Llety hunan-ddarpar i 2 yn Aberystwyth mewn lleoliad tawel, gwledig gyda golygfeydd hyfryd o’r môr. Amrywiaeth o atyniadau, bwytai, caffis a bariau o fewn milltir.
- £770 per week
- £110 per night
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
- Smart TV
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Mae’r llety hunan-ddarpar rhamantaidd hwn yn Aberystwyth mewn lleoliad tawel, gwledig gyda golygfeydd hyfryd o’r môr. Mae ganddo hefyd y fantais ychwanegol o fod o fewn milltir i dref gosmopolitaidd, lle bydd mwy na digon o ddewis o leoedd i fwyta ac yfed yn dda. Mae’r llety wedi’i leoli ar arfordir Canolbarth Cymru, ac felly mae’n agos at draethau Aberystwyth, Borth ac Ynys Las, Llwybr Arfordirol Cymru a hefyd promenâd a Rheilffordd y Graig hudolus Aberystwyth.
Llawr Gwaelod
Cegin / Ystafell Fwyta – Unedau cegin modern, llawr llechen, mewn steil glân, syml gydag ambell hen ddodrefnyn rystig fel bwrdd a chadeiriau tŷ fferm ‘antique’. Ffwrn drydan a hob anwytho, oergell yn cynnwys rhewgell bychan, tegell a thostiwr. Mae pantri yma hefyd i storio bwyd, yn ogystal â microdon. Mae gwres o dan y llawr drwyddo draw, sy’n gwneud y lle i gyd yn gynnes a chlyd.
Lolfa – Lolfa fawr, olau gyda nifer o ffenestri, gyda golygfeydd pell o arfordir Canolbarth Cymru. Drysau plyg ar draws un wal. Stôf llosgi coed mewn un cornel, a theledu clyfar gyda Freeview/iPlayer/Netflix.
Ystafell wely – Ystafell wely syml mewn steil gwledig gyda gwely dwbl a drysau llithro mawr rhyngddi yn ei gwahanu o’r prif ystafell fyw. Cwpwrdd dillad i ddau, un bwrdd wrth ochr y gwely gyda golau arno.
Ystafell gawod – Ystafell wen, olau gyda chawod agored/ystafell wlyb. Drych mawr sy’n gwneud i’r ystafell deimlo’n llawer mwy.
Gardd
Gardd agored fawr gyda phatio preifat, a seddi i bedwar person, dwy gadair orwedd, a barbeciw. Golygfeydd eang o’r môr ar hyd arfordir Ceredigion ac ar draws Mynyddoedd y Cambria.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Mae’r pecyn croesawu yn cynnwys amrywiaeth o ddiodydd a bwyd o Gymru.
- Mae’r gwres a’r trydan yn gynwysedig.
- Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr.
- Wi-fi o ansawdd da ar gael am ddim.
- Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu yn y bwthyn.
- Digon o le i barcio.
Location
Mae’r llety hunan-ddarpar hwn yn Aberystwyth mewn lleoliad gwledig tawel gyda golygfeydd gwych dros y dref ac allan i’r môr, ar ochr y mynydd ger Craig Glais. Cewch fynediad ato drwy hanner milltir o ffordd breifat, i fyny o bromenâd Aberystwyth, ac felly mae’n mwynhau’r gorau o’r ddau fyd. Mae wedi ei leoli mewn man neilltuedig, ac mae’n rhannu ffordd â dim ond llond llaw o gartrefi eraill sydd wedi’u gwasgaru ar hyd y ffordd, gan sicrhau amgylchedd distaw, ymlaciedig gyda golygfeydd arbennig o’r môr.
Gellir canfod y cyfleusterau agosaf yn Aberystwyth, gan gynnwys amrywiaeth eang o siopau, bwytai, caffis a bariau. Gallwn argymell nifer fawr o fwytai yn y dref, gan gynnwys Baravin, Pysgoty, Medina, Gwesty Cymru, Agnellis ac Ultracomida – sydd oll o fewn milltir. Mae digonedd o dafarndai, caffis hyfryd ac ambell far coctels i’w mwynhau, yn ogystal â dau draeth a phromenâd os hoffech fynd am dro braf ar hyd glan y môr.
Mae gan Aberystwyth ganolfan gelfyddydol ardderchog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y rheilffordd clogwyn hiraf ym Mhrydain (a’r unig un o’i fath yng Nghymru) a sinema deuluol draddodiadol, a hynny heb sôn am y mynediad uniongyrchol i Lwybr Arfordirol Cymru sy’n arwain at fwy o draethau rhagorol fel Borth ac Ynyslas, sydd â golygfeydd anhygoel dros fae Ceredigion ar hyd y ffordd.
Mae Aberystwyth yn dref brifysgol brysur ar lan y môr sydd hefyd yn cynnig mynediad uniongyrchol i Fynyddoedd y Cambria a Dyffryn Rheidol. Mae Rheilffordd Dyffryn Rheidol yn cynnig taith diwrnod poblogaidd iawn i fyny i Bontarfynach (amserlen dymhorol), ardal sy’n gysylltiedig â mythau a chwedlau rhyfeddol. Pan gyrhaeddwch Bontarfynach, dilynwch y llwybr ar hyd yr afon i weld y tair pont sydd wedi’u hadeiladu ar ben ei gilydd a rhaeadr anhygoel.
