidio ar gyfer sioe ac un traws gwlad a llwybrau gwych yn y dyffryn i farchogaeth. 9 milltir.