- £665 per week
- £95 per night
- 6 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 4 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae’r bwthyn gwyliau cartrefol hwn yn un o bâr o fythynnod fferm moethus yn dyddio’n ôl sawl canrif gyda digonedd o lwybrau cerdded o garreg y drws. Mae tir fferm cyfagos y perchnogion yn caniatáu picnic neu farbeciw ac mae croeso i’r anifeiliaid gynorthwyo i fwydo’r ceffylau a’r ieir a chasglu wyau ffres. I’r plant, mae’r tir o amgylch y bwthyn yn ddelfrydol yn cynnig llawr o bleserau syml megis mynd am dro drwy’r wlad, padlo yn y nentydd bas, igamogamu rhwng pyllau, hedfan barcud (gyda’r Barcud Coch yn gwylio!) a gwylio’r anifeiliaid fferm yn chwarae.
Mae Ty Mawr Tlws wedi ei leoli yng Nghilybebyll, pentrefan bychan, tawel a hynod o bictiwresg gydag eglwys o’r drydedd ganrif ar ddeg a golygfeydd gwledig gwych. Dim ond taith fer o draethau hyfryd Gwyr a golygfeydd godidog y Bannau Brycheiniog.
Llawr Gwaelod
Cegin/ystafell fwyta helaeth yn cynnwys golchwr llestri, peiriant golchi/sychu dillad, microdon ac oergell/rhewgell fawr.
Ystafell fyw/fwyta fawr gyda stôf llosgi coed sydd yn rhoi teimlad cysurus braf gyda phiano a theledu freeview yn ogystal.
Drws patio yn arwain allan i’r iard gefn gyda dodrefn gardd a barbeciw.
Ystafell glyd gydag ail deledu, chwaraewr DVD a llyfrgell o lyfrau.
Ystafell ymolchi gyda chawod.
Llawr Cyntaf
Prif ystafell wely gyda gwely maint king.
Ystafell twin gyda dau wely sengl 3’ yr un.
Dwy ystafell wely sengl a’r cyfan gyda digonedd o le storio.
Ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf gyda bath.
Ardal helaeth ar ben y grisiau gyda bwrdd pwl / snwcer i blant.
Gardd
Lawnt fechan a phatio preifat gyda bwrdd a chadeiriau. Darperir barbeciw.
Llwybrau cerdded gwledig o garreg y drws.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dillad gwely, tywelion dwylo a bath yn gynwysedig
Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig gyda logiau yn cael eu darparu am ddim ar gyfer y stôf losgi coed.
Cot teithio a chadair uchel ar gael yn ogystal â theganau, llyfrau plant a gemau. Dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Darperir bwrdd snwcer bychan
Wi-fi ar gael
Storfa ddiogel i feiciau yn ogystal â chyfleusterau golchi
Digonedd o wybodaeth a phamffledi ar gyfer ymwelwyr ac mae’r perchnogion yn hapus i roi cyngor am atyniadau lleol addas ayb.
Gwyliau byr arbenigol ar gael yn cynnwys cyrsiau dysgu Cymraeg, crefftau a gweithgareddau eraill. Mae gan berchennog y bwthyn sawl blwyddyn o brofiad yn cynnal cyrsiau celf a chrefft gydag oedolion a phlant. Tueddir i redeg y rhain yn ystod y tymor tawel. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Ni chaniateir anifeiliaid anwes.
Gall y perchennog drefnu ymweliad i ddistyllfa chwisgi Penderyn ar gais, sydd yn cynnwys taith o amgylch y safle a dosbarth meistr arbenigol. *Mae angen archebu hwn fel arfer o leiaf ddau fis o flaen llaw (£50 y person).
Gwyliau Theatr : o fewn 10-25 munud yn y car, mae yna chwe theatr, a’r cyfan yn cyflwyno perfformiadau rhyngwladol (yn ogystal â chynyrchiadau ar raddfa lai, weithiau gyda naws leol).
Gellir archebu Ty Mawr Tlws a Ty Bach Twt ( y bwthyn drws nesaf ) gyda’i gilydd, cysylltwch â ni am ein gostyngiad wrth archebu’r ddau.