Traethau
- Traeth y Gogledd, Aberystwyth – Traeth tywod a cherrig mân a chanolbwynt y dref. 0.6 milltir o’ch llety hunan-ddarpar yn Aberystwyth
- Traeth y De, Aberystwyth – Traeth tywod a cherrig mân cysgodol – yn dawelach na Thraeth y Gogledd y dref. 1.2 milltir.
- Traeth Clarach – Traeth tywod a cherrig mân cysgodol (mae’r traeth yn cael ei ddatguddio pan fydd y llanw’n isel). Mae Bae Clarach wedi’i gysylltu ag Aberystwyth gan lwybr natur milltir o hyd gyda golygfeydd ardderchog ar draws Bae Ceredigion. 1 filltir ar droed / 3 milltir mewn car.
- Traeth Borth – Traeth gwych 3 milltir o hyd. Mae wedi ennill Gwobr y Faner Las ac mae’n boblogaidd gyda syrffwyr, syrffwyr barcud a theuluoedd. 7.5 milltir.
- Traeth Ynyslas – Traeth hyfryd gyda thwyni tywod ar ochr ddeheuol aber Dyfi.
Cerdded
- Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan. Ymunwch â’r llwybr o’r promenâd a mwynhewch arfordir amrywiol Bae Ceredigion. 0.6 milltir.
- Mwynhewch daith gerdded drwy Warchodfa Natur Parc Penglais yn Aberystwyth. 0.8 milltir.
- Pen Dinas – ymwelwch â chaer hynafol ar y bryn yn edrych i lawr ar Aberystwyth a’r arfordir. Cerddwch o’r drws i gopa’r bryn mewn 35 munud.
- Canolfan Ymwelwyr Nant yr Arian – 3 taith gerdded â golygfeydd. 11.5 milltir.
- ‘Dilyn y Fynach’: 6.5 milltir yn dilyn yr afon o’i ffynhonnell i Bontarfynach, lle mae’n creu ei rhaeadrau enwog. 13 milltir o’r bwthyn
Golff
- Clwb Golff Aberystwyth – dyma gwrs golff 18 twll hyfryd gyda golygfeydd gwych. 0.5 milltir.
- Clwb Golff Borth – cwrs golff pencampwriaeth 18 twll mewn lleoliad arfordirol trawiadol. 8.5 milltir.
Beicio
- Llwybr Ystwyth – llwybr beicio / cerdded 21 milltir o Aberystwyth i Dregaron drwy Llanfarian. 1 filltir.
- Llwybr Beicio Rheidol – Mae’r llwybr 17 milltir hwn yn mynd â chi i Bontarfynach, drwy Ddyffryn Rheidol i lawr i’r harbwr yn Aberystwyth, a hynny yn bennaf ar hyd cefnffyrdd tawel a llwybrau beicio dynodedig. O stepen eich drws.
- Gellir canfod rhai o’r llwybrau beicio mynydd gorau yng Nghymru a’r DU gerllaw yng Nghanolfan Beicio Mynydd Nant yr Arian. Mae’n cynnwys y Llwybr Syfyrddin Continental Tyres, un o’r llwybrau gwyllt sydd â’r golygfeydd gorau yn y DU. 11 milltir.
Pysgota
- Pysgota ar y môr yn Aberystwyth – yma, mae rhai o’r ardaloedd pysgota mwyaf amrywiol y gallech eu dychmygu, gyda rhestr o rywogaethau sy’n cystadlu â dyfroedd toreithog Dyfnaint a Chernyw hyd yn oed. 0.6 milltir.
- Gallwch archebu lle ar gwch siarter o Farina Aberystwyth.
- Pysgota brithyll gwyllt gwych yn nifer o’r afonydd lleol ac yn y llynnoedd yn y mynyddoedd. Mae modd prynu tocynnau dydd o’r Siop Bysgota GB ar Heol Corporation (0.7 milltir).
Marchogaeth
- Mae gan Ganolfan Farchogaeth Rheidol arenâu maint llawn wedi’u goleuo dda, yn yr awyr agored ac o dan do, ynghyd â chwrs neidio a thraws gwlad, a theithiau marchogaeth gwych o gwmpas Dyffryn Rheidol. 6 milltir.
Gwylio adar
- Mae Nant yr Arian yn cynnwys canolfan bwydo barcutiaid coch. 11.5 milltir.
- Gwarchodfa Natur yr RSPB yn Ynys-hir ar ochr ddeheuol aber afon Dyfi. 13 milltir.
Chwaraeon Dŵr
- Aber Adventures – ysgol syrffio, ysgol padlfyrddio ar eich sefyll a Llogi Caiacau yn Borth – 7.5 milltir.
- Canolfan Weithgareddau Llain, Llanarth. Canolfan amlweithgaredd, gan gynnwys caiacio a chanŵio, hwylio ac adeiladu rafftiau, rhaffau uchel, cyrsiau antur a llawer mwy. 20.5 milltir.