- £570 per week
- £81 per night
- 5 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 3 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae Bwthyn Gwyr yn lety 3 llofft ym mhentref tawel Southgate ar Benrhyn Gwyr, dafliad carreg o Glwb Golff Pennard a 5 munud o gerdded o'r arfordir a golygfeydd gwych Pobbles a Bae Three Cliffs. Gyda parc dwr dan do mwyaf Cymry ond 8 milltir i ffwrdd (LC yn Abertawe), dyma leoliad gwych ar gyfer gweithgareddau megis golff, cerdded a nofio.
Llawr Gwaelod
Mae'r bwthyn moethus hwn ar Benrhyn Gwyr gyda lolfa heulog sy'n cynnwys soffa a chadeiriau a drysau patio allan i'r ardd, tân trydan, teledu gyda Freesat, chwaraewr DVD, ffilmiau, gemau bwrdd a chysylltiad i'r rhyngrwyd Wi-fi am ddim.
Cegin/ystafell fwyta gyda'r unedau angenrheidiol yn cynnwys hob serameg, popty trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, tostiwr, tegell, haearn smwddio, llestri ar gyfer 6, bwrdd a 6 cader. Ystafell iwtiliti arwahan gyda peiriannau golchi a sychu dillad.
Ystafell wely gyda gwely maint king, cypyrddau dillad.
Ystafell wely gyda 2 wely sengl ac ystafell sengl - y ddwy wedi eu dodrefni gyda chypyrddau dillad.
Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod bwer oddi mewn, rheilen sychu tywelion, pwynt siafio, teiliau ar y waliau a llawr serameg.
Gardd
Gardd flodau y tu allan gydag ardal patio/barbaciw.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
Gwres canolog nwy a thrydan yn gynwysedig
Mae yma ramp at y drws cefn ar gyfer cadair olwyn
Cot a chadair uchel ar gael os dymunir. Mae cost fechan o £5.00 yr un ar gyfer glanhau'r offer cyn ac ar ôl eu defnyddio. Dewch â dillad eich hun ar gyfer y cot
Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu
Mae ardal parcio ar gyfer 2 gar gerllaw'r bwthyn