- £- per week
- £- per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
Cegin
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Llety moethus wedi ei leoli ar Heol y Porth yng nghanol dinas Caerdydd, ar draws y ffordd i stadiwm eiconig Principality. Wedi ei adnewyddu'n ddiweddar i safon uchel, dyma lety ar y llawr cyntaf, gyda popeth sydd gan Caerdydd i gynnig ar stepen y drws, yn cynnwys canolfannau siopa, bwytai, castell Caerdydd, clybiau nos, parciau a gerddi.
Llawr Cyntaf
Lolfa ac ardal fwyta gyda soffa'n eistedd 3, cadair freichiau, teledu ar y wal (freeview), bwrdd bwyta a chadeiriau steilus i 4.
Cegin gyda'r holl offer yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell a rhewgell llawn maint, hob serameg a phopty trydan.
Ystafell wely 1 - gwely maint king a chypyrddau dillad. Ystafell ymolchi en-suite gydag uned gawod, toiled a basn.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl gyda wal wydr unigryw (bleindiau preifatrwydd).
Ystafell ymolchi gyda drych mawr, baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Llety unigryw ar 2 lefel gyda ychydig o stepiau yn arwain i'r gegin, ystafell wely ddwbwl a'r ystafell ymolchi
- Mae'r llety ar y llawr cyntaf gyda mynediad i fyny grisiau (dim lifft)
- Y llety yn sicr ddim i gael ei logi ar gyfer partion
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Gemau bwrdd a dewis o DVDs a llyfrau
- Wi-Fi ar gael yn rhad ac am ddim
- Does dim parcio gyda'r llety ond mae digon o opsiynau gerllaw - mae parcio rhad ac am ddim i'w gael ar y stryd sydd 5 munud o gerdded i ffwrdd. Bydd yr holl fanylion a mapiau ar gael i'r gwesteion. Mae cyrraedd gyda trên neu fws yn ddelfrydol gan fod y llety yn agos i'r ddwy orsaf
- Dim ysmygu
- Dim anifeiliaid anwes