- £458 per week
- £65 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Awyr Agored
- Barbaciw
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Llety gwyliau yn Aberaeron, yn edrych allan ar yr harbwr ac yn ganolog i dref lan môr Sioraidd hardd. Mae popeth yr ydych angen o fewn pellter cerdded yn cynnwys bwytai o safon uchel, tafarndai, siopau bach, parlwr hufen ia, harbwr a'r traeth. Unwaith yn borthladd pysgota prysur mae'n dal yn bosib i brynu pysgod ffres o'r Cei. Mae'r llety yn medru cysgu 4 (3 ac 1 ychwanegol, gweler manylion gwelyau).
Ceir mynediad i'r llety fyny grisiau.
Ail lawr
Cegin, lolfa ac ardal fwyta agored, y gegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys meicrodon, popty, oergell gyda rhewgell oddi mewn a pheiriant golchi. Lolfa gysurus gyda lle i 4 eistedd, teledu, DVD a golygfeydd ar draws yr harbwr.
Ystafell wely 1 gyda gwely 4 troedfedd. Yn swyddogol mae'r gwely yn cysgu 1 ond gall gysgu 2.
Trydydd llawr
Ystafell wely 2 - dau wely sengl gyda golygfeydd nenlinell allan i'r môr.
Ystafell ymolchi steilus gyda cawod, toiled a basn.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth, bisgedi a chacennau cartref. Gadewch i ni wybod os ydych yn dathlu achlysur arbennig ac fe wnawn gynnwys sypreis ychwanegol yn y pecyn
- Noder fod mynediad i'r llety fyny grisiau. Anaddas ar gyfer gwesteion llai abl.
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig (dewch â'ch tywelion eich hun i'r traeth)
- Trydan a gwres yn gynwysedig
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Archfarchnadoedd yn dosbarthu i'r llety ond mae yna nifer o siopau gwych yn gwerthu cynnyrch o ffynonellau lleol
- Dim ysmygu a dim anifeiliaid anwes
- Does dim parcio penodol i'r llety ond mae maes parcio ar y Cei a pharcio ar y stryd gerllaw
- Wi-fi ar gael