Gwarcwm Uchaf

Aberystwyth, Mid Wales and Brecon Beacons

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May

You can book this property from:

  • £546 per week
  • £78 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Twb poeth
  • Pwll nofio
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Bwthyn ar wahân gyda twb poeth preifat a golygfeydd o’r môr. Mae Gwarcwm Uchaf yn cynnig lleoliad gwledig ymlaciol, gyda golygfeydd anhygoel dros aber yr Afon Ddyfi ac i fyny i’r bryniau. Mae’r bwthyn clyd hwn, sy’n derbyn anifeiliaid anwes, hefyd â stôf goed braf yn y lolfa a rayburn yn y gegin. Mae yna fynyddoedd hardd o gwmpas ar gyfer cerddwyr sy’n mwynhau y rhyddid i grwydro. Wedi ei leoli rhwng Machynlleth ac Aberystwyth, mae yna ddigon i wneud yn lleol, gyda Bae Ceredigion a’i draethau hardd ond taith fer i ffwrdd.

Llawr Gwaelod

Cegin/ystafell fwyta - cegin fodern gydag oergell, rhewgell, peiriant golchi llestri, ffwrn, meicrodon a ‘rayburn’. Bwrdd bwyta a chadeiriau derw yn edrych allan dros yr ardd a’r golygfeydd anhygoel

Lolfa gyda stôf goed groesawus, 2 soffa a chadair ledr, teledu gyda DVD, bwrdd coffi derw, set o fyrddau bach a chwpwrdd llestri

Ystafell ar wahân sydd yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad, sinc, toiled a storfa ar gyfer esgidiau budr ayb. Mae coed ar gael yma hefyd ar gyfer y stôf goed

Llawr cyntaf

Llofft 1 - gwely maint super king (gellir ei rannu i ddau wely sengl os dymunir). Cwpwrdd dillad derw, bwrdd gwisgo gyda chadair, 2 gwpwrdd wrth ymyl y gwely gyda lampau a golygfeydd godidog dros aber yr afon

Llofft 2 - gwely maint super king (gellir ei rannu i ddau wely sengl os dymunir). Cwpwrdd dillad derw, bwrdd gwisgo gyda chadair, 2 gwpwrdd wrth ymyl y gwely gyda’r un olygfa â llofft 1

Llofft 3 - Gwely dwbl bach (4 troedfedd) ar gyfer un person. Cwpwrdd dillad derw, bwrdd gwisgo gyda chadair, cwpwrdd wrth y gwely gyda lamp

Llofft 4 - Gwely dwbl bach (4 troedfedd) ar gyfer un person. Cwpwrdd dillad derw, bwrdd gwisgo gyda chadair, cwpwrdd wrth y gwely gyda lamp

Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod drydan uwchben, basn a thoiled

Gardd

Gardd gaeedig yng nghefn y bwthyn gyda twb poeth preifat a golygfeydd anhygoel tuag at y môr a’r bryniau. Bwrdd a chadeiriau tu allan, barbaciw a lein ddillad

Pêldroed, batiau a phêli tennis bychan ar gael

Gwybodaeth ychwanegol

  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Dillad gwelyau, tywelion llaw a baddon yn gynwysedig
  • 4 sychwr gwallt (un ym mhob llofft)
  • Cot, cadair uchel a gât i’r grisiau ar gael os dymunir
  • Tabledi i’r peiriant golchi llestri, hylif golchi llestri, sebon dwylo, tywelion sychu llestri, sbwng, sgwriwr a brwsh golchi llestri ar gael
  • Dim ysmygu y tu mewn
  • Croeso i un anifail anwes (llawr gwaelod yn unig)
  • Digonedd o le parcio

Location

Mae’r bwthyn hunan ddarpar hwn wedi ei leoli ar fferm, mewn lleoliad gwledig a heddychlon. Ymlaciwch yn yr ardd tra’n gwylio’r defaid a’r gwartheg yn crwydro yn y caeau o’ch amgylch, neu eisteddwch yn y twb poeth yn mwynhau golygfa anhygoel o’r Afon Ddyfi ble mae’n cwrdd â dyfroedd gleision Bae Ceredigion

Mae 2 siop gerllaw - siop gymunedol boblogaidd yn Nhrerddol (1 milltir) sydd yn gwerthu llawer o gynnyrch lleol, a siop SPAR ym mhentref Talybont (2 filltir). Mae yna 3 tafarn/bwyty y gellir eu hargymell o fewn 2 filltir - y Wildfowler yn Nhrerddol (1 milltir) a’r Llew Du a’r Llew Gwyn yn Nhalybont (2 filltir)

Ymysg atyniadau poblogaidd yr ardal mae traethau Ynyslas (5 milltir) a Borth (7 milltir), canolfan RSPB yn Ynyshir (4.5 milltir), cronfa ddŵr Nantymoch (10 milltir) a mynyddoedd y Cambrian. Mae tref glan môr Aberystwyth (9 milltir) a thref hanesyddol Machynlleth, sydd yn cael ei hadnabod fel Prifddinas Hanesyddol Cymru (9.5 milltir), yn werth ymweld â nhw.

