- £754 per week
- £108 per night
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 4 Bathrooms
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 2 o welyau bync
Ystafell ymolchi
- 4 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mwynhewch wyliau ymlaciol braf 5 seren yn y llety gwyliau hunan-ddarpar hwn yn Aberystwyth, gyda thwb poeth – ffermdy traddodiadol, mawr sydd â digon o gymeriad. Wedi’i addurno i safon uchel, mae mewn lleoliad tawel, gwledig ac eto mae o fewn pellter teithio byr i Aberystwyth a’i holl gyfleusterau, sy’n cynnwys caffis, bwytai a bariau, siopau a phromenâd. Croesewir anifeiliaid. Mae 4 ystafell wely (dwy gydag en-suite) a dwy ystafell fyw – un gyda stôf llosgi coed a dresel Gymreig a’r llall â thân agored.
Llawr Gwaelod
Cegin / Ystafell fwyta – Cegin ac ystafell fwyta cynllun agored gyda drysau sy’n arwain at y patio.
Ystafell fyw – Mae trawstiau pren yn yr ystafell fyw ynghyd â lle tân gyda simdde fawr a stôf llosgi coed. Wedi’i dodrefnu â dresel Gymreig wreiddiol a chloc mawr, teledu a dwy soffa fawr, dyma’r lle delfrydol i ymlacio o flaen y tân ar ddiwedd eich diwrnod prysur.
Parlwr / ystafell gefn – Mae gan y parlwr neu’r ystafell gefn dân agored ac mae’n hyfryd gallu dianc iddi am hanner awr distaw i ddarllen eich llyfr, neu gallech adael i’r plant gael eu hystafell eu hunain i chwarae neu wylio’r teledu.
Ystafell gotiau – tŷ bach a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 – ystafell wely gyda gwely mawr iawn, a thri gris yn arwain i lawr i’r gawod en-suite. Cwpwrdd dillad mawr a theledu.
Ystafell wely 2 – Gwely bync maint oedolion a bwrdd ymbincio.
Ystafell wely 3 – Ystafell ddwbl a thri gris yn arwain i lawr i en-suite gyda chawod. Cwpwrdd dillad, cist ddillad a theledu.
Ystafell wely 4 – Ystafell wely â 2 wely sengl gyferbyn â’r brif ystafell ymolchi. Cwpwrdd dillad a bwrdd ymbincio.
Prif ystafell ymolchi – Mae dau ben i’r bath yn y brif ystafell ymolchi, a chawod dros y sinc.
Gardd
Mae’r tir o amgylch y llety yn amgaeedig, ac mae patio yn y cefn sydd â dodrefn dur a lle i 8 o bobl, barbeciw nwy, a thwb poeth. Mae ffynnon wedi’i gorchuddio gyda wal o’i hamgylch yn yr ardd gefn, gyda llwybr yn arwain at ardal fawr â lawnt o flaen y tŷ gyda golygfeydd ar draws y dyffryn.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Darperir dillad gwely, tyweli bach a mawr, ac 1 sychwr gwallt.
- Darperir cot babi a chadair uchel ar gais.
- Croesewir 1 ci am £25 yn ychwanegol. Caniateir ail gi ar gais gan ddibynnu ar ei faint (£25 yn ychwanegol am ail gi). Cŵn bychan a chanolig yn unig – gadewch inni wybod beth yw brîd eich ci (neu gŵn) wrth archebu.
- Dim ysmygu y tu mewn i’r bwthyn.
- Digon o le parcio i 3 char.