Ty Jim

Aberaeron, West Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

You can book this property from:

  • £545 per week
  • £78 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Ymlaciwch yn y twb poeth tra'n mwynhau golygfeydd anhygoel ar draws Bae Ceredigion. Mae'r bwthyn hunan ddarpar hwn ar fferm weithiol ar godiad tir uwchben yr arfordir. Gydag Aberystwyth ac Aberaeron ond taith fer i ffwrdd dyma leoliad delfrydol i ddarganfod arfordir Gorllewin Cymru. 

Llawr gwaelod

Cegin eang gydag ardal fwyta a'r offer angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi llestri, popty a hob trydan, tostiwr, tegell, meicrodon, oergell/rhewgell maint llawn.

Lolfa gyda soffa gysurus siap L, teledu, a drysau patio i gael mwynhau golygfeydd o'r môr.

Ystafell ymolchi gyda cawod y gellir cerdded i mewn iddi, toiled a basn.

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl.

Ystafell wely 2 - gwely superking (gellir newid y gwely i ddau wely sengl - noder hyn pan yn archebu).

Ystafell wely 3 - gwely superking (gellir newid y gwely i ddau wely sengl - noder hyn pan yn archebu).

Tu Allan

Ardal patio yn y cefn gyda twb poeth, lawnt, bwrdd a chadeiriau.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig  
  • Storfa feiciau ddiogel  
  • Wifi ar gael
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig  
  • Cadair uchel a chot trafeilio ar gael - dewch â dillad eich hun i'r cot. Maint y cot trafeilio yw 60cm uchder, 70cm lled, 95cm hyd     
  • Dim ysmygu   
  • Dim anifeiliaid anwes
  • Parcio tu allan i'r bwthyn  

Gwybodaeth i Bobl Anabl a Llai Abl    

 - y llety i gyd ar un lefel

- mynediad i gadair olwyn

 - cawod y gellir gerdded i mewn iddi

Location

Mae'r bwthyn hwn yn ffinio gydag un bwthyn hunan ddarpar arall ac wedi ei leoli ar fferm weithiol uwchben pentref Llanon, ger Aberaeron. Ond cwarter milltir sydd i bentref Llanon, gyda'i draeth graeanog, ac hefyd tafarn, siop leol a siop prydau parod. 

Mae tref harbwr Sioraidd Aberaeron 5 milltir i ffwrdd. Dyma dref sydd wedi adeiladu enw da gyda bwytai a thafarndai gwych, yn cynnwys yr Harbwrfeistr, yr Hive, a'r Celtic. Yn ystod yr adegau prysur gellir archebu tripiau cwch neu brynu pysgod ffres o'r Cei. Mae nifer o siopau annibynnol yn Aberaeron, o archfarchnadoedd bach a siopau groser, i siopau arbennig ar gyfer y tŷ, megis Seld, gyda'i nwyddau Cymreig neilltuol.   

Fe leolir tref brifysgol Aberystwyth 11 milltir i'r gogledd gyda'r Llyfrgell Genedlaethol, traethau, pier, siopau lleol, archfarchnadoedd. a nifer o lefydd i fwyta ac yfed. Gellir llogi tripiau cwch i weld y bywyd gwyllt, pysgota, neu wylio'r dolffiniaid o Gei Newydd, 12 milltir i ffwrdd. 

Gydag arfordir garw a hardd, mae rhai o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd wedi eu lleoli o gwmpas y môr a'r arfordir, yn cynnwys pysgota, syrffio, hwylio, gwylio adar, beicio a cherdded. 

Traethau

  • Llanon - traeth graeanog o fewn pellter cerdded (0.3 milltir)  
  • Cei Bach - traeth euraidd ger Cei Newydd sy'n boblogaidd gyda teuluoedd (12 milltir)  

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Ceredigion - (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru) yn rhedeg ar hyd yr arfordir a gellir ymuno ag ef yn Llanon (0.3 milltir)   

Chwaraeon Dŵr

  • Canolfan Weithgareddau Llain - (5.5 milltir)
  • Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion - dewis o hwylio dingi, hwylio, cychod pŵer, syrffio gwynt a caiacio, gyda sesiynau hir neu fyr sy'n addas ar gyfer pob lefel a gallu (8.5 milltir) 

Pysgota

  • Pysgota môr - pysgota gwych o'r lan neu gellir llogi cwch o Aberaeron (5 milltir)  
  • Canolfan Bysgota Nine Oaks, Derwen Gam (9 milltir)

Beicio

  • Beicio gwych ar ffyrdd gwledig (1 milltir)  
  • Beicio Mynydd Bwlch Nant yr Arian (19 milltir)

Golff

  • Clwb Golff Penros, Llanrhystud - cwrs 18 twll mewn 150 acer o gefn gwlad ffrwythlon (2.2 filltir)  

Marchogaeth

  • Gilfach yr Halen, Llwyncelyn - trecio tywysedig drwy gefn gwlad anhygoel (4.5 milltir)