- £640 per week
- £91 per night
- 6 Guests
- 2 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Twb poeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mwynhewch y gorau o ddau fyd yn y bwthyn gwyliau 5 seren hwn, sy’n gyfleus ar gyfer yr Arfordir a Mynyddoedd y Cambrian. Wedi ei leoli mewn dyffryn hardd a heddychlon gyda golygfeydd gwefreiddiol o fryniau tonnog - 1 filltir o bentref Tal-y-bont gyda tafarn, siop, ardal chwarae i blant ayb. Taith fer i’r gorllewin ac fe ddewch at draethau hardd y Borth ac Ynys Las, gyda thref arfordirol boblogaidd Aberystwyth 8 milltir i’r de a thref hanesyddol Machynlleth 11 milltir i’r gogledd.
Llawr Gwaelod
Ystafell fwyta a chegin. Steil gwledig gyda dodrefn derw. Bwrdd bwyta a 6 chadair, teledu a radio, oergell/rhewgell, popty trydan a golchwr llestri gyda llawr llechfaen.
Iwtiliti gyda mynediad i batio mawr yn y cefn. Peiriant golchi dillad a sychwr.
Ystafell ymolchi gyda chawod uwchben y bath.
Lolfa gyda llawr derw, swît 3 rhan gyda lle i 6 eistedd, teledu Freeview a DVD, bwrdd coffi, bwrdd coffi, tân nwy (effaith stôf llosgi coed) a drysau gwydr yn agor i batio arall gyda bwrdd a 6 o gadeiriau.
Llawr Cyntaf
Mae gan y bwthyn 5 seren hwn 2 ystafell wely fawr gyda lloriau derw. Mae gany ddwy en-suite yn cynnwys cawodydd a llechi ar lawr, cyfuniad o wlâu 'king' a sengl, bwrdd gwisgo, cwpwrdd dillad, droriau ger y gwelyau ac otoman. Mae teledu yn y ddwy ystafell a gellir gweld cip o’r môr o ffenestr yr ystafell wely isaf.
Gardd
Gardd fawr amgaeedig gyda dodrefn gardd a lein ddillad. Lawnt gyda lôn a pharcio o fewn y gatiau blaen. Twba poeth - atyniad newydd ar gyfer 2021.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwlau a thywelion yn cael eu darparu
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Cot teithio, cadair uchel a giât grisiau ar gael. Dewch a'ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot
- Platiau a phowleni plastig i blant yn cael eu darparu.
- Yn fodlon derbyn 1 ci
- Wi-fi ar gael
- Twba poeth
- Dim ysmygu
- Parcio preifat.
- Tân nwy yn y lolfa a gwresogyddion storio.
- Gwyliau teulu moethus a gwyliau byr ar gael yn y bwthyn hwn - dewch o hyd i fwy o wybodaeth o dan 'Prisiau'