- £2,510 per week
- £359 per night
- 10 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Trwydded parcio ar gael
- Parcio ar y stryd
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Tŷ steilus o fewn pellter cerdded i ganol dinas Caerdydd. Gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol a lle i 10 gysgu, dyma’r llety perffaith ar gyfer aduniad teulu neu ffrindiau. Wedi ei leoli ar stryd breswyl dawel gyda siopau, bariau a bwytai Ffordd y Ddinas a Ffordd Albany gerllaw. Mae Caerdydd yn ddinas braf gyda nifer o atyniadau yn cynnwys chwaraeon yn Stadiwm Principality, Castell Caerdydd, Bae Caerdydd, Canolfan y Mileniwm, Neuadd Dewi Sant a nifer o ganolfannau siopa. Mae’r bywyd gyda nos yn wych gyda nifer fawr o lefydd i fwyta, yfed a mwynhau.
Llawr Gwaelod
Lolfa gyda lle tân traddodiadol, teledu Smart (yn cynnwys Netflix) a soffas cyfforddus (gyda gwely soffa dwbwl os oes angen).
Ystafell fwyta gyda bwrdd a chadeiriau ar gyfer 10, cadeiriau cyfforddus a drysau patio yn agor allan i’r ardd gefn.
Cegin â’r holl offer angenrheidiol gydag ynys a stolion, peiriant golchi llestri, popty a hob trydan, oergell/rhewgell maint llawn, meicrodon, tostiwr, tegell a drysau patio yn agor allan i’r ardd.
Ystafell iwtiliti gyda peiriant golchi dillad a mynediad i’r ardd
Ystafell ymolchi gydag uned gawod, toiled a basn.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 – gyda gwely dwbwl ac uned ymolchi, golygfeydd o’r ardd gefn.
Ystafell wely 2 – gwely dwbwl.
Ystafell wely 3 – dau wely sengl gydag uned ymolchi a storfa ddillad.
Ystafell wely 4 – gwely dwbwl.
Ystafell ymolchi 1 - gyda baddon a chawod oddi mewn, basn a thoiled.
Ystafell ymolchi 2 - gyda cawod, toiled a basn.
Tu Allan
Patio yn y cefn gyda palmant a graean, bwrdd a chadeiriau, pit tân a barbaciw.
Gwybodaeth Ychwanegol
· Y llety ddim i’w logi ar gyfer partion gwyllt
· Wedi ei leoli ar stryd preswyl
· Trydan a gwres yn gynwysedig
· Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
· Sychwyr gwallt
· Gemau bwrdd a dewis o DVDs a llyfrau
· Boiler mawr i sicrhau digon o ddwr poeth (delfrydol ar gyfer grwpiau mawr)
· Cadair uchel a chot trafeilio ar gael – gwnewch gais pan yn archebu. Dewch â dillad eich hun i’r cot
· Wi-Fi ar gael am ddim
· Trwydded parcio ar gael ar gyfer un car gyda parcio ychwanegol mewn mannau ar y stryd
· Dim ysmygu
· Anifeiliaid anwes – mwyafrif o 2 gi. Cŵn i’w cadw ar y llawr gwaelod
Gwybodaeth ar gyfer yr Anabl a’r Llai Abl
Mae toiled ac ystafell gawod ar y llawr gwaelod gyda gwely soffa yn y lolfa.
Mae grisiau i’r holl ystafelloedd gwely.