- £506 per week
- £72 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae Beudy Tawe ond 8 milltir i ffwrdd o Abertawe ac mae wedi ei leoli ar fferm heddychlon ym Mro Tawe. Yn nythu rhwng mynyddoedd y Bannau Brycheiniog ar hafan arfordirol Penrhyn Gwyr, mae’r bwthyn yn lle perffaith i ymlacio a gwneud y mwyaf o’r atyniadau a’r gweithgareddau yn yr ardal.
Llawr Gwaelod
Cegin ac ystafell fwyta agored gyda chegin osod ffasiynol, popty nwy, peiriant golchi llestri, microdon, tostiwr, gril, peiriant coffi a theledu. Mae lle i chwech fwyta wrth y bwrdd bwyd.
Lolfa gyda theledu fawr 50”, DVD a soffas lledr moethus. Drysau dwbl yn agor allan ar ardal yr ardd a golygfeydd gwych.
Llawr Cyntaf
Dwy ystafell wely ddwbl gyda chypyrddau sy’n mwynhau golygfeydd gwych o’r Fro.
Un ystafell wely bync gyda dau wely bync maint oedolyn.
Dwy ystafell ymolchi gyda bath hanner maint a chawod uwchben y bath, toiled a sinc.
Tu allan
Ardal batio gyda mainc a chae mawr caeedig, hanner erw o lawntiau i’w mwynhau a gasebo bren ac ardal farbeciw sy’n cael ei rannu gyda’r bwthyn arall ar y safle.
Mae yna hefyd olchdy i’w rannu, gyda pheiriant golchi dillad a sychwr dillad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae trydan yn cael ei dalu ar sail mesurydd.
Mae gwres yn gynwysedig.
Pecyn croeso ar gyrhaeddiad yn cynnwys te, coffi, siwgr a bisgedi.
Darperir dillad gwely a thywelion.
Trydan a gwres olew canolog yn gynwysedig.
Wi-Fi ar gael.
Cadair uchel, cot teithio a giât i’r grisiau ar gael yn y bwthyn. Os gwelwch yn dda dewch â’ch dillad gwely eich hun ar gyfer y cot.
Dim ysmygu tu mewn.
Croeso i anifeiliaid anwes (uchafswm o 2 gi) ond dim anifeiliaid anwes yn yr ystafelloedd gwely.
Mae’r eitemau canlynol hefyd yn gynwysedig yn y bwthyn ar gyfer eich ymweliad;
Cegin: halen a phupur, rôl cegin, hylif golchi llestri/tabledi golchi llestri, tywelion sychu llestri a sgwrwyr newydd, ffoil tin a chling ffilm.
Ystafell ymolchi: sebon hylif a dau doiled rôl ar gyfer pob toilet.
Cynnyrch glanhau cyffredinol: cannydd (bleach), glanhawr cawod, chwistrellydd gwrthfacteria a.y.b.