Mae Aberystwyth yn gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, gyda promenâd llydan braf, Amgueddfa, Castell a Rheilffordd y Graig, lle y gwelir golygfeydd anhygoel o’r caffi ar y copa. Mae’r cymwysterau yn cynnwys ystod eang o siopau, archfarchnadoedd, Canolfan Hamdden, caffis, tafarndai a bwytai. Mae Rheilffordd Gul yn arwain o Aberystwyth i fyny at Bont ar Fynach, gyda’i raeadrau enwog a nifer o lwybrau cerdded. Cafodd y ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland ei ffilmio o amgylch Aberystwyth - fe dorrodd y ddrama hon dir newydd drwy gael ei darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg

Fe gynhelir un o’r Marchnadoedd Stryd hynaf ym Mhrydain yn nhref hynafol Machynlleth, bob dydd Mercher. Ceir yma lwybrau beicio, llwybrau cerdded, Canolfan Hamdden, siopau unigryw, bwytai a chaffis, a Senedd-dy cyntaf Cymru sydd yn dyddio yn nol i’r bymthegfed ganrif. Ychydig filltiroedd i’r gogledd mae Canolfan y Dechnoleg Amgen, Canolfan Grefftau Corris a Labyrinth y Brenin Arthur

Traethau

  • Traethau hardd yn Ynyslas (4.5 milltir) a Borth (7 milltir), gyda thref glan môr boblogaidd Aberystwyth ond 9 milltir i ffwrdd

Cerdded

  • Gellir ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan ond 1 milltir o’r bwthyn. Mae’r llwybr hwn yn arwain at y traeth yn Borth ac Aberystwyth ychydig o filltiroedd i’r de.
  • Mae digon o fynyddoedd i’w dringo, yn cynnwys Pumlumon (Mynyddoedd y Cambrian) a Cader Idris (Eryri)

Beicio

  • Mae nifer o lwybrau beicio o fewn ychydig filltiroedd, yn ogystal â llawer o ffyrdd cefn ar gyfer cerdded a beicio
  • Beicio Mynydd Dyfi - pob llwybr yn arwain o Fachynlleth (9.5 milltir)
  • Canolfan Feicio Mynydd Nant yr Arian - un o brif ganolfannau Beicio Mynydd yng Nghymru (14 milltir)

Gwylio Adar

  • RSPB yn Ynyshir (4.5 milltir)
  • Prosiect Gweilch Dyfi (4.5 milltir)
  • Canolfan Fwydo Barcutiaid Coch yn Nant yr Arian (14 milltir)

Chwaraeon Dŵr

  • Mae Borth yn leoliad da ar gyfer syrffio a hwylforio. Mae gwersi syrffio yn cael eu darparu ar draeth Borth gan ‘Aber Adventure’ (7 milltir)

Golff

  • Clwb Golff y Borth - cwrs golff pencampwriaethol 18 twll (7 milltir)
  • Clwb Golff Aberystwyth - cwrs golff 18 twll (9 milltir)
  • Clwb Golff Machynlleth - cwrs golff 9 twll (10 milltir)

Marchogaeth

  • Mae Canolfan Farchogaeth Rheidol yn cynnig dwy arena llawn maint gyda llifoleuadau - un y tu mewn ac un y tu allan, cwrs neidio a thraws-gwlad, a merlota gwych o gwmpas Cwm Rheidol (10 milltir)

Pysgota

  • Pysgota môr yn Aberystwyth - rhestr rywogaeth nodedig na welir ei thebyg ond yn nyfroedd toreithiog Dyfnaint a Chernyw (9 milltir)
  • Gellir llogi llongau o’r Marina yn Aberystwyth (9 milltir)
  • Pysgota plu yn Nant y Moch (brithyll brown) - 10 milltir (tocynnau diwrnod ar gael o’r Garej ym Mhonterwyd, 16 milltir)