- £703 per week
- £100 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
- 2 o welyau soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mwynhewch seibiant a dewch i ymlacio yn y llety gwyliau 5 seren hwn yn Aberystwyth – ysgubor wedi’i adnewyddu ydyw, mewn steil modern gyda nodweddion hyfryd, gan gynnwys twb poeth a stôf llosgi coed groesawgar. Mae’r bwthyn hwn sy’n croesawu anifeiliaid anwes mewn lleoliad gwledig, tawel, ac eto dim ond 5 milltir i ffwrdd ydyw o dref glan môr Aberystwyth a’i holl gyfleusterau, sy’n cynnwys y promenâd, y siopau, y bariau, y caffis a’r bwytai.
Llawr Gwaelod
Cegin, man bwyta a lolfa cynllun agored modern gyda gwres o dan y llawr. Mae popeth sydd ei angen arnoch chi yn y gegin, gan gynnwys hob anwytho, ffwrn drydan, microdon, peiriant golchi llestri, oergell, a rhewgell, ynghyd ag arwyneb gwenithfaen hardd. Mae lle i 8 o bobl wrth y bwrdd bwyta ar y cadeiriau pren, ac mae grisiau gwydr yn arwain at ardal mezzanine.
Mae gan y lolfa ddwy soffa fawr ledr a stôf llosgi coed fodern.
Ystafell wely 1 – Yn arwain o’r prif gyntedd, mae ystafell wely mawr iawn gyda theledu, llawr pren ac en-suite gyda chawod a thŷ bach.
Ystafell wely 2 – O’r prif gyntedd, mae tri gris yn arwain i lawr i ystafell wely fawr â 2 wely sengl, gyda theledu a llawr pren.
Ystafell wely 3 – Ystafell wely fawr gyda gwely mawr iawn (i lawr tri gris hefyd) gyda theledu, llawr pren ac en-suite gyda chawod a thŷ bach.
Prif ystafell ymolchi fawr gyda bath â dau ben, a chawod.
Cwpwrdd iwtiliti gyda pheiriant golchi dillad a pheiriant sychu ar wahân.
Llawr Cyntaf
Dyma’r mezzanine sy’n cynnwys seddi ychwanegol gyda theledu a chwaraewr DVD – delfrydol ar gyfer y plant neu fel ystafell dawel ichi gael llonydd i ddarllen eich llyfr ynddi. Llwyfan ychwanegol i wely dwbl, a gwely soffa dwbl ar gael.
Gardd
Mae drws yn arwain allan i’r ardd flaen breifat ac amgaeedig, lle mae bwrdd a seddi i hyd at 8 o westeion. Darperir barbeciw nwy hefyd.
Mae gan yr ardal batio yn y cefn dwb poeth ac ardal eistedd ratan.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Darperir dillad gwely, tyweli bach a mawr, ac 1 sychwr gwallt.
- Darperir cot teithio a chadair uchel ar gais.
- Croesewir 1 ci am £25 ychwanegol. Ail gi ar gais gan ddibynnu ar ei faint (£25 ychwanegol ar gyfer ail gi). Cŵn bach neu ganolig yn unig – gadewch inni wybod beth yw brîd eich ci/cŵn wrth archebu.
- Dim ysmygu yn y bwthyn.
- Digon o le parcio i 3 